Yn 2007 derbyniwyd fel ein 75ain eitem ar y rhestr gofnodion yn Archifau Morgannwg papurau sy’n ymwneud â’r Parchedig Benjamin Evans (Telynfab) o Aberdâr (cyf.: DX555). Mae’r papurau yn cynnwys cyfres o ffotograffau o’r Parchedig Evans a’i ddisgynyddion.
Ganed Benjamin Evans yn Nowlais ym 1844. Bu’n gweithio fel glöwr cyn cael lle i astudio yng Ngholeg y Bedyddwyr Hwlffordd. Wedi’i ordeinio ym 1871, symudodd i Aberdâr ym 1876 lle daeth yn weinidog yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg y Gadlys. Yn ystod ei gyfnod fel gweinidog y Bedyddwyr bu’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cymdeithas Cenhadon y Bedyddwyr. Roedd hefyd yn un o aelodau cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr, bu’n glerc i lywodraethwyr Ysgol Ramadeg i Fechgyn Aberdâr, ac yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu ar Fwrdd Ysgol Aberdâr. Cymerodd ran mewn Eisteddfodau lleol a chyhoeddwyd nifer o’i lyfrau.
Priododd y Parchedig Benjamin Evans ag Ann James a chawsant chwech o blant gyda’i gilydd. Bu farw yn 1900.
Ymhlith y sawl a welir yn y ffotograffau mae’r Parchedig Evans ei hun a’i wraig Ann, yn ogystal â’u merch ieuengaf Ethel. Priododd Ethel Evans â’r Parchedig Robert Gwenffrwd Hughes, a ddaeth hefyd yn weinidog yng Nghapel y Gadlys, a gwelwyd eu mab Percival Arwyn Hughes yn y ffotograffau hefyd.
Yn ogystal â dangos agweddau ar hanes cymdeithasol a chrefyddol de Cymru, mae’r ffotograffau hyn hefyd yn cyfrannu at hanes personol y teulu Evans a’r teulu Hughes.