Cofnodion Plwyf

 Mae cofnodion plwyf yn ymddangos fel y 75ain eitem a dderbyniwyd ar bedwar achlysur: 1967, 1970, 1977 ac 1980.

Gall cofnodion plwyf ymwneud â’r plwyf sifil neu’r plwyf eglwysig. Sefydlwyd Cynghorau Plwyf Sifil gan Deddf Llywodraeth Leol 1894. Roedd y plwyf sifil yn ysgwyddo rhai o’r cyfrifoldebau yr arferai’r plwyf eglwysig fod yn gyfrifol amdanynt. Gall cofnodion plwyf gynnwys cofnodion festri, cofrestri gwasanaeth, cofnodion Cyngor y Plwyf a chynlluniau degwm, yn ogystal â chofrestri bedydd, priodasol ac angladdol. Mae’r cyfan o’r rhain yn adnoddau hanes lleol a hanes teulu gwerthfawr.
Mae gan Archifau Morgannwg fwy na chwe mil o gofnodion yn y catalog ar gyfer cofnodion plwyf yn dyddio o’r 1500au i’r 2000au.
Mae bellach yn haws nag erioed o’r blaen i ddefnyddio cofrestri plwyf i chwilio hanes eich teulu. Mae cofrestri a gedwir gan Archifau Morgannwg wedi cael eu mynegeio a’u digideiddio. Tynnir llun o bob tudalen yn y gofrestr ac mae ar gael ar-lein drwy Find My Past neu yn ein hystafell chwilio dogfennau drwy Plwyf, ein cronfa-ddata cofrestri plwyf fewnol.

Gall Cofrestri Plwyf nid yn unig fod yn ffynhonnell wybodaeth ar gyfer hanes teulu, ond hefyd ar gyfer llawer mwy. Mae Cofrestr Bedydd Gatholig Dewi Sant Caerdydd (1836-1855) yn cynnwys rhestr o’r rhai a fu farw o’r Colera ym 1849. Mae’r rhestr o chwe deg wyth o enwau yn dangos yr effaith andwyol y gallai epidemig o’r fath ei chael ar gynulleidfa.

D29-1-1 Cholera

Mae Cofrestr Angladdau 1849 ar gyfer Merthyr Tudful yn croniclo marwolaeth anesboniadwy. Ar 19 Hydref mae corff dienw yn cael ei gladdu ar ôl cael ei ‘ganfod wedi boddi ym mhwll Mr A. Hills’.

stranger drowned

Roedd y 75ain eitem ar gyfer y blynyddoedd 1967 a 1970 ill dwy yn gynlluniau degwm (Cyf: P/97 Parish of Marcross and P/80/2b Parish of Coity Lower.) Fel arfer mae cynlluniau degwm yn dyddio o’r 1840au cynnar ac i lawer o blwyfi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, y rhain yw’r mapiau hynaf sydd ar gael. Degwm oedd math o dreth a dalwyd gyda nwyddau – gyda chynnyrch o diroedd y plwyf – ac yn ddiweddarach fel swm o arian, gan y plwyfolion i eglwys y plwyf a’r clerigwyr. Mapiau sy’n dangos y tir o fewn y plwyf yw’r cynlluniau hyn mewn gwirionedd, ac yn y dosraniadau sydd ynghlwm wrthynt mae enwau’r perchenogion a deiliaid y tir, y defnydd a wneir o’r tir ac adeiladau, a faint o ddegwm sy’n ddyledus i’r eglwys o’r darn o dir hwnnw. Maent yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer chwilio hanes lleol a hanes tai.

 P80-2 06

Y 75ain eitem olaf ar gyfer Cofrestri Plwyf oedd casgliad o gofnodion plwyf sifil o Gyngor Plwyf Llys-faen (Cyf: P56). O ddarllen cofnodion y cyfarfod ym Mehefin 1939 gallwch weld fod eu pryderon yn adlewyrchu’r rheiny a geir mewn cyngor modern – goryrru, gwasanaethau bws a sbwriel!

 P56-1-1 01

 

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s