Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Cofrestri Yswiriant Gwladol

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Cofrestri Yswiriant Gwladol

Cyfres o gyfrolau a ddefnyddiwyd i asesu budd-daliadau a darpariaeth llesiant i weithwyr yw’r cofrestri Yswiriant Gwladol.  Ceir gwreiddiau’r system Yswiriant Gwladol presennol yn Neddf Yswiriant Gwladol 1911, a chyflwynodd y syniad o fudd-daliadau wedi ei seilio ar gyfraniadau a dalwyd gan y bobol a chyflogwyd a’u cyflogwyr.

Image 1

Cofrestr Yswiriant Gwladol, Glofeydd Rhisga, Gorff 1920-Gorff 1924 (D1411-1-2-4)

Mae 28 o gyfrolau cofrestri Yswiriant Gwladol o fewn cwmpas project Gwaed Morgannwg, llawer ohonynt ar gyfer glofeydd Rhisga ac yng nghasgliad yr United National Collieries Limited (cyf.: D1411). Mae mwyafrif y cofnodion yn y cyfrolau yn cynnwys enwau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion, gyda rhai cofnodion yn cynnwys cyfeiriadau a galwedigaethau.

Sylwch gall mynediad at ddeunyddiau llai na 100 mlwydd oed fod yn gyfyngedig.