Mae Stryd Womanby, sydd yng nghanol dinas Caerdydd, yn adnabyddus y dyddiau hyn am ei lleoliadau bywyd nos bywiog a’i thafarndai. Ond yn ystod y 1800au, fodd bynnag, roedd Stryd Womanby yn gartref i eglwys sylweddol o’r enw Capel y Drindod (Trinity Chapel) ar un adeg. Gellir gweld Capel y Drindod yn glir yn y llun hwn o Womanby Street, o 1891 (Ffigwr 1). Yn adeilad trawiadol, mae’n hawlio’r sylw yn y ffotograff, er y bydd y craff eu golwg yn eich plith yn sylwi ar silwét cyfarwydd muriau Castell Caerdydd yn y cefndir. Ysywaeth, nid yw’r capel bellach yno; mae llawer o adeiladau hanesyddol a chrefyddol yn y gwledydd hyn wedi eu colli i ni ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n ymddangos i faes parcio gael ei godi ar safle’r capel.

Ffigwr 1 – Womanby Street, 1891

Ffigwr 2 – Cynllun o Stryd Womanby, mae’r capel wedi ei aroleuo
Codwyd yr adeilad gyntaf tua 1696, codwyd Capel Stryd Womanby fel man addoli Anghydffurfiol. Roedd anghydffurfiaeth yn y cyfnod hwn yn fodd o ddynodi’r rhai a ddehonglai Brotestaniaeth yn wahanol i’r wladwriaeth ac, yn dilyn adferiad brenhiniaeth y Stiwartiaid ym 1660, gwelodd Cymru gynnydd mewn grwpiau Anghydffurfiol. Bu’n rhaid ail-adeiladu’r capel ym 1847 oherwydd tân ac, erbyn diwedd yr 1880au, roedd cynigion ar waith i roi’r capel ar ocsiwn. Yn wir, mae ffeiliau achos yng nghasgliad Stephenson ac Alexander yn awgrymu bod yr adeilad am gael ei werthu er mwyn adeiladu capel newydd ar Heol y Bont-faen. Fodd bynnag, mae’r dogfennau hefyd yn awgrymu nad oedd y gwerthiant yn broses hawdd.

Ffigwr 3 – Manylion arwerthiant y capel

Ffigwr 4 – Llythyr ynglŷn â’r rhwystredigaeth na chyflawnwyd y gwerthiant
Cofnodir bod yr arwerthiannau ar gyfer gwerthu Capel y Drindod wedi’u cynnal ym mis Medi a Hydref 1890 (Ffigwr 3). Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod gan Stephenson ac Alexander amrywiaeth o broblemau wrth geisio gwerthu’r Capel, sydd i gyd wedi’u dogfennu mewn ffeil achos o lythyrau, a gyfnewidiwyd rhwng y cwmni, y penseiri, a’r cyfreithwyr (Ffigwr 4). Yn fwyaf nodedig, mae’r ffeil yn cynnwys llythyrau a ysgrifennwyd gan Edwin Seward, pensaer enwog a oedd yn gyfrifol am ddylunio llawer o adeiladau Caerdydd, yr ymgynghorid ag ef mae’n debyg ynghylch adeiladu’r capel newydd. Er bod Capel y Drindod i’w weld wedi ei werthu mewn ocsiwn, mae Edwin yn ysgrifennu at Stephenson ac Alexander gan ddweud nad oedd ‘wedi bod mewn sefyllfa i adrodd bod yr uchod mewn gwirionedd wedi ei werthu i’ch llythyrtwr am y pris a nodir’, a bod y ‘gwerthiant go iawn… heb ei selio eto’. Yn wir, roedd Mr Alexander wedi gadael am Lundain yn ddiweddar, ac wedi lleisio ei rwystredigaethau drwy ei lythyrau na chafodd y pris gwreiddiol ei dderbyn.

Ffigwr 5 – Llythyr yn ymddiheuro am y drafferth gyda’r allweddi

Ffigwr 6 – Stocrestr fras ar gyfer y capel

Ffigwr 7 – Llythyr yn disgrifio dymuniadau’r tenantiaid newydd i gael gwared ar gelfi ac agweddau o’r capel
Ymddengys i werthiant gael ei gwblhau yn y pen draw tua mis Mawrth 1891, ond ni ddaeth y trafferthion i ben bryd hynny. Ar ôl ceisio mynd i mewn i’r adeilad, roedd problemau gyda’r allweddi gan y tenant newydd (Gill Blackbourne), y gall hyd yn oed perchnogion tai modern gydymdeimlo â nhw. Anfonwyd llythyr ymddiheuriad cyflym (Ffigwr 5), gyda’r cwmni’n datgan: ‘Mae’n ddrwg gen i eich bod yn cael unrhyw anhawster ynglŷn â’r allwedd’. Ar ben hynny, roedd rhywfaint o wrthdaro ynglŷn â bwriadau’r tenant newydd ar gyfer y capel. Yn yr hysbysebion gwerthu, pwysleisiodd y cwmni y byddai’r capel wrth gwrs yn berffaith at ‘ddibenion addoli crefyddol’. Fodd bynnag, roedd y tenantiaid newydd yn dymuno tynnu a gwerthu unrhyw weddillion o’r capel, gan gynnwys: y seti a’r organau, y pulpudau, y stolion, a hyd yn oed ffwrn nwy, a oedd oll wedi’u dogfennu mewn llythyrau a stocrestr fras (Ffigyrau 6 & 7).
Adeiladwyd Capel Newydd y Drindod (New Trinity Chapel), gan ddefnyddio’r enillion o’r gwerthiant, ar Heol y Bont-faen ym 1894, ac mae’n ymddangos i’r hen gapel gael ei ddymchwel yn y pen draw. Unwaith yn gapel syfrdanol, gothig a chanddo gyfoeth o hanes crefyddol, mae modd cyrchu amryw gofnodion o fedyddiadau, priodasau a digwyddiadau yn yr hen gapel a’r capel newydd yn Archifau Morgannwg gan ddefnyddio’r cyfeirnod ‘DECONG6’. Ar gyfer dogfennau Stephenson ac Alexander ar y capel, gweler: DSA/12/382 a DSA/2/160.
Hannah Bartlett, Myfyriwr Lleoliad SHARE Prifysgol Caerdydd