Streic y Glowyr, 1984/5

Wrth i gatalogio fynd rhagddo ar Broject Gwaed Morgannwg, mae amrywiaeth y deunyddiau sydd yn y casgliad yn dod fwyfwy i’r amlwg, o adroddiadau am ddamweiniau marwol i gofnodion am y rhaglen i gau’r glofeydd. Mae un o’r setiau diweddaraf o gofnodion i’w catalogio yn ymwneud â streic y glowyr 1984/5. Roedd y streic yn drobwynt yn hanes meysydd glo De Cymru a’r DU ac fe lwyddodd gwleidyddiaeth y streic i rannu cydweithwyr, cyfeillion a theuluoedd.

1. DNCB64-18 Strike breaker

Clawr blaen ‘The Miner’, Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 1929, yn dangos llun o’r heddlu yn hebrwng yr unig dri dyn oedd yn gweithio ym Mlaengarw yn ystod anghydfod anundebol.  Defnyddiwyd y llun yma fel poster – ‘A Strike Breaker is a Traitor’ – gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr Ardal De Cymru yn ystod streic 1984-85 [DNCB/64/18]

Mae modd defnyddio papurau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol sydd yn Archifau Morgannwg i ddangos effaith y streic ar bob ochr: y Bwrdd Glo ei hun, y rheiny oedd ar streic a’r rheiny a ddewisodd ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y streic.

Mae modd gweld effaith y streic ar y Bwrdd Glo drwy gyfrwng papurau megis cofnodion yn ymwneud â diogelwch a chynnal a chadw pyllau yn ystod y streic a phapurau yn ymwneud â cholledion ariannol yn ystod y streic. Mae papurau yn ymwneud â’r blaenoriaethau y byddai’n rhaid mynd i’r afael â nhw ar ôl i’r streic ddod i ben megis cyflenwad o ddillad gwaith, stociau yn y ffreuturau ac atgyweirio boelerydd yn y baddonau, yn dangos effaith gorfforol y streic ar byllau unigol a’r gwaith oedd angen ei gyflawni er mwyn adfer lefelau cynhyrchiant llawn. Mae’r cylchlythyron a gyhoeddwyd yn genedlaethol yn dangos y technegau roedd y Bwrdd Glo yn eu defnyddio i geisio cael pobl nôl i’r gwaith, gyda chylchlythyron a gyhoeddwyd i’r glowyr gan y Cyfarwyddwr Rhanbarthol Philip Weekes a chan reolwyr glofeydd unigol.

rsz_2_dncb-67-1-17-18_coal_news

Clawr blaen ‘Coal News’, Maw 1985. Defnyddiwyd ystadegau ar lowyr yn dychwelyd i’r gwaith i annog y rheini oedd dal ar streic i ddychwelyd i’r gwaith [DNCB/67/1/17/18]

Mae modd gweld barn y gweithwyr ar streic trwy gyfrwng yr ohebiaeth â’r NUM yn ymwneud â thrafodaethau ar y streic a thelerau Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Mae pamffledi yn y casgliad yn rhoi argraff fyw o farn y glowyr ar streic, gydag iaith gref ac emosiynol yn cael ei defnyddio i gyflwyno safbwynt yr NUM, mewn posteri megis yr un â’r teitl ‘A Strike Breaker is a Traitor’.

rsz_3_dncb-67-1-32_num_leaflet

Taflen Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn rhestri resymau pam dyled cefnogi’r streic [DNCB/67/1/32]

Mae gohebiaeth gydag Undeb y Glowyr hefyd yn dangos eu hymdrechion i geisio amnest i lowyr a ddiswyddwyd yn ystod y streic am weithgareddau yn ymwneud â’r streic, gyda rhestrau yn dangos gweithredoedd streicwyr, niferoedd yr achosion allasai fod wedi arwain at ddiswyddiad a niferoedd y glowyr a ail-sefydlwyd ac a  ailgyflogwyd.

Mae’r cofnodion hefyd yn dangos barn y rhai hynny nad oedd yn gefnogol i’r streic, trwy gyfrwng llythyrau a yrrwyd at y Bwrdd Glo gan unigolion a glowyr, a phamffledi yn erbyn y streic. I’r rhai hynny a ddewisodd ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y streic, mae gohebiaeth o fewn y casgliad yn cynnig mewnwelediad i’r cam-drin meddyliol a chorfforol a wynebwyd gan rai glowyr wedi dychwelyd i’r gwaith. Mae mwy nag un glöwr yn disgrifio cael ei ‘yrru i’r diawl’ gan ei gydweithwyr ac mae cofnodion o enghreifftiau o fygwth unigolion, eu teuluoedd ac eiddo. Arweiniodd y modd y cafodd y dynion hyn eu trin i lawer geisio cael trosglwyddiad i bwll glo arall neu i wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.

rsz_4_dncb-67-1-17-1_democratic_working_miners

‘The Working Miners’ Newsletter’, cyhoeddwyd gan ‘Democratic Working Miners of the NUM’ [DNCB/67/1/17/1]

Yn gyffredinol mae’r papurau hyn yn rhoi mewnwelediad i adeg tyngedfennol a chaled yn hanes Maes Glo De Cymru. Bydd gweld y papurau hyn ochr yn ochr â deunyddiau eraill yng nghasgliad Archifau Morgannwg, megis (ond heb ei gyfyngu i) papurau Grwpiau Cefnogi Merched De Cymru (DWSG); papurau’r Cynghorydd Ray T Davies, y trysorydd ar gyfer Grŵp Cefnogi Streic y Glowyr (D316); dyddiadur 1984/5 William Croad, Uwch Swyddog Rheoli yng Nglofa Lady Windsor, Ynysybwl (D1174/1); Cofnodion Cronfa Glowyr Aberdâr (D1432), a thoriadau papur newydd ar y streic yng Nghofnodion Heddlu De Cymru (DSWP/49/7), yn galluogi ymchwil i fynd rhagddo i bob agwedd ar y streic.

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood