Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Trychinebau Glofaol

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Trychinebau

Yn aml iawn y trychinebau glofaol mawr yr ydym yn eu cysylltu’n bennaf â marwolaeth yn y diwydiant glo. Un o’r trychinebau hynny oedd y trychineb yng Nglofa Universal, Senghennydd, a ddigwyddodd ar 14 Hydref 1913.  Lladdodd y ffrwydrad, a’r nwy gwenwynig a ollyngwyd yn rhydd o ganlyniad iddo, 439 o lowyr, gan wneud trychineb pwll glo Senghennydd yn un o’r trychinebau glofaol mwyaf marwol a thrasig yn hanes Prydain.

Picture1 Instagram

Datganiad yn nodi manylion yr iawndal a dalwyd, 1915 (DPD/4/11/2/4)

Fel rhan o’r project hwn, mae nifer fach o eitemau’n ymwneud â thrychineb Senghennydd wedi’u catalogio, gan gynnwys datganiad yn dangos manylion yr iawndal a threuliau angladdol a dalwyd gan berchenogion Glofa Universal, Lewis Merthyr Consolidated Collieries. Mae’r datganiad hwn yn rhestru pob unigolyn a laddwyd yn y trychineb, yn nodi ei enw, ei waith a’i oedran ac yn nodi p’un ai a oedd ganddo rywun yn dibynnu arno.

Mae eitemau eraill yng nghasgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymwneud â thrychineb Senghennydd yn cynnwys cofnodion yr ymchwiliad i’r trychineb, gweithdrefnau’r trychineb a ffotograffau a ymddangosodd mewn papurau newydd ac fel cardiau post o fewn dyddiau i’r trychineb.

Picture 2

Ffotograff o angladd un o’r rhai a laddwyd yn nhrychineb Glofa Senghennydd, 1913 (DNCB/14/1/2/3)