Llyfrau Lloffion Jiwbilî Sefydliad y Mercher, 1965

Cafodd Sefydliad y Merched ei sefydlu gyntaf ym 1897 yn Ontario, Canada, yn gangen o Sefydliad y Ffermwyr. Pan agorwyd cangen gyntaf y DU, yn Llanfairpwll, Ynys Môn, ym Medi 1915, ei hamcanion craidd oedd helpu i wella bywydau’r sawl oedd yn byw mewn cymunedau gwledig, ac annog menywod i chware rhan amlycach yn yr ymdrech i gynhyrchu bwyd, oedd yn arbennig o bwysig ar y pryd oherwydd y rhyfel.

Ym 1965 dathlodd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched ei Jiwbilî Aur.  Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau’n genedlaethol ac yn lleol i ddathlu’r achlysur.  Anogwyd canghennau i greu llyfrau lloffion yn adlewyrchu cefn gwlad: ‘Ein Pentref ym 1965’, i’w cyflwyno i gystadleuaeth oedd yn rhan o ddathliadau’r jiwbilî.  Gwnaeth 29 o ganghennau WI Morgannwg gystadlu yn y gystadleuaeth hon, oedd ar agor i bob cangen yn y sir. Aeth y tri gorau, Penmaen a Nicholston (y llyfr nawr ym meddiant Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg), Pentyrch (cyf. DXNO12/1) a Southerndown (cyf: DXNO27/1), yn eu blaen i’r rownd derfynol Brydeinig, gydag arddangosfa’n cael ei chynnal yn Llundain.

DXNO27-1 Page 151

Gyda’r nod o fod yn gofnod parhaol o fywyd pentrefi cefn gwlad ym 1965, mae’r llyfrau lloffion yn adlewyrchu nifer o bynciau, megis daearyddiaeth, natur, adeiladau, ffasiwn, personoliaethau a bywyd pentrefol yn gyffredinol.  Ym 1967, gwnaeth Miss Madeline Elsas, Archifydd y Sir, gais i bob cangen oedd wedi creu llyfr lloffion i’w drosglwyddo er diogelwch i Swyddfa Gofnodion y Sir.  Yn fuan wedi iddynt gael eu cyflwyno, cafwyd arddangosfa ohonynt.

Mae 20 o’r llyfrau lloffion hyn ym meddiant Archifau Morgannwg, ynghyd â chofnodion eraill gan ganghennau lleol.  Mae’r llyfrau’n cynnwys mapiau a ffotograffau o bentrefi, manylion ynghylch clybiau, cymdeithasau, siopau a chyfleusterau amrywiol eraill, ac erthyglau o bapurau newydd yn ymwneud â phynciau mawr y dydd.  Mae llawer ohonyn nhw’n ceisio creu darlun o fywyd fel yr oedd ar y pryd, yn debyg iawn i gapsiwl amser, yn cynnwys manylion am ffasiwn, addurno tai a theganau poblogaidd.

Fel y gallwch ddychmygu, rhoddwyd y llyfrau at ei gilydd mewn nifer o ddulliau creadigol, gan gynnwys map wedi ei frodio ar glawr llyfr lloffion WI Cynffig (cyf.: DXNO4/1).

DXNO4-1 FrontCover

Roedd llyfr Sain Ffagan (cyf.: DXNO23/1) yn cynnwys llenni bychain wedi eu creu o ffabrig llenni, a samplau o’r carped a’r papur wal oedd wedi eu defnyddio yng nghartrefi’r aelodau yn 1965, i adlewyrchu ffasiynau’r cyfnod.

DXNO23-1 Page 48

DXNO23-1 Page 49

Mae llyfr lloffion WI Southerndown (cyf.: DXNO27/1) yn dod i ben gyda cherdd i ddarllenwyr y dyfodol, ’50 mlynedd o nawr’.  Efallai y byddai darllenwyr 2015 wedi ystyried hyn yn broffwydol iawn!

DXNO27-1 Page 149

 

Yr Orffwysfa, Porthcawl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym 1862 agorodd Dr James Lewis Yr Orffwysfa ar gyfer Pobl Anabl, Cleifion Ymadfer a Chleifion Manwynnog (sef The Rest for Invalids, Convalescents and Scrofulous Patients yn Saesneg) yn Notais, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg, a oedd yn cynnwys tri bwthyn a oedd yn eiddo iddo. Y nod oedd sicrhau bod rhywle ar gael i bobl a anafwyd neu bobl ag afiechydon wella ynddo, gan gael budd o awyr iach glan y môr, deiet iachus ac ymarfer corff. Y nod oedd symud yr Orffwysfa i safle mwy o lawer. Bu Dr Lewis mewn cysylltiad â Florence Nightingale ym 1871 i drafod sut y dylid cynllunio adeilad o’r fath.

DXEL-5-1 004

Dewiswyd dyluniad i’w godi ger Porthcawl ym 1874, ond yn fuan wedyn daeth i’r amlwg na fyddai’n bosibl codi’r arian yr oedd ei angen, oherwydd chwalfa’r diwydiant haearn a’r lleihad ym mhris glo. Awdurdodwyd fersiwn llai o faint o’r cynllun ym 1876, a chwblhawyd y gwaith ym 1878. Roedd poblogrwydd cynyddol Yr Orffwysfa drwy gydol y 1880au yn golygu nad oedd y cyfleusterau’n ddigon mawr mwyach, ac agorwyd estyniad newydd ym 1893 ar gyfer cleifion benywaidd. Agorwyd adain newydd o’r ysbyty ym 1897, agorwyd estyniad ychwanegol ar gyfer plant ym 1900, ac agorwyd estyniad arall ym 1909, felly erbyn hynny roedd Yr Orffwysfa yn edrych fel y dylai fod wedi yn ôl cynlluniau gwreiddiol yr 1870au. Ym 1913 prynodd Pwyllgor Rheoli’r Orffwysfa Westy Dunraven yn Southerndown, er mwyn creu llety ar gyfer menywod a phlant.

Cynigiwyd y syniad y gellid rhoi llety i filwyr a morwyr a oedd yn ymadfer yn ystod Rhyfel y Boeriaid yn wreiddiol, er bod y Swyddfa Ryfel wedi gwrthod y cynnig hwnnw. Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ychydig fisoedd yn unig ar ôl i’r Orffwysfa yn Southerndown agor. Unwaith eto, cynigiodd y Pwyllgor Rheoli y gellid rhoi llety i filwyr clwyfedig yn y ddau safle, ond bryd hynny roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel eisoes wedi sicrhau bod dros 20,000 o welyau ar gael i’r lluoedd arfog, a’r disgwyl oedd y byddai’r rhyfel ar ben erbyn y Nadolig, felly gwrthodwyd y cynnig unwaith eto. Gan hynny, ffoaduriaid o Wlad Belg oedd y cyntaf i gael llety yn Yr Orffwysfa yn sgîl y Rhyfel.

Belgian Refugees

Erbyn 5 Tachwedd 1914, roedd 29 o ffoaduriaid gwrywaidd yn cael llety yn yr Orffwysfa ym Mhorthcawl. Erbyn diwedd mis Tachwedd, roedd y Groes Goch wedi gwneud cais i gael defnyddio’r Orffwysfa yn Southerndown. Cytunwyd i’r cais hwnnw, ar yr amod mai’r metron fyddai’n rheoli’r safle ar bob achlysur.

Ym mis Ionawr 1915, gyda’r rhyfel yn parhau’n hwy na’r disgwyl, gofynnodd yr awdurdodau milwrol lleol am lety ar gyfer dros 180 o recriwtiaid Ambiwlans Maes 1af Cymru, Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, a chytunodd Pwyllgor Rheoli’r Orffwysfa i’r cais hwnnw. Ar ôl symud i’r Orffwysfa yn Southerndown, gadawodd y ffoaduriaid Belgaidd ddechrau mis Mawrth 1915, heblaw am ddau wnaeth aros fel aelodau o staff.

Ar ddiwedd 1915, roedd Cymdeithas Ambiwlans St Ioan wedi gwneud cais i ddefnyddio’r Orffwysfa ym Mhorthcawl fel Ysbyty Rhyfel Atodol. Rhoddwyd caniatâd iddynt ddefnyddio’r Orffwysfa tan ddiwedd y rhyfel, er bod disgwyl i’r Gymdeithas dalu o leiaf rywfaint o gostau cynnal a chadw’r cyfleusterau. Roedd hynny’n golygu nad oedd ar gael i gleifion sifilaidd yn ystod y cyfnod hynny, ac nid oedd y milwyr na’r morwr yn talu am docyn fel yr oedd sifiliaid wedi gwneud.

Soldiers 1917

Darparwyd rhagor o welyau ym 1916, ac ystyriwyd sefydlu ysbyty maes ar dir yr Orffwysfa ym Mhorthcawl, er na chafodd ei adeiladu yn y pendraw. Erbyn diwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1918 roedd bron 2,500 o gleifion o luoedd arfog Prydain, Awstralia, Canada a Seland Newydd wedi cael triniaeth yn y ddwy Orffwysfa, ac roedd yr un yn Southerndown yn dal i dderbyn cleifion sifiliaidd.

Ym 1919 aeth y ddwy Orffwysfa yn ôl i’r drefn arferol o dderbyn cleifion sifiliaidd, fel y gwnaed cyn y rhyfel. Gwerthwyd yr Orffwysfa yn Southerndown ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chaeodd yr Orffwysfa ym Mhorthcawl ddiwedd 2013.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro