Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg pan fyddwn ni’n meddwl am eraill a phan fydd elusennau yn lansio ymgyrchoedd arbennig i godi arian. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hyn yn bwysicach fyth gyda chymaint o filwyr a morwyr yn gwasanaethu dros y dŵr, ymhell o’u teuluoedd a chysuron y cartref.
Mae llyfrau log ysgolion yn cofnodi ymgyrchoedd codi arian y disgyblion. Yn Ysgol Gellidawel yn Nhonyrefail ym mis Hydref 1914, cofnododd y Pennaeth iddo yrru archeb bost am £1 at y Dywysoges Mary ar gyfer ei chronfa hi i baratoi anrhegion Nadolig ar gyfer y lluoedd. Roedd yr athrawon wedi darparu’r gwobrau ac roedd raffl ar gyfer y disgyblion a dalodd geiniog yr un am docyn [ELL26/2].
Ysgrifennodd un Pennaeth yn Ysgol Pen-y-bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr [EM10/11] yn ofidus ym mis Hydref 1914, na fyddai ganddo’r ‘wyneb (y flwyddyn honno) i ofyn am gyfraniadau’ i’r Gronfa Wobrau Nadolig yn sgil y rhyfel a’r pwysau mawr ar goffrau pobl. Fodd bynnag, codwyd arian ar gyfer y milwyr a gyrrwyd swm sylweddol o £7 at Gronfa tywysog Cymru. Fe’i defnyddiwyd i brynu sigarennau, mwffleri gwlân a siocled a’u gyrru at yr Old Boys a oedd wedi eu lleoli yn yr Alban. Mae’n cofnodi iddo dderbyn cydnabyddiaeth gan yr Uwch Ringyll Miles yn diolch i’r bechgyn am ‘eu Blwch Nadolig Llawen’ [EM10/11].
Nid aeth y ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof dros y Nadolig. Cofnododd Pennaeth Ysgol Gymysg Y Dyffryn yng Nglyn-rhedynog, fod arian wedi ei godi i’r ffoaduriaid gan ddisgyblion a fu’n casglu ar Ddydd Nadolig 1916 [ER15/1]. Mae llyfr cofnod Cartref Gofal Rest ym Mhorthcawl hefyd yn cofnodi’r cymorth a roddwyd i ffoaduriaid o Wlad Belg:
…that the matter of providing extra diet etc. for the refugees and staff at xmas be left to matrons and chairman… [DXEL/3/5].
Trefnwyd cyngherddau i godi arian. Gwnaeth Mr Leon Vint gais am drwydded gan Gyngor y Barri i agor ‘Vint’s Place’, Thompson Street, y Barri ar Ddydd Nadolig ym 1914 a 1915, gyda’r elw’r perfformiadau yn mynd at Ysbyty’r Groes Goch yn y Barri. Roedd caniatâd hefyd i Neuadd Romilly gael agor ar Ddydd Nadolig i’r un diben [BB/C/1/20,21]. Yn ogystal â chodi arian, roedd agor lleoliadau ar Ddydd Nadolig yn golygu y gellid diddanu’r milwyr. Rhoes Cyngor Bwrdeistref Caerdydd ganiatâd i agor y Central Cinema ar Yr Aes i gael ei ddefnyddio ar Ddydd Nadolig rhwng 5.30 ac 8pm at ddibenion ‘adloniant am ddim i’r milwyr’ [BC/C/6/54]. Cynigiodd Cyngor Ardal Drefol Aberpennar gynnal Cyngerdd Sul yn yr Abercynon Palace ar 29 Tachwedd 1914:
…the proceeds to be devoted to the making of, and sending a huge Christmas box of cigarettes, tobacco, socks etc to the soldiers at the front [UDMA/C/4/12].
Ym 1916 gofynnodd y Swyddfa Ryfel i’r Daily Telegraph a’r Daily News godi arian er mwyn anfon pwdinau Nadolig at filwyr yn y ffrynt, a chododd cynghorau lleol arian i’w anfon i’r elusen. Anfonodd Cyngor Trefol Porthcawl dros £7 i’r ‘gronfa bwdin’ ym 1916 [UDPC/C/1/10].
Anfonwyd parseli i godi calonnau’r dynion dramor gan gynghorau plwyf lleol, eglwysi, capeli a sefydliadau eraill.
Ymhlith cofnodion Treflan Prifysgol Caerdydd mae llythyrau o ddiolch gan filwyr am barseli a dderbyniont dros y Nadolig. Ar 19eg o Ragfyr 1916, mae’r Gynnwr C Upcott yn ysgrifennu at Edward Lewis:
I beg to thank you and all the members of the University Settlement for their kindness in sending me the parcel and I do not know how much to thank you for your kindness. It is something terrible out here with the rain and one thing and another but I hope the end won’t be long so as we can all meet once again [DCE/1/64].
Ysgrifennodd y Preifat William Slocombe o Gaerdydd, a dderbyniodd y Fedal Filwrol yn ystod y Rhyfel, o’r ffrynt at ei fam ar 9 Rhagfyr 1916. Mae’n gofyn iddi brynu ‘dyddiadur milwr’ iddo, a oedd yn cynnwys ‘llawer o wybodaeth filwrol ddefnyddiol a geiriadur Ffrangeg bychan yn y blaen’. … ‘Carwn i chi anfon un ataf i os yw hynny’n bosibl. Nid yw’n costio mwy nag ambell swllt ar y mwyaf.’ Mae hefyd yn meddwl am anrhegion Nadolig i’w deulu adref ac yn anfon archeb bost am 10 swllt:
It is for the kids and yourself… If you can get some chocolates for the girls so much the better. I should like to give Pa some tobacco too.
Yn deimladwy mae’n ysgrifennu:
…the circumstances are very different to last year aren’t they? Your affectionate Son… [D895/1/3].
Mae’r cofnodion hyn, a llawer mwy sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar gael i’w gweld yn Archifau Morgannwg.