Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.
Adroddiadau Damweiniau Angheuol
O ran marwolaethau yn y diwydiant glo, trychinebau mawr y clywir amdanynt gan amlaf; mae’r trasiedïau hynny a gymerodd y nifer fwyaf o fywydau yn ysgytwol, a byddent wedi cael effaith ddychrynllyd ar gymunedau lleol. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd gofio bod llawer o farwolaethau’n digwydd o ddydd i ddydd yn y pyllau. Yn rhy aml o lawer gwelwn gofnodion coch yn y llyfrau damweiniau sy’n dynodi pan fyddai damwain wedi arwain at farwolaeth. Mae gennym gyfres o 113 o ffeiliau o Adroddiadau Damweiniau Angheuol a Ffeiliau Ymchwiliadau o’r cyfnod ar ôl 1947 o lofeydd ledled de Cymru, gan gynnwys Morgannwg, Sir Gâr a Gwent.

Ail-greu ar y wyneb damwain cadwyn halio, [c1950] (DNCB/14/2/24/3)
Sylwch gall mynediad at ddeunyddiau llai na 100 mlwydd oed fod yn gyfyngedig.