Ar 21 Mawrth 1900, rhoddwyd caniatâd i’r awdurdod lleol i adeiladu adeilad ar ochr ogleddol Stryd James, wrth y gyffordd â’r llwybr oedd yn rhedeg ar hyd Camlas Sir Morgannwg. Roedd ynddo ddwy siop ar y llawr gwaelod â’u hisloriau eu hunain ac roedd mynedfa ganolog at swyddfeydd ar y llawer cyntaf a’r ail lawr. Wedi ail-rifo sawl blwyddyn yn hwyrach, daeth y siopau’n 68 a 72 Stryd James a rhif 70 oedd y swyddfeydd.
Codwyd y safle, a ddyluniwyd gan y pensaer o Gaerdydd, Edgar Down, i Rose & Co., Engineers, oedd yn Adeiladau Royal Stuart ar ochr arall Stryd James. Ganwyd y perchennog, Joseph Rose, yn Leake, ger Boston, Lincolnshire, felly mae o bosibl yn rhesymol cymryd mai dyma darddiad yr enw Adeiladau Boston, sydd yn dal i ymddangos mewn haearn gwaith uwchben y llinell doeau. Mae arfau Bwrdeistref Boston cyn 1974 wedi’u cerfio yn y gwaith carreg yn un cornel.
Perchenogion llongau a brocwyr oedd meddianwyr cynharaf y lle swyddfa, ond wrth i bwysigrwydd Caerdydd fel porthladd ddirywio’n raddol, roedd tenantiaid ar ôl hynny’n amrywio’n ehangach i gynnwys busnesau argraffu, broceriaid stoc ac yswiriant, ynghyd â gweithwyr proffesiynol megis cyfreithwyr, cyfrifwyr a pheirianyddion ymgynghorol.
Trwy chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, roedd cigydd, Thomas Morgan, yn y siop yn 68 Stryd James (T Morgan & Sons yn hwyrach). Ond erbyn 1929, roedd yr uned wedi’i chymryd gan Kristensen & Due, masnachwyr llongau, oedd yno tan o leiaf y 1970au; yn ystod llawer o’r amser hwn, roedd Mr Kristensen yn gwasanaethu fel Conswl Danaidd yng Nghaerdydd. Mae’n llai hawdd olrhain deiliadaeth yr ail siop; ond rhwng y 1950au a’r 1970au, gwerthwr baco, Anthony Nethercott, oedd y tenant. Er bod braslun Mary Traynor yn ei nodi fel siop bob peth a bar byrbrydau, roedd sigaréts tra hysbys yn dal i gael ei hysbysebu’n amlwg.
Yn ddiweddarach, roedd rhif 68 yn gwasanaethu’n Ganolfan Cyngor a Gwybodaeth Somaliaidd, tra roedd 72 yn swyddfa i’r rhaglen cymorth i deuluoedd Dechrau’n Deg. Heddiw mae asiant tai a chwmni rheoli eiddo’n meddiannu’r unedau siop.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer adeilad newydd, Stryd James, 1900 (cyf.: BC/S/1/14110)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, Glamorganshire Canal Navigation, Memorandwm Cytundeb, 1904 (cyf.: BC/GCA/4/162)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Cyfrifiad 1881 – 1901
- Google Streetview