Rhestr Goffa Bythynnod Aberdâr

I goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, ymchwiliais i enwau’r dynion ar Restr Goffa Bythynnod Aberdâr, sy’n cael ei chadw yn Archifau Morgannwg.

Aberdare Roll of Honour compressed

Mae cyfanswm o 83 o enwau ar y rhestr. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar gyfer rhai nag eraill, ac ar ôl cynnal ymchwil cychwynnol mae’n debyg i bob un ohonynt fynychu’r Ysgol Ddiwydiannol yn Nhrecynon, Aberdâr.

Yn ôl Cyfeiriadur Kelly ym 1910:

The Industrial School of Merthyr Tydfil Union, Trecynon, to give it its correct title, was built in 1871 by the Guardians, originally used as an Infirmary, and in 1877 converted to its present use. There is a new receiving home, also 2 Cottage Homes; the School is intended to separate pauper children from the influence of the adults, and gives a training to the children in different trades and occupations, and there is an industrial trainer for each department. The institution holds 200 children, with Thomas J Owen as Superintendent.

Cynhaliwyd fy ymchwil mewn dwy ffordd; ffynonellau sylfaenol gan ddefnyddio dogfennau a gedwir yn Archifau Morgannwg a ffynonellau eilaidd ar-lein drwy Ancestry, Find My Past, Forces War Records a gwefan papur newydd The Aberdare Leader.

Yn yr Archifau, dechreuais drwy chwilio drwy’r catalog ar-lein er mwyn cael gafael ar y dogfennau sy’n cael eu cadw yno. Roedd y rhain yn cynnwys cofnodion yr ysgol ddiwydiannol a’r bythynnod; cofrestr Ysgol Fechgyn Aberdâr; llyfrau cofnodion Bwrdd y Gwarcheidwaid a chofrestrau derbyn a rhyddhau gweithdy Undeb Merthyr.

Treuliais fisoedd yn darllen drwy’r dogfennau hyn yn chwilio am yr enwau ar y rhestr; weithiau neidiodd yr enwau allan ata i, ond ar adegau eraill dim ond aelodau o’r teulu y gallais ddod o hyd iddynt. Fesul tipyn, rhoddais eu bywydau cynnar at ei gilydd. Ochr yn ochr â hyn, roeddwn i’n pori’r we yn ceisio olrhain manylion geni, gan gynnwys cofnodion y cyfrifiad a hanes milwrol. Galluogodd hyn i mi ddysgu am straeon y dynion hyd at a chan gynnwys y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymhob cofnod personol, rydw i wedi defnyddio cod lliw wrth ddogfennu’r ymchwil – du ar gyfer y wybodaeth yn y dogfennau yn yr Archifau, gwyrdd ar gyfer gwybodaeth gyffredinol y daethpwyd o hyd iddi ar-lein, a choch ar gyfer gwybodaeth filwrol a welwyd ar-lein.

Datgelodd rhai o’r enwau hanes cudd, diddorol, tra bod eraill heb esgor ar fawr ddim oherwydd diffyg gwybodaeth gychwynnol. Yn eu plith mae pedwar milwr a enillodd y Fedal Filwrol, un a gafodd Fedal Ymddygiad Neilltuol a naw a anafwyd.

Ymysg y milwyr ar y rhestr mae John a Kenneth Aubrey. Ffeindiais i’r ddau fachgen yng nghofnodion yr Ysgol Ddiwydiannol y dechreuon nhw ei mynychu yn Hydref 1900, ac yna yng nghyfrifiad 1901 yn Sain Ffagan. Derbyniwyd John i’r Ysgol Hyfforddi ar 1 Medi 1902, a derbyniwyd Kenneth ar 29 Awst 1904. Nid oes sôn am eu rhieni, na pham y cafodd Kenneth ei dderbyn ddwy flynedd yn hwyrach. Aeth y ddau fachgen i fyw at eu modryb ym mis Rhagfyr 1906, ond cawsant eu hanfon yn ôl i’r ysgol ym mis Mehefin 1907. Rhoddwyd John dan ofal Mr Peter Pugh ym mis Gorffennaf 1907, a gwnaeth Mr Pugh gais am warchodaeth Kenneth ym mis Hydref 1908. Mae’r ddau fachgen i’w gweld yng nghyfrifiad 1911 fel ‘Meibion Mabwysiedig’ i Mr a Mrs Pugh. Ym 1912, gadawodd John am Awstralia, gan gyrraedd yn Brisbane, Queensland ar 26 Rhagfyr y flwyddyn honno. Ymrestrodd ym Myddin Imperialaidd Awstralia ar 11 Mawrth 1916. Cafodd ei anafu tua mis Medi 1917, ond goroesodd y rhyfel a dychwelodd i Awstralia. Ymrestrodd Kenneth yng Nghatrawd Cymru a nodwyd ei fod ar goll yn y Dardanelles ym 1915. Rhoddwyd gwybod i Mr a Mrs Pugh ym mis Rhagfyr 1916 fod Kenneth wedi bod ar goll yn swyddogol ers 17 Awst 1915.

Ar gyfer milwr arall, Stephen Lucy, a aned tua 1891, yr unig gofnod y gallwn i ei gadarnhau oedd ei fod wedi gadael yr Ysgol Ddiwydiannol ym 1907 gan ymuno â Chatrawd y Buffs (Dwyrain Caint) fel Bandiwr yn 16 oed. Nodwyd ei fod wedi cyrraedd y rheng Is-gorporal gan ennill Medal Ymddygiad Neilltuol am ei ymddygiad fel cariwr stretsier ym mis Mehefin 1915. Yn anffodus, cafodd ei anafu yn ei fraich dde a’i ryddhau gan ei fod yn feddygol anffit. Fodd bynnag, cafodd gyfle i ddychwelyd i weithio yn y Cartref Plant, gan gael ei enwi’n Arweinydd Band ym 1917. Priododd gan gael dau o blant.

Derbyniwyd Alexander McCarthy i’r Ysgol Ddiwydiannol ym 1900. Erbyn 1907 roedd wedi gwneud digon o gynnydd i sefyll arholiad i fod yn Athro-Ddisgybl. Er na fu’n llwyddiannus y tro hwnnw, aeth ymlaen i fynychu Ysgol Sirol Aberdâr a chafodd brentisiaeth fel Athro-Ddisgybl ym 1908. Yng nghyfrifiad 1911, fe’i cofnodir fel Athro Ysgol Gynradd ac ym 1915 mynychodd Goleg y Santes Fair yn Hammersmith, gan ddod yn Uwch Raglaw. Ym 1915, ymunodd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol ac ym mis Gorffennaf 1916 bu’n ymladd ym Mrwydr y Somme. Cafodd ei argymell am Gomisiwn oherwydd ei wasanaeth rhagorol ar faes y gad fel 2il Lefftenant yn y Ffiwsilwyr Brenhinol, ond cafodd ei ladd wrth ymladd ar 23 Awst 1918.

Mae’r rhestr lawn o’r ymchwil ar gael ar dudalennau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar wefan Archifau Morgannwg:

http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/y-casgliad/y-rhyfel-byd-cyntaf/

Er fy mod wedi dod o hyd i gymaint o wybodaeth â phosibl, nid yw’r ymchwil yn gyflawn o bell ffordd. Os oes unrhyw un yn nabod perthynas bosibl ymysg yr enwau ar y rhestr ac yn gallu llenwi unrhyw fanylion coll, cysylltwch ag Archifau Morgannwg – byddai’n wych clywed gennych chi.

Rosemary Nicholson