Cylchgrawn Ocean and National Coal, 1934: Myfyrdodau ar Ddydd y Cadoediad

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r seithfed mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

**********

D1400-9-7-11 Page 375

Roedd 1934 20 mlynedd wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar gyfer rhifyn mis Tachwedd Cylchgrawn Ocean and National Coal, neilltuwyd adran fawr i drafod barn ar y rhyfel hwnnw a’r tebygrwydd y byddai rhyfel yn y dyfodol.

D1400-9-7-11 Page 371

Egyr y cylchgrawn gyda gair y golygydd gan yr Arglwydd Davies o Landinam, perchennog y cylchgrawn (fel arfer ni fyddai ond yn ysgrifennu erthygl olygyddol yn rhifyn y Nadolig).  Cychwynna’r darn gydag atgofion Davies o sut yr ymdrinnid â’r rhyfel ar y pryd. Mae’r Arglwydd Davies yn tebygu mynd i ryfel â chyfnod pan arferai pobl ateb anghydfod trwy ymladd, trwy ornest neu frwydr. Yna, dywed fod y rhain wedi eu disodli gan egwyddorion o gyfraith a threfn, ond nad oedd trefn o’r math ar gyfer anghydfod rhwng cenhedloedd cyn creu Cynghrair y Cenhedloedd wedi’r rhyfel. Fodd bynnag, nid oedd y sefydliad hwnnw y tu hwnt i feirniadaeth yr Arglwydd Davies, a honnai:

…we have helped to turn it into a debating society.

Daroganai ryfel arall yn Ewrop, a ddeuai heb rybudd ac na allasid ei atal ond trwy Dribiwnlys a grym heddlu.

Photo 6-Bombs were dropped and no damage was done

Dros y tudalennau nesaf, ceir atgofion cyflogeion pyllau glo Ocean and National o’r rhyfel, a’r nod oedd dwyn perswâd ar y darllenwyr bod heddwch yn ddewis gwell na rhyfel. Mae rhai ffotograffau hefyd, a dau yn dangos adeiladau yn Llundain wedi eu bomio. Dengys un ffotograff teimladwy griw o filwyr meirw dan deitl ‘Diwedd yr Argyfwng!’ (‘Crisis Over!’) Yn ogystal â’r ffotograffau, cyfeiria dwy erthygl bapur newydd, a ail-argraffwyd o’r Daily Express a Le Matin, at ddigwyddiadau brawychus yn ystod y rhyfel.

Photo 7-War Fever Crisis Over

Neilltuwyd rhan olaf y cyflwyniad hwn i’r rhyfel yn cychwyn gyda chartŵn yn dangos cawr o ddyn yn dwyn yr enw ‘Rhyfel’ yn cael ei saethu gan long awyr yn perthyn i’r Heddlu Rhyngwladol. Teitl y cartŵn yw Taro’r Targed! (‘A Direct Hit!’) a cheir sylwad gan y cartwnydd, Mr Dick Rees, yn dweud gorau po gyntaf!

Teitl yr erthygl olaf yn y rhifyn gwrthryfel yw’r Twrw Hynaf (‘The Oldest Racket’) a’r is-deitl Yn Eisiau: Heddlu Newydd (‘Wanted: A New Police Force!’) – ac ynddi, cyflwynir yr achos dros ffurfio Heddlu Rhyngwladol, naill ai i ddisodli Cynghrair y Cenhedloedd neu:

…or its effective reinforcement by the addition of the power which enables the Council to enforce its decisions.

Trafodid yr Heddlu newydd hwn yn fanwl yn rhifyn mis Rhagfyr 1934.

Cartoon 4-A Direct Hit

O’r rhifyn hwn tan rifyn olaf y casgliad yn niwedd 1936, dygai’r cylchgrawn air gwrthryfel. Er nad oedd yr Ail Ryfel Byd wedi cychwyn eto, ym 1936 cychwynnodd Rhyfel Cartref Sbaen a chyn hynny ymosododd yr Eidal ar Abysinia (Ethiopia) ym 1935 a Siapan ar ardal Manshwria yn Tsieina ym 1931.

Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

One thought on “Cylchgrawn Ocean and National Coal, 1934: Myfyrdodau ar Ddydd y Cadoediad

  1. Cylchgrawn Ocean and National Coal, 1934: Myfyrdodau ar Ddydd y Cadoediad - Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s