Slwtsh!

Flynyddoedd yn ôl, prynodd Archifau Morgannwg beiriant gwactod, sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol yn ddiweddar i becynnu negyddion nitrad ac asetad seliwlos a oedd yn dirywio, i’w trin yn ddiogel cyn eu rhewi. Roedd y staff cadwraeth yn dechrau pendroni ynghylch ffyrdd eraill o ddefnyddio’r peiriant pan ddaeth rhifyn mis Tachwedd o gylchlythyr ICON i law. Roedd yn cynnwys erthygl gan Hiromi Tanimura ar slwtsh-sychu llyfrau a ddifrodwyd gan ddŵr y tswnami. Datblygwyd y dull ‘squelch’ gan Stuart Welch, ac fe’i defnyddiwyd am y tro cyntaf yn 2002 wrth ddelio â difrod llifogydd Prâg yn Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec.

Roedd slwtshian yn swnio fel tipyn o hwyl! Felly, fe benderfynon ni ymchwilio i’r dull ymhellach a rhoi cynnig arno ein hunain. Treialwyd y dull ar ddau lyfr clawr caled modern – dad-dderbyniadau’r llyfrgell. Cawsant eu rhoi mewn bwced a lenwyd â dŵr a’i adael dros nos. Roedd tudalennau’r llyfrau wedi’u hymledu yn y treial cyntaf oherwydd roedden ni eisiau i’r cyfrolau fod mor wlyb â phosib.

Bwced

Y bore nesa, cafodd y llyfrau eu tynnu allan o’r dŵr a gwasgwyd cymaint â phosib o’r dŵr allan ohonynt, yn ofalus iawn, gan ddefnyddio’n dwylo. Yna cawsant eu lapio mewn bondina (ffabrig polyester heb ei wehyddu), sy’n gweithredu fel dihangfa ac yn atal y cyfrolau rhag glynu wrth y papur newydd y maent wedi’u lapio ynddo, cyn iddynt gael eu bagio a’u pacio mewn gwactod yn y peiriant.

Lapio mewn papur newydd

Mae lapio mewn bondina yn lleihau costau oherwydd mae’n atal inciau rhag llifo hefyd. Gellir defnyddio unrhyw fath o bapur amsugnol, gan gynnwys papur newydd, sy’n lleihau costau oherwydd ni fydd angen prynu symiau mawr o bapur blotio drud.

Wedi pacio

Ar ôl i’r gyfrol a’r deunydd lapio gael eu selio a’u pacio mewn gwactod, maent yn cywasgu i mewn i floc solet. Gan fod y gyfrol mor gompact erbyn hyn, caiff y dŵr ei wthio allan o’r byrddau a’r blociau testun i mewn i’r papur newydd. Unwaith y bydd y papur newydd yn wlyb caiff y broses ei hailadrodd gyda phapur neu flotwyr wedi’u rhoi rhwng y tudalennau wrth i’r gyfrol sychu. Ar ôl y 4 neu 5 newid cyntaf, dim ond bob 24 awr y bydd angen newid y deunydd lapio a’r deunydd rhwng y tudalennau.

Prif fanteision y broses hon yw, unwaith y bo’r gyfrol yn sych, mae’n dal i edrych fel cyfrol, yn agor ac yn cau fel y dylai wneud, yn wahanol i gyfrolau sy’n cael eu sychu gan aer, sy’n ymledu a thewhau. Mae gwaredu’r aer yn cael gwared ar y risg o lwydni, felly gellir cadw’r gyfrol mewn bag yn ei deunydd lapio am gryn amser. Mae’n rhwydd stacio cyfrolau cywasgedig, sy’n golygu bod angen llai o le i storio. Mae hyn, ynghyd â’r cyfnod y gellir eu gadael cyn newid y deunydd lapio, yn arbennig o ddefnyddiol wrth reoli argyfwng mawr, neu os bydd angen symud eitemau o un lle i’r llall.

Yr unig problem a welsom ni gyda’r dull hwn yw bod meingefnau’r cyfrolau yn cael eu gwthio i mewn, gan effeithio ar siâp y gyfrol i raddau, sy’n golygu bod ymyl blaen y blwch testun yn gwthio allan o’r byrddau. Ond mae’n bosibl bod hyn gan ein bod wedi defnyddio llyfrau modern a rwymwyd yn rhad. Rydyn ni wrthi’n arbrofi drwy ddefnyddio ffurfydd i ddal ymyl y bag a gyda chyfrolau hŷn, cadarnach, i weld a fydd y meingefn yn dal i symud. Ond ar y cyfan, rydyn ni’n mwynhau chwarae gyda’r peiriant a dweud wrth ymwelwyr ein bod ni’n slwtshian!