Solomon Andrews a Sinemâu Cynnar Morgannwg

Dechreuodd y sinema ym 1895 pan gynhaliodd Louis Lumière y tafluniad cyntaf o ddelweddau ffotograffig symudol i gynulleidfaoedd am dâl ym Mharis. Yn fuan daeth dangos lluniau symudol yn fath poblogaidd o adloniant. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd sinemâu’n gyflym i fod yn fath mawr o adloniant torfol, gan gyrraedd anterth poblogrwydd yn y 1930au. Erbyn 1934, roedd un sedd sinema ar gyfer pob deg person yn Ne Cymru. Roedd yn fusnes proffidiol i entrepreneuriaid lleol gymryd rhan ynddo.

Sefydlwyd cwmni S. Andrews a Son gan Solomon Andrews.  Wedi’i eni yn Trowbridge yn Wiltshire, ymgartrefodd Andrews yng Nghaerdydd yn y 1850au. I ddechrau, sefydlodd busnes fel pobydd a melysydd. Cyn bo hir, lledaenodd ei ddiddordebau busnes i feysydd mor amrywiol â threfnu angladdau, symud dodrefn, darparu gwasanaethau bysus a thramiau, siopau a siopau adrannol, rheoli a datblygu eiddo, a glofeydd.

Mentrodd y cwmni i fusnes y sinema am y tro cyntaf ym 1911, pan drodd y rinc sglefrolio yn Yr Ais, Caerdydd, yn sinema. Agorodd y sinema Central ym mis Mawrth 1911, ac arhosodd yn nwylo’r cwmni tan fis Tachwedd 1959, pan gafodd ei werthu gydag Adeiladau’r Aes, ar ôl difrod tân helaeth.

Yn dilyn llwyddiant y sinema Central, caffaelodd S. Andrews and Son dir yn Abertawe ac agorodd sinema’r Castle yno ym 1913.

Ym 1915 cafodd safle hen neuadd y dref yn Stryd Hannah, y Porth, ei brydlesu gan y cwmni, ac adeiladwyd sinema newydd.

DAB-18-2

Agorodd y sinema Central, yn y Porth, ym 1916, a bu’n gweithredu fel sinema tan 1974, pan gafodd ei chymryd drosodd yn gyfan gwbl fel neuadd bingo. Mae cofnodion ar gyfer y sinema hon yn cynnwys llyfrau arian parod sy’n manylu ar y cyllid wythnosol ar gyfer y blynyddoedd 1917 i 1930. Mae’r cyfrolau cynharach yn rhestru ffigurau derbyn wythnosol, ac maent yn rhoi gwybodaeth am raglenni ffilmiau. Mae yna hefyd lyfrau nodiadau sy’n rhoi’r rhaglenni ffilmiau wythnosol ar gyfer y cyfnod rhwng 1919 a 1945.

Ymhlith y ffilmiau niferus a recordiwyd yn y llyfrau nodiadau, mae teitlau clasurol amrywiol yn ymddangos, megis David Copperfield gyda W.C. Fields a Basil Rathbone (a ddangoswyd ym 1935), a Jane Eyre gyda Joan Fontaine ac Orson Welles (a ddangoswyd ym 1944). Ymhlith y ffilmiau poblogaidd roedd ffilm ias a chyffro Hitchcock The Lady Vanishes gyda Margaret Lockwood a Michael Redgrave (a ddangoswyd ym 1939), a The Wizard of Oz gyda Judy Garland (a ddangoswyd ym 1940). Cafodd y ffilm olaf ei chadw yn y Central am chwe diwrnod yn hytrach na’r tri diwrnod arferol, oherwydd ei phoblogrwydd.

DAB-42-1-5 Wizard of Oz

Roedd rhaglenni amrywiol yn cwmpasu chwe diwrnod, gan gynnwys ffilmiau Shirley Temple Poor Little Rich Girl (a ddangoswyd ym 1937), a The Little Princess (a ddangoswyd ym 1940), a hefyd Fred Astaire a Ginger Rogers yn Swing Time (a ddangoswyd ym 1937). Hollywood, o ddyddiad cynnar, oedd yn flaenllaw yn y diwydiant sinema ac adlewyrchir hyn yng nghofnodion y Central.

DAB-42-1-5 Proud Valley

Roedd dwy o’r ffilmiau a ddangoswyd yn sinema’r Central, yn y Porth, yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â chymoedd De Cymru. Dangoswyd Proud Valley, gyda Paul Robeson a Rachel Thomas, ym 1940 ac eto ym 1943.  A chafodd y ffilm sydd fwy na thebyg yr un enwocaf a wnaed erioed am Gymru, sef How Green Was My Valley, ei dangos ym 1942.

Grŵp diddorol o gofnodion o sinema Central y Porth yw’r llythyrau rheoli, sy’n rhedeg o 1920 i 1947, gyda bwlch ar gyfer y blynyddoedd rhwng 1928 a 1934. Llythyrau gan reolwr y Central at gyfarwyddwyr Castle and Central Cinemas Ltd. yw’r rhain i roi gwybod iddynt am weithrediad dyddiol y sinema. Maent yn cynnwys y cyfnod pan oedd mynd i’r sinema ar ei anterth, ac maent yn helpu i daflu goleuni ar amodau cymdeithasol ac economaidd yng nghymoedd De Cymru. Mae’r wybodaeth a roddir yn y llythyrau yn cynnwys gweithrediad cyffredinol y sinema, rhaglen a phoblogrwydd ffilmiau, cynnal a chadw offer, atgyweirio’r adeilad, a llogi staff. Fodd bynnag, mae’r rheolwr yn sôn am ddigwyddiad lleol neu genedlaethol lle mae’n effeithio ar weithrediad y sinema a ffigurau presenoldeb. Felly mae’r llythyrau’n cynnwys gwybodaeth am streiciau lleol a chenedlaethol, y bwriad i gau pwll glo lleol, a thrychinebau lleol fel tân neu lifogydd.

Roedd y teulu Andrews hefyd yn berchen ar sinema Olympia, Heol y Frenhines, Caerdydd, a agorodd ym 1922.

Chwaraeodd Solomon Andrews a Son ran fawr yn hanes sinemâu ym Morgannwg. Roedd y cwmni’n darparu gwasanaeth adloniant pwysig, ac mae llawer o’r dogfennau sy’n ymwneud â’u cyfranogiad yn y diwydiant sinema wedi goroesi.  Mae cofnodion Solomon Andrews and Son ar gael i’w harchwilio yn Archifau Morgannwg a gellir pori trwy’r catalog, sydd ar gael trwy ein gwefan www.archifaumorgannwg.gov.uk, o dan gyfeirnod DAB.

Sinema’r Coliseum, Heol y Bont-faen, Caerdydd

Dyluniwyd Sinema’r Coliseum yn Nhreganna gan y pensaer lleol, Edwin J. Jones, a’i adeiladu gan y Canton Cinema Company ym 1912. Roedd y cynlluniau a gymeradwywyd yn awgrymu bod ynddo seddi i 899 ar y llawr gwaelod gydag 192 ychwanegol yn yr oriel, ond mae sylwadau ar wefan Cinema Treasures yn awgrymu’r posibilrwydd bod nifer y seddi’n sylweddol lai na hyn.  Wedi ei leoli yn 139-143 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, ar gornel North Morgan Street, agorodd ar 6 Ionawr 1913, gyda The Panther’s Prey fel y brif ffilm.  Tua 1930 gosodwyd system sain RCA ynddo a’i ailenwi yn Coliseum Cinema.

rsz_d1093-2-21_to_44_033__coliseum_cinema_cowbridge_road

Fel sawl sinema arall, daeth yn neuadd fingo yn y 1960au.  Ar ddiwedd y 1980au cafodd ei ddymchwel a maes o law ailddatblygwyd y safle gan Castle Leisure Ltd (rhan o’r ymerodraeth fusnes a sefydlwyd gan Solomon Andrews, sydd ym meddiant ei ddisgynyddion o hyd), sy’n honni mai hwn oedd ‘y clwb bingo pwrpasol cyntaf i’w adeiladu yn y DU’.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Marchnad Nonpareil, James Street, Caerdydd

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd ein blog yn dychwelyd at dynnu sylw at gasgliad sy’n helpu i gofnodi Caerdydd a de Cymru sy’n newid yn gyflym.  Ym mis Mehefin 2014, derbyniodd Archifau Morgannwg adnau hynod ddiddorol ac unigryw gan Mary Traynor, artist o Gaerdydd, sydd wrthi ers diwedd y 1960au yn ceisio tynnu lluniau o adeiladu Caerdydd a’r ardal gyfagos sydd dan fygythiad o gael eu dymchwel.  Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn amgueddfeydd amrywiol dros y blynyddoedd ac mae’n tynnu sylw at lawer o adeiladau sydd wedi diflannu ers hynny.  Mae’r casgliad yn cynnwys ei llyfrau braslunio a’i gwaith rhydd, yr oedd rhai ohonynt wedi’u fframio ac yn cael eu harddangos cyn hynny.  Mae’r brasluniau a’r paentiadau hyn yn ategu sawl cyfres arall o gofnodion a gedwir yn yr archifau, gan ddarparu ffynhonnell werthfawr i’r rhai hynny sy’n ymchwilio i hanes adeiladau yn yr ardal.

Mae David Webb, sy’n wirfoddolwr yn Archifau Morgannwg, wedi bod yn defnyddio’r cofnodion hyn i ymgymryd â gwaith ymchwil i hanes rai o’r adeiladau a gaiff eu cynnwys yn rhan o waith celf Mary Traynor.

Roedd Marchnad Nonpareil yn sefyll ar gornel James Street a Louisa Street, yn ardal Butetown o Gaerdydd.  Roedd yr adeilad wedi’i leoli yn rhifau 48 a 49 James Street tan tua 1905 pan gafodd y stryd ei hail-rifo ac yna roedd yr adeilad yn meddiannu rhifau 27 a 29.

d1093-2- 025 Non Pareil Market, James Street_compressed

Mae plac carreg uwchben trydydd llawr rhif 27 (49 gynt) yn dweud ‘The Nonpareil Market 1889’ sydd wedi bod yn fater o ddirgelwch.  Roedd y safle yno cyn y flwyddyn honno – ceisiwyd cymeradwyaeth i ychwanegu’r trydydd llawr mor fuan â 1871.  Yn 1889, derbyniodd Frederick Ward, cigydd, gymeradwyaeth adeiladu ar gyfer addasiadau i 48 a 49 felly gellid tybio bod y plac wedi’i osod fel rhan o’r gwaith hwn.  Fodd bynnag, mae’r rheswm dros wneud hynny yn aneglur.  Mae Nonpareil yn air Ffrengig, sy’n golygu heb ei ail, ond nid oes unrhyw gofnod o’r enw ‘Marchnad Nonpareil’ yn cael ei ddefnyddio fel cyfeiriad neu enw busnes yno.  Roedd busnes Ward wedi’i leoli yn rhif 49, ac roedd siop yn rhif 48 a oedd yn cael ei rhedeg gan yr entrepreneur enwog, Solomon Andrews.  Gan fod Andrews yn rhan o’r fasnach adeiladu hefyd, gellir honni mai ef oedd tu ôl i osod y plac – ond nid oes tystiolaeth i ddangos hynny.

Roedd Ward & Co, Cigyddion Môr, dal wedi’u rhestru yma yng Nghyfeiriadur 1972 Kelly’s – a oedd, erbyn hynny, wedi estyn i siop flaenorol Solomon Andrews, ond mae llun Mary Traynor yn dangos fod y safle wedi’i gau erbyn 1980.  Yna cafodd yr adeilad ei ddymchwel fel rhan o ailddatblygiad mawr. Cafodd rhywfaint o’r safle ei gymryd ar gyfer lledaenu’r ffordd, ond mae fflatiau modern bellach yn meddiannu gweddill y safle ar Louisa Place.    Mae’r plac ‘Nonpareil Market’ wedi’i ail-osod yn agos at ei lleoliad gwreiddiol, mewn mynedfa fwaog dros lwybr troed i mewn i’r datblygiad newydd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/20]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun newidiadau i 49 James Street, 1871 [BC/S/1/90569]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun newidiadau i 48 & 49 James Street, 1889 [BC/S/1/7416]
  • Butcher’s Cardiff District Directory, 1882-83
  • Kelly’s Directory of Cardiff, 1972
  • http://wearecardiff.co.uk/2014/04/18/100-days-in-cardiff-the-non-pareil-market/
  • Williams, Stewart, Cardiff Yesterday, cyf. 31, delwedd 69