Trychineb Awyr Llandŵ, 12 Mawrth 1950

Ymysg y cofnodion sy’n cael eu cadw yn Archifdy Morgannwg ceir set o bapurau gyda manylion am yr ymchwil a wnaed gan HTV yn gefndir i raglen ddogfen a ddarlledwyd yn 1990, ‘Shadow Across the Sun’. Mae’r casgliad o lythyrau, ffotograffau ac adroddiadau papur newydd yn adrodd hanes digwyddiadau trasig 12 Mawrth 1950, pan gollodd 80 o bobl eu bywydau yn yr hyn oedd, ar y pryd, y drychineb waethaf yn hanes hedfan sifil.

Ar un prynhawn Sul, cododd awyren Avro Tudor, â’r enw côd Star Girl, i’r awyr yn Nulyn gyda 78 teithiwr a 5 aelod o’r criw ar ei bwrdd.  Roedd yr awyren wedi’i llogi i fynd â chefnogwyr rygbi Cymru i gêm Iwerddon v Cymru a gynhaliwyd y diwrnod cynt. I lawer, dyma oedd eu profiad cyntaf o deithio mewn awyren.  Roedd popeth wedi mynd yn dda ar y daith allan o Landŵ i Ddulyn, ac roedd y cefnogwyr wedi dathlu Cymru yn sicrhau’r Goron Driphlyg gyda buddugoliaeth agos o 6 phwynt i 3 dros y Gwyddelod yn Ravenhill.  Ar y daith yn ôl, fodd bynnag, wrth i’r awyren agosáu at faes awyr Llandŵ, collodd uchder, yna codi’n sydyn cyn taro’r ddaear nid nepell o’r llain lanio. Bu farw’r criw o 5 a’r 75 o deithwyr er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau achub.  Roedd y tri a oroesodd, Handel Rogers, Gwyn Anthony a Melville Thomas, wedi bod yn nghynffon yr awyren a lwyddodd yn wyrthiol i osgoi y rhan fwyaf o effeithiau’r trawiad.   Roedd adroddiad y Weinyddiaeth Hedfan Sifil yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r rheswm dros y drychineb, er y credid fod y dosbarthiad pwysau wrth lwytho’r awyren wedi effeithio ar ei sefydlogrwydd a’i llywio.

Yn ôl yr ymchwil a gasglwyd gan HTV, prin fod ‘na un gymuned yn y De nad oedd wedi ei chyffwrdd gan y drychineb. Roedd y rhestr teithwyr yn cynnwys pobl o bob cefndir. Roedd llawer wedi archebu a theithio fel grwpiau o drefi a phentrefi lleol. Roeddent yn cynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr o sawl clwb rygbi. Fel arwydd o barch aeth clwb Abercarn ati wedi hynny i ymgorffori propelor ym mathodyn y clwb, ac ar fathodyn Llanharan RFC rhoddwyd croes ddu. Yn y cwest dywedodd y crwner, oedd dan deimlad oherwydd anferthedd y drychineb:

The disaster is unparalleled in recent times in South Wales and it is comparable only to the great colliery disasters of the past.

Darlledwyd rhaglen HTV yn nodi 40 mlwyddiant y drychineb ym mis Mawrth 1990. Daeth llawer ymlaen i sôn am eu profiad o’r drychineb, er i eraill, roedd yr atgofion yn dal yn llawer rhy boenus. Un canlyniad i’r rhaglen oedd galw am gofeb barhaol i nodi’r drychineb a chofio’r rhai a fu farw ar 12 Mawrth 1950.  Gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru a HTV ymatebwyd i hyn wrth ddadorchuddio cofeb yn Nhresigin ar 12 Medi 1990, union 6 mis wedi’r deugeinfed pen-blwydd.

Programme

Wedi’i leoli’n agos at safle’r ddamwain, cafodd ei dadorchuddio gan ddau o’r goroeswyr, Handel Rogers a Melville Thomas. Gwnaed y gofeb o garreg o chwarel leol yn Ewenni ag arni blac llechen.  Roedd ei neges yn syml ac uniongyrchol:

On Sunday 12 March 1950 a Tudor V Aeroplane returning from Dublin crashed 200 yards from this spot as it approached Llandow Aerodrome. 75 Welsh rugby supporters and 5 crew died. There were just 3 survivors. In Belfast the day before, Wales had won the Triple Crown.

Roll of honour 2

Mae papurau HTV yn cynnwys yr ymchwil ar gyfer ‘Shadow Across the Sun’ a’r cefndir i ddadorchuddio’r gofeb yn Nhresigin. Gellir eu gweld yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DX651.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg