Cofnodion Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

Y 75ed eitem a dderbyniwyd yn 2004 oedd dyddiadur Cangen Morgannwg Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr o 1921, a elwid hefyd yn ‘Blwyddlyfr yr Amaethwyr’.

Blwyddlyfr yr Amaethwyr

Blwyddlyfr yr Amaethwyr

Sefydlwyd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ym 1908 yn dilyn cyfarfod yn Sioe Smithfield. Ymunodd y cynrychiolwyr cyntaf o Gymru, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, y flwyddyn honno, gyda phob sir arall Cymru yn ymuno dros y blynyddoedd nesaf.

Ym 1921, roedd swyddfeydd Cangen Morgannwg yn rhif 2 a 3 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr. Noah Morgan oedd Llywydd Cangen Morgannwg.  Mae holl swyddogion a chyfreithwyr y gangen wedi’u rhestru yn y dyddiadur. Rhestrir manylion pob un o is-ganghennau Morgannwg, gan nodi enwau’r Cadeiryddion, yr Ysgrifenyddion a’r cynrychiolwyr. Roedd y canghennau yn cynnwys:

  • Aberdar
  • Melin Ifan Ddu
  • Penybont-ar-Ogwr
  • Caerdydd
  • Y Bontfaen
  • Gwyr (De)
  • Gwyr (Canolog)
  • Gwyr (Gogledd)
  • Llansamlet
  • Llanilltud Fawr
  • Llanilltud Faerdre
  • Llantrisant
  • Llanwynno
  • Llysfaen
  • Maesteg
  • Merthyr
  • Castell Nedd
  • Ffos y Gerddinen
  • Pencoed
  • Y Pil
  • Pontypridd
  • Pontardawe
  • Gorllewin Morgannwg

Roedd gan Gangen Morgannwg nifer o is-bwyllgorau hefyd, sef y Pwyllgor Llafur, y Pwyllgor Cyfreithiol a’r Pwyllgor Llaeth. Rhestrwyd enwau swyddogion y pwyllgorau hyn yn y dyddiadur hefyd.

Mae cynnwys y dyddiadur yn amrywiol.  Mae’n cynnwys nifer o erthyglau:‘The Old Glamorgan Pig’ gan yr Henadur Illtyd Thomas, ‘The Vale of Glamorgan Heavy Horse Society’ gan D. C. Watts o’r Bont-faen, ac erthygl am Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr gan y Llywydd Cenedlaethol E. W. Langford.

Ochr yn ochr â’r erthyglau hyn, ceir darnau byrrach sy’n cynnig cyngor ar faterion penodol megis trethiant (gan gynnwys y lwfans gwraig a lwfans ceidwad tŷ), taliadau degwm, manylion cyfansoddiad llaeth gwartheg, ac arweiniad ar sut i amcangyfrif cynnwys teisi gwair, bwsielau ceirch, barlys a gwenith, a chanfod pwysau gwartheg.

Ceir crynodeb o fusnes y Gangen am y flwyddyn. Ymhlith y pynciau a drafodwyd mae deddfwriaeth a rheolaeth lywodraethol, cyflogau ac oriau gwaith, gweithredoedd tir, prisiau llaeth, gwlân, gwenith, trethiant lleol, pwysau a mesurau ac achosion cyfreithiol.

Mae’r dyddiadur yn rhestru enwau Arglwydd Raglawiaid Cymru ac Aelodau Seneddol Morgannwg, dyddiadau prif ffeiriau a marchnadoedd de Cymru ar gyfer 1921, a dyddiadau eclipsau ar gyfer y flwyddyn. Ceir hysbysebion peiriannau fferm, cyflenwyr ac asiantau hefyd.

Mae’r dyddiadur yn cynnwys tablau bridwyr ar gyfer pob mis, sy’n cynorthwyo ffermwyr i gyfrifo dyddiadau esgor disgwyliedig cesig, gwartheg, defaid, geifr a hychod, ynghyd â thablau cyfrifon arian parod.

Yn ddiau byddai Blwyddlyfr yr Amaethwyr wedi bod yn adnodd defnyddiol ar gyfer ffermwyr ledled Morgannwg.

One thought on “Cofnodion Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

  1. Diolch yn fawr am rannu hyn. Fel mae’n digwydd mae gen i ddiddoreb yn nheulu Illtyd Thomas, ac yn arbennig yn ei dad George Thomas (1821-1898), Ely Farm. Tybed a wyddoch a yw papurau’r teulu wedi eu cadw yn rhywle?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s