Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r pedwerydd mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

[Delwedd: Clawr, Ionawr 1931, D1400 / 9/4/1]
Law yn llaw ag erthyglau ar faes glo’r de, ceir erthyglau eraill gwahanol yn y cylchgrawn, gan gynnwys erthyglau teithio. Ym 1931 a 1932 ar dudalennau’r cylchgrawn gwelwyd cyfres o erthyglau a ysgrifennwyd gan W.H. Becker, cyfarwyddwr y Meistri. Latch and batchelor Ltd., Gwneuthurwyr Rhaffau Dur, Birmingham, yn trafod ei ymweliad ag Awstralia a Seland Newydd. Dechreuodd yr erthyglau ym mis Mawrth 1931, a pharhau hyd Awst 1932.

[Yr SS Empress of Scotland, yn gadael Llociau Miraflores]
Mae Becker yn dechrau ei adroddiad â’r daith o Southampton i Gamlas Panama. Bu’n freuddwyd gan Becker i ymweld â Chamlas Panama a thrwy ei ddisgrifiad manwl o’r daith saith awr ar ei hyd, gall darllenwyr weld na chafodd ei siomi. Ar gwblhau’r daith i ben draw Camlas Panama, mae rhifyn Ebrill 1931 yn parhau â mordaith Becker ar draws y Môr Tawel, gan gynnwys croesi’r Cyhydedd, lle disgrifia Becker y tywydd fel eithriadol o oer. Wrth i’w daith ar draws y Môr Tawel fynd rhagddi, mae Becker yn cofnodi cwrdd â thrigolion Ynysoedd Pitcairn ac yn disgrifio peth o’r bywyd gwyllt a welodd ar ei daith.

[Cip ar Ynys Pitcairn a rhywfaint o’i thrigolion gwrywaidd]
Wedi croesi’r Môr Tawel, glania Becker yn Wellington yn Seland Newydd. Yn ôl ei erthygl yn rhifyn mis Mai 1931, fe welwn Becker yn darganfod Wellington, cyn croesi i Ynys y De, Seland Newydd a mwynhau taith gyffrous mewn car trwy gefn gwlad bryniog, dyffrynnoedd coediog a dwy gadwyn o fynyddoedd. Mae’n dwyn i gof nad oedd rhan olaf y daith yn arbennig o gyflym, ar gyfartaledd yn teithio ar gyflymder o wyth milltir yr awr oherwydd y troadau yn y ffordd. Parhaodd i deithio drwy Ynys y De yn rhifyn Mehefin, gan ymweld â Nelson, lleoliad daeargryn a darodd yno ym 1929.

[Ffordd foduro nodweddiadol yn Seland Newydd]
Gan barhau ar Ynys y De, edrydd rhifyn Gorffennaf am Becker yn ymweld â phyllau glo yn Greymouth a melinau coed yn Hokitika. Gwelwyd nifer o wythiennau glo yn agos at y ffordd yn ardal Greymouth ac fe arhosodd y criw teithio ger un o’r gwythiennau i siarad â chriw o lowyr – gan ddarganfod fod rhai o’r gweithwyr wedi dod draw o wledydd Prydain, gan gynnwys Evan Jones, glöwr o dde Cymru!

[Criw o lowyr hapus yr olwg, Greymouth, Seland Newydd]
Yn rhifyn Awst a Medi, cawn hanes Becker yn dringo rhewlif Franz Joseph, yna’n dal y trên i Christchurch. Erbyn diwedd 1931 mae Becker wedi dychwelyd i Wellington, lle mae’n ymweld ag adeiladau’r Senedd. Gan anelu am Auckland, mae’n disgrifio Wairakei a’r ffynhonnau poethion yn y warchodfa genedlaethol.

[Ffynnon Boeth Plu Tywysog Cymru]
Er mai ‘Mordaith i Awstralia’ oedd teitl hanes Becker, erbyn diwedd 1931 yr oedd yn dal i fod yn Seland Newydd ac ni chyrhaedda Awstralia tan rifyn mis Ebrill 1932, lle ceir cofnod ganddo o weld Pont Harbwr Sydney bron iawn â chael ei chwblhau. Ymddangosodd yr erthygl olaf am y fordaith yn rhifyn mis Awst 1932.
Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Clawr, Ionawr 1931, D1400/9/4/1
Yr SS Empress of Scotland, yn gadael Llociau Miraflores, D1400/9/4/3, t.89
Cip ar Ynys Pitcairn a rhywfaint o’i thrigolion gwrywaidd, D1400/9/4/4, t.121
Ffordd foduro nodweddiadol yn Seland Newydd, D1400/9/4/5, t.162
Criw o lowyr hapus yr olwg, Greymouth, Seland Newydd, D1400/9/4/7, t.231
Ffynnon Boeth Plu Tywysog Cymru, D1400/9/4/11, t.398