Eglwys y Santes Fair, Caerau, Caerdydd

Wedi’i lleoli o fewn gweddillion bryngaer o’r Oes Haearn, credir bod Eglwys y Santes Fair yn dyddio o ail hanner y 13eg ganrif – pan y gallasai fod wedi disodli adeilad cynharach.  Ym 1801, roedd yn gwasanaethu poblogaeth o 65; erbyn 1959 roedd ei phlwyf yn cynnwys Trelái i gyd – dros 27,000 o bobl.

D1093-1-1 p19

Wrth i Drelái ddatblygu, adeiladwyd eglwysi newydd – fel capeli anwes i ddechrau – mewn mannau mwy hygyrch.  Roedd y defnydd anaml ohoni a’i lleoliad cymharol anghysbell yn golygu y dioddefodd Eglwys y Santes Fair o fandaliaeth sylweddol.  Erbyn diwedd y 1950au, roedd hi bron yn adfail, ond trwy waith ailadeiladu a gychwynnwyd gan y curad, y Parch. Victor Jones, fe’i hadferwyd i’w defnyddio eto ym 1961.  Yn y 1970au, fodd bynnag, daeth y defnydd o’r Eglwys at ddiben addoli i ben a throsglwyddwyd y berchnogaeth arni i’r awdurdod lleol.

Ers i Mary Traynor ei braslunio ym 1987, mae’r adeilad unwaith eto wedi mynd yn adfail heb do.  Yn 2016, roedd bwa’r gangell ar ei draed o hyd, ynghyd â’r tŵr a oedd wedi dymchwel yn rhannol, ond roedd pob wal arall wedi dadfeilio i’r graddau nad oeddent yn cyrraedd yn uwch na gwasg rhywun.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Eglwys Fethodistaidd Trelái, Heol Orllewinol y Bont-faen, Caerdydd

Yn 1858, agorodd Methodistiaid Cymreig Trelái gapel â 160 o seddi yn Mill Road yn lle eu hen addoldy, sef ysgubor wedi’i haddasu.  Cynhelid gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg ond, dros y ddau ddegawd nesaf, roedd cymaint o ddirywiad yn yr aelodaeth oedd yn siarad Cymraeg fel y prynwyd yr adeilad, ym 1879, gan y Methodistiaid Wesleaidd Seisnig – am £200 – gan eu brodyr Cymreig.

Erbyn troad yr 20fed ganrif, ysgogwyd y gynulleidfa gan yr aelodaeth gynyddol i chwilio am safle mwy o faint.  Cyd-drafododd yr ymddiriedolwyr brydles o 88 mlynedd ar gyfer tir ar gornel Heol Orllewinol y Bont-faen a Paget Road (Colin Way erbyn hyn), a gosodwyd cerrig sylfaen y capel presennol ar 16 Tachwedd 1910.

D1093-1-5-25

Braslun o Eglwys Fethodistaidd Trelai gan Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5 t25)

Dyluniwyd y cynllun gan bensaer o Gaerdydd, H P Sanders, ac mae ganddo nodweddion cyffredin o’r cyfnod Gothig Diweddar (Gothig Sythlin).  Cafodd y contract adeiladu ei osod i George Beames am y swm o £2894-10-0, ac agorwyd y noddfa orffenedig ym mis Mai 1911.  Yn 1947, prynodd yr ymddiriedolwyr rydd-ddaliad y safle, gan sicrhau dyfodol yr eglwys.

Fel yr adeiladwyd ef yn wreiddiol, roedd gan y capel seddi ar gyfer tua 800 o addolwyr.  Ond yn y blynyddoedd mwy diweddar, mae’r tu mewn wedi cael ei isrannu i greu ardal addoli lai gyda gweddill yr adeilad wedi’i addasu at ddefnydd y gymuned.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Cofnodion Cylchdaith Fethodistaidd Caerdydd, Eglwys Fethodistaidd Trelái, cofnodion cyfreithiol yn ymwneud ag eiddo ag ymddiriedolaeth (cyf.: D889/12/1)
  • A Golden Milestone: Ely Methodist Church, 1911 to 1961 (ref.: Lib/C/116)
  • Harrison, Arthur W: Ely Methodist, A History of the Church and its Environment, 1806 – 1974
  • Rose, Jean: Cardiff Churches through Time
  • http://www.britishlistedbuildings.co.uk/

Cipluniau o Erddi Dyffryn: Y Pwll Lili Trofannol yng Nghae Rasio Trelái

Yn ystod y flwyddyn y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed, rydym yn edrych, trwy luniau a chofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, ar ei heiddo mwyaf a mwyaf adnabyddus efallai yn ne Cymru, Gerddi Dyffryn. Gosodwyd Gerddi Dyffryn ar gyfer teulu Cory dros ganrif yn ôl gan y dylunydd gerddi a’r pensaer tirlunio enwog, Thomas Mawson. Dros y blynyddoedd, mae’r gerddi wedi cael eu hedmygu’n fawr ac maen nhw wedi ennill nifer o wobrwyau. Mae’r cofnodion sydd yn Archifau Morgannwg yn cynnwys tair tystysgrif a gyflwynwyd i deulu Cory mewn sioeau garddwriaethol lleol rhwng 1925 a 1931. All y gwobrau ddim dweud ei hanner hi am yr ystod o blanhigion a choed sydd yn y gerddi, y mae llawer wedi dod o dramor. Fodd bynnag, maen nhw’n rhoi syniad i ni o’r parch yr oedd at Erddi Dyffryn ar y pryd. Maen nhw hefyd yn dweud rhywfaint wrthym am rai o’r planhigion arbennig sydd yn y gerddi a ddewiswyd ar gyfer eu harddangos.

Picture1

Mae’r tair tystysgrif ar gyfer Sioe Cymdeithas Arddwriaethol Trelái a’r Ardal ym mis Awst 1925, Sioe Cymdeithas Arddwriaethol y Barri ym mis Awst 1931 a Sioe Cymdeithas Eurflodau’r Barri a’r Ardal ym mis Tachwedd 1931. Mae hyn yn swnio fel camp fechan i Reginald Cory a’i brif arddwr ar y pryd, J T Smith, y ddau yn Gymrodyr y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Ond rhaid cofio nad oedd teulu Cory yn y sioeau i gystadlu. Yn hytrach, caent eu gwahodd yno i gynnig arddangosiad fel canolbwynt y sioeau. Y nod oedd hyrwyddo’r digwyddiad i’r cyhoedd a chodi arian at elusennau trwy werthu’r arddangosiadau wedyn. Gerddi Dyffryn oedd un o’r gerddi gorau yn ne Cymru a byddai hysbysebion yn cyfeirio’n rheolaidd at yr arddangosiadau a geid gan Reginald Cory a’i chwaer, Florence, fel nodwedd arbennig y sioe. Felly, roedd y tair gwobr yn Archifau Morgannwg yn Dystysgrifau Teilyngdod a roddwyd i Reginald neu Florence Cory i nodi eu cyfraniad at y digwyddiad. Yn anffodus, mae manylion yr arddangosiadau a ychwanegwyd at y tystysgrifau mewn inc wedi pylu’n ofnadwy. Dydy’r geiriau ddim i’w gweld ar un, sioe Trelái a’r Ardal. Fodd bynnag, gyda rhywfaint o waith ditectif gan ddefnyddio hanesion papurau newydd lleol, bu’n bosibl ychwanegu rhywfaint o fanylion.

Roedd yr arddangosiad yn Sioe Eurflodau’r Barri’n hunanesboniadol i raddau. Yn unol â’r dull ar y pryd, mae’n debygol bod hyn yn gymysgedd o wahanol rywogaethau o Eurflodyn, gan ganolbwyntio o bosibl ar y casgliad planhigion eang yr oedd Reginald Cory wedi ei ymhél o bedwar ban y byd. Byddai hefyd wedi ei gyd-gasglu dan lygad gwyliadwrus y prif arddwr, J T Smith. Mae awgrym hefyd ynghylch beth oedd yr arddangosiad yn Sioe’r Barri ym mis Awst 1931, gyda chyfeiriad yn y papurau newydd lleol at lili’r dŵr… fel un o’r prif nodweddion.  Mae’n debyg bod yr arddangosiad yn un adnabyddus a edmygid yn fawr yr oedd Reginald Cory a J T Smith wedi ei ddefnyddio ar amryw ffurfiau mewn nifer o sioeau.  Er y gadawodd Reginald Dyffryn erbyn 1931, mae’n bosibl bod J T Smith, wedi ailddefnyddio’r cynllun o sioeau blaenorol, yn gweithio gyda Florence Cory. Ym 1926, yn Sioe Trelái, yng Nghae Rasys Trelái, cafodd ei ddisgrifio fel a ganlyn:

One realised again the wonderful part that Mr Reginald Cory of Duffryn is playing, not merely in adding to the ornamentation of small shows, but of inculcating a wider knowledge and appreciation of rarer phases of floral culture. At Ely he exhibited a water flower scheme. Through his head gardener, Mr J T Smith, he depicted with amazing realism, a water lily pond such as found in tropical woods, surrounded by brilliant foliage plants indigenous to those climes. Mr Smith succeeded in combining a perfect naturalness of setting with a richly blended harmony of colours. The exhibit well deserved the diploma awarded to Mr Cory. [Western Mail, 3 Awst 1926]

Y dystysgrif fwyaf addurniadol a gyflwynwyd yn Sioe Arddwriaethol Trelái a’r Ardal ym mis Awst 1925 hefyd yw’r mwyaf anodd dod o hyd iddi. Ar y pryd, dywedodd y papurau newydd yn syml:

the feature of the show was the collection of exhibits not for competition and Mr Reginald Cory, Duffryn, set a splendid example in this direction. His display was a really beautiful one. [Western Mail, 4 Awst 1925]

Beth oedd hwn? Cofnodwyd y defnyddiwyd y cynllun pwll lili a’i osodiad trofannol yn gyntaf ym 1926. Byddai rhywun eisiau dyfalu bod J T Smith wedi dewis arddangosiad ar sail dahlias, sef testun enwogrwydd rhyngwladol Dyffryn. Os oes gan unrhyw un fynediad at gofnodion neu ffotograffau a allai ein helpu ni â hyn, cysylltwch â ni. Ond rhaid cofio mai nod Reginald oedd gwneud argraff ac arddangos planhigion anarferol. Roedd ganddo hefyd dŷ gwydr cynnes eang yn Dyffryn lle’r oedd amrywiaeth o rywogaethau egsotig. Felly nid dahlias ydy ein tyb cyntaf ni. Mae’n fwy tebygol mai gosodiad trofannol fyddai’r thema, gan ddefnyddio’r ‘planhigion stof a thŷ gwydr’.

Un peth arall. Er na fyddai teulu Cory yn cystadlu yn y sioeau lleol, cofnododd y papurau newydd fod Mrs F Smith, Gerddi Dyffryn wedi ennill Cwpan Arian yr Amaturiaid Benywaidd yn Sioe Eurflodau 1931. Ai gwraig y Prif Arddwr oedd hon? Os felly, mae’n bosibl y byddai’r cystadleuwyr eraill wedi meddwl bod ei rhoi yn y categori ‘amatur’ braidd yn hael. Mae’r dair tystysgrif i’w weld yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D1121.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

 

Gorsaf Bwmpio ar safle Melin Trelái

Credir y bu melin flawd yn Nhrelái ers y 12fed ganrif o leiaf.  Ar lannau Afon Elái wrth ochr y llwybr cerdded, Birdies Lane, roedd cored yn ei gwasanaethu ychydig ffordd i fyny’r afon.  Mae cyfrifiad 1851 a chyfrifiad 1861 ill dau yn nodi mai Griffith David oedd y melinydd; erbyn 1871, ei fab, John David, oedd yn gwneud y gwaith.  Ym mis Mawrth 1875, fodd bynnag, gwnaeth y teulu David gais am iawndal ym Mrawdlys Morgannwg am niwed a wnaed gan waith cloddio gan Cwmni Gwaith Dŵr Caerdydd.  Pan wnaeth David Jones o Wallington fraslun o’r adeilad ym 1888, nododd fod yr adeilad ‘yn wag ac yn mynd â’i ben iddo’.

rsz_d1093-2-21_to_44_040__ely_mill

Roedd y Cwmni Gwaith Dŵr wedi datblygu gorsaf bwmpio ger y felin tua’r flwyddyn 1850.  Roedd yn tynnu dŵr o’r afon i gyflenwi tref Caerdydd, oedd yn prysur dyfu, drwy gronfa yn Penhill.  Mae darlun Mary Traynor yn dangos un o’r adeiladau oedd ynghlwm wrth y gwaith hwn – mae un ffynhonnell yn ei ddisgrifio fel storfa lo gyda llety uwchben ar gyfer y goruchwyliwr a’r deulu.

Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, roedd dŵr Caerdydd yn dod o gronfeydd mawr ym Mannau Brycheiniog, a ffynhonnell wrth gefn oedd Elái.  Ymddengys bod yr orsaf bwmpio wedi peidio ag ategu cyflenwad dŵr Caerdydd yn ystod y 1920au.  Mae cyfleuster preifat yn yr un safle bellach yn cyflenwi dŵr i Orsaf Bŵer Aberddawan.

David Webb, Glamorgan Archives Volunteer

Ffynhonellau a ddefnyddiwyd: