Pam buddsoddi mewn hyfforddiant?

Fel rhan o’r project Diogelu Treftadaeth Cymunedau Lleol (CLOCH), bu Archifau Morgannwg yn gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai, sef coleg Addysg Bellach yn y gogledd, ers bron tair blynedd i gyflwyno’r cwrs Tystysgrif Lefel 2 Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth i hyfforddeion CLOCH.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae staff Archifau Morgannwg a’n partneriaid project wedi cwblhau hyfforddiant asesu a sicrhau ansawdd i gynorthwyo’r broses o gyflwyno’r hyfforddiant, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol gan Cymal: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru sydd wedi galluogi hyn. Rydym oll wedi dysgu o’r profiad hwn, ond mae’r buddiannau’n golygu roedd yn werth chweil mynd i’r afael â’r heriau.

Mae rhagor o wybodaeth am gefndir project CLOCH ar gael yma http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/content.asp?nav=2,45&parent_directory_id=1&language=cym ac mae’r lleoliadau sy’n para blwyddyn yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol a fydd yn galluogi’r hyfforddeion i ddatblygu eu gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o leoliadau yn y sector treftadaeth. Roeddem o’r farn ei bod yn bwysig darparu fframwaith ar gyfer yr hyfforddiant hwn, yn ddelfrydol wedi’i seilio ar gymhwyster neu ddysgu achrededig, er mwyn sicrhau y byddai gan yr hyfforddeion rywbeth mesuradwy ar ddiwedd eu blwyddyn gyda ni – a dyna yw diben y cymhwyster Lefel 2.

Yn ein barn ni, mae wyth uned y cymhwyster yn sicrhau bod gan yr hyfforddeion y sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sylfaenol drylwyr sydd eu hangen arnynt i weithio fel cynorthwyydd llyfrgell, cynorthwyydd archifau neu staff ystafell chwilio. Roeddem yn gallu bod yn hyderus y byddai cwblhau’r cymhwyster yn profi i ddarpar-gyflogwyr fod gan yr hyfforddeion y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, gan fod y cymwysterau wedi’u datblygu gan weithwyr proffesiynol yn y sector.

Mae chwech o’r unedau yn ymdrin â sgiliau ymarferol, a chaiff hyn ei gyflwyno a’i asesu yn y gweithle yn llwyr. I aelod o staff presennol, efallai mai diben astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 2 fyddai gwella dealltwriaeth a gwybodaeth yn hytrach na datblygu sgiliau newydd. Mae’r ffordd y caiff y sgìl ei asesu yn dangos bod y dysgwr yn deall pam ei fod yn gwneud rhywbeth, yn hytrach na dim ond sut i’w wneud. Mae’n hawdd iawn i bawb syrthio i’r fagl o wneud rhywbeth gan ein bod wastad wedi’i wneud yn y ffordd honno, neu roi cyfarwyddiadau i staff newydd sy’n dangos iddynt sut i wneud rhywbeth – er mwyn eu galluogi i fynd y tu ôl i’r cownter a dechrau helpu ein defnyddwyr – yn hytrach nag esbonio pam ein bod yn gwneud hynny. Yn ogystal â rhoi prawf ar sgiliau ein hyfforddeion, mae astudio ar gyfer y cymhwyster wedi cymell eu cydweithwyr a’u goruchwylwyr i adolygu ac ailystyried pam eu bod yn gwneud y pethau a wnânt. Pan rydych yn gweithio mewn gwasanaeth prysur, prin y cewch amser i wneud hynny.

Mae dwy uned yn unedau gwybodaeth sy’n eich galluogi i ystyried eich gwasanaeth eich hun yn fanylach, ac sy’n ymdrin â chyd-destun ehangach y sector treftadaeth hefyd. Mae ein hyfforddeion wedi astudio ar gyfer y cymhwyster hwn mewn amryw o leoliadau gwahanol, o wasanaethau archifau ac amgueddfeydd i lyfrgelloedd cangen bychain a llyfrgelloedd canolog prysur, a chânt y cyfle i ymweld â lleoliadau eraill i weld sut mae gwasanaeth gwahanol yn gweithredu. Mae’r gwahaniaethau hyn hefyd yn effeithio ar eich rôl rheng-flaen yn y llyfrgell neu’r gwasanaeth archifau, ac mae hefyd yn gwneud i chi ystyried sut mae’r gwahaniaethau hyn yn effeithio ar y bobl sy’n dod i mewn i ddefnyddio eich llyfrgell neu archifau.

Mae dwyn ynghyd dysgwyr o wasanaethau gwahanol wedi helpu i rannu arfer gorau hefyd. Mae ein hyfforddeion wedi cwblhau un o’r unedau mwy technegol – ar warchod, diogelu a chopïo gwybodaeth a/neu ddeunydd – yma yn yr archifau lle mae’r sgiliau hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ddiogelu a chadwraeth a gofalu am ddogfennau bregus. Gall yr hyfforddeion fynd â’r sgiliau mwy arbenigol hyn allan i’w llyfrgelloedd a’u gwasanaethau astudiaethau lleol a rhannu eu gwybodaeth.

Rydym yn gobeithio bod ein hymglymiad â’r cymhwyster hefyd wedi codi proffil cymwysterau galwedigaethol yn y sector hefyd. Ar adeg pan fo sgiliau proffesiynol yn wynebu perygl yn sgîl toriadau cyllidebol a’r posibilrwydd y gellir trosglwyddo gwasanaethau i gymunedau neu wirfoddolwyr, mae’n bwysig dangos bod angen hyfforddiant a sgiliau proffesiynol ar staff ar bob lefel. O ddiogelu data i iechyd a diogelwch, o weithio gydag oedolion neu blant sy’n agored i niwed i weithredu gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg – mae dysgwyr sydd wedi cyflawni’r cymhwyster Lefel 2 yn deall pam fod y pethau hyn yn bwysig, a sut y maent yn effeithio ar y pethau a wnânt o ddydd i ddydd. Weithiau mae’n rhy hawdd i gymryd yn ganiataol yr hyn a wna ein hyfforddeion a’n holl staff drwy’r dydd, bob dydd i gynorthwyo pawb a ddaw i mewn i’r llyfrgell, yr archifau neu’r amgueddfa.

Mae ein gwaith i gyflawni’r cymhwyster galwedigaethol dysgu seiliedig ar waith wedi cael effaith gadarnhaol ar ein hyfforddeion, ein partneriaid project, eu staff a’n gwasanaethau, a byddai’n wych i weld mai un o effeithiau project CLOCH fyddai bod mwy o staff yn astudio cymwysterau galwedigaethol ac y byddai Cymal yn parhau i ariannu cynorthwyo datblygu sgiliau ar bob lefel.

Emma Stagg, Rheolwr Prosiect CLOCH

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s