Y Pafiliwn, Y Bont-faen:  Ffotograffau wedi’u tynnu gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch gwreiddiau’r adeilad ar brif stryd Y Bont-faen gyda chromen addurnedig a chanopi arddull theatr, yna efallai bod yr erthygl hon o ddiddordeb. Wedi ei dynnu bron i gan mlynedd yn ôl, mae’r llun isod yn dangos Sinema’r Pafiliwn yn Y Bont-faen. Mae’n dangos yr adeilad yn ei anterth, ac mae’n rhyfeddol cyn hired y mae ffasâd yr adeilad wedi goroesi yn gyfan; mae’n dal yn hawdd ei adnabod heddiw – er bod ei ddyddiau fel sinema wedi hen gilio.

M525

Cafodd y llun ei dynnu gan y ffotograffydd lleol, Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1925 a 1929.  Wedi’i godi a’i reoli gan berchennog garej lleol, Arthur Mills, roedd gan y Pafiliwn sinema ar y llawr gwaelod a neuadd ddawns ar y llawr cyntaf. Roedd y digwyddiad cyntaf yn yr adeilad newydd bron yn sicr yn bazaar eglwys a gynhaliwyd yn y neuadd ddawns ar 6 Mai 1925. Ni fu’n hir, fodd bynnag, cyn i’r llawr masarn newydd ei osod gael ei roi ar brawf yn iawn gyda dawns ar nos Iau 21 Mai 1925, a fynychwyd gan dros 250 o bobl, i godi arian ar gyfer adfer Eglwys y Plwyf yn y Bont-faen. Disgrifiwyd y “neuadd ddawns odidog” fel un o’r gorau yn ne Cymru. Gyda dawnsio i “seiniau cerddorfa Rumson” tan ddau y bore, cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel “llwyddiant digamsyniol”.

Roedd hi rai misoedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, cyn bod y sinema ar y llawr gwaelod, gyda’i daflunydd Kalee Rhif 7 newydd ei osod, yn barod i dderbyn cwsmeriaid. Wedi ei amseru i gyd-fynd â phrysurdeb Sioe’r Bont-faen, agorodd Sinema’r Pafiliwn Ddydd Mercher 16 Medi gyda dangosiad o ffilm fud “The Folly of Vanity”.  Gyda’r seren Betty Blythe yn y brif ran, roedd i’r ffilm ddilyniant camera “ffantasi ddramatig syfrdanol” gyda’r arwres yn plymio i’r môr i ymweld â llys tanddwr Neifion.

Yn y blynyddoedd canlynol bu’r neuadd ddawns yn y Pafiliwn yn lleoliad poblogaidd, yn aml yn cynnal y Dawns flynyddol Helfa Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd hefyd ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys derbyniad i Lloyd George ym mis Hydref 1930, pan roddwyd Rhyddfraint Bwrdeisdref y Bont-faen i’r cyn Brif Weinidog. Llwyfannodd y sinema hefyd gynyrchiadau cyntaf oll Cymdeithas Ddrama Amatur y Bont-faen a gwefreiddio cynulleidfaoedd gyda ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys Ben Hur gyda Ramon Novarro, Douglas Fairbanks yn herfeiddiol yn y brif ran yn “The Thief of Baghdad”, a’r digrifwr Harold Lloyd yn “For Heaven’s Sake”.  Dangoswyd nifer o ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus hefyd yn Y Pafiliwn, yn cynnwys “The Path to Poultry Prosperity”. Ni chafodd ffigyrau presenoldeb ar gyfer y digwyddiad hwn eu cofnodi.

Wedi’i ddifrodi gan dân ym mis Ebrill 1942, adferwyd y Pafiliwn ym 1948 a pharhaodd i weithredu fel sinema tan ganol y 1950au.  Er ei fod bellach yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd, mae’r gromen a’r ffasâd wedi eu cadw ac yn parhau i fod yn olygfa gyfarwydd ar Eastgate yn y Bont-faen.

Tynnodd Miles luniau, a ddefnyddiwyd yn bennaf fel cardiau post, o lawer o drefi a phentrefi ar draws Bro Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o’r casgliad dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.  Mae’r ffotograff o’r Pafiliwn a ddefnyddir yn yr erthygl hon i’w gweld dan y cyfeirnod D1622.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Solomon Andrews a Sinemâu Cynnar Morgannwg

Dechreuodd y sinema ym 1895 pan gynhaliodd Louis Lumière y tafluniad cyntaf o ddelweddau ffotograffig symudol i gynulleidfaoedd am dâl ym Mharis. Yn fuan daeth dangos lluniau symudol yn fath poblogaidd o adloniant. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd sinemâu’n gyflym i fod yn fath mawr o adloniant torfol, gan gyrraedd anterth poblogrwydd yn y 1930au. Erbyn 1934, roedd un sedd sinema ar gyfer pob deg person yn Ne Cymru. Roedd yn fusnes proffidiol i entrepreneuriaid lleol gymryd rhan ynddo.

Sefydlwyd cwmni S. Andrews a Son gan Solomon Andrews.  Wedi’i eni yn Trowbridge yn Wiltshire, ymgartrefodd Andrews yng Nghaerdydd yn y 1850au. I ddechrau, sefydlodd busnes fel pobydd a melysydd. Cyn bo hir, lledaenodd ei ddiddordebau busnes i feysydd mor amrywiol â threfnu angladdau, symud dodrefn, darparu gwasanaethau bysus a thramiau, siopau a siopau adrannol, rheoli a datblygu eiddo, a glofeydd.

Mentrodd y cwmni i fusnes y sinema am y tro cyntaf ym 1911, pan drodd y rinc sglefrolio yn Yr Ais, Caerdydd, yn sinema. Agorodd y sinema Central ym mis Mawrth 1911, ac arhosodd yn nwylo’r cwmni tan fis Tachwedd 1959, pan gafodd ei werthu gydag Adeiladau’r Aes, ar ôl difrod tân helaeth.

Yn dilyn llwyddiant y sinema Central, caffaelodd S. Andrews and Son dir yn Abertawe ac agorodd sinema’r Castle yno ym 1913.

Ym 1915 cafodd safle hen neuadd y dref yn Stryd Hannah, y Porth, ei brydlesu gan y cwmni, ac adeiladwyd sinema newydd.

DAB-18-2

Agorodd y sinema Central, yn y Porth, ym 1916, a bu’n gweithredu fel sinema tan 1974, pan gafodd ei chymryd drosodd yn gyfan gwbl fel neuadd bingo. Mae cofnodion ar gyfer y sinema hon yn cynnwys llyfrau arian parod sy’n manylu ar y cyllid wythnosol ar gyfer y blynyddoedd 1917 i 1930. Mae’r cyfrolau cynharach yn rhestru ffigurau derbyn wythnosol, ac maent yn rhoi gwybodaeth am raglenni ffilmiau. Mae yna hefyd lyfrau nodiadau sy’n rhoi’r rhaglenni ffilmiau wythnosol ar gyfer y cyfnod rhwng 1919 a 1945.

Ymhlith y ffilmiau niferus a recordiwyd yn y llyfrau nodiadau, mae teitlau clasurol amrywiol yn ymddangos, megis David Copperfield gyda W.C. Fields a Basil Rathbone (a ddangoswyd ym 1935), a Jane Eyre gyda Joan Fontaine ac Orson Welles (a ddangoswyd ym 1944). Ymhlith y ffilmiau poblogaidd roedd ffilm ias a chyffro Hitchcock The Lady Vanishes gyda Margaret Lockwood a Michael Redgrave (a ddangoswyd ym 1939), a The Wizard of Oz gyda Judy Garland (a ddangoswyd ym 1940). Cafodd y ffilm olaf ei chadw yn y Central am chwe diwrnod yn hytrach na’r tri diwrnod arferol, oherwydd ei phoblogrwydd.

DAB-42-1-5 Wizard of Oz

Roedd rhaglenni amrywiol yn cwmpasu chwe diwrnod, gan gynnwys ffilmiau Shirley Temple Poor Little Rich Girl (a ddangoswyd ym 1937), a The Little Princess (a ddangoswyd ym 1940), a hefyd Fred Astaire a Ginger Rogers yn Swing Time (a ddangoswyd ym 1937). Hollywood, o ddyddiad cynnar, oedd yn flaenllaw yn y diwydiant sinema ac adlewyrchir hyn yng nghofnodion y Central.

DAB-42-1-5 Proud Valley

Roedd dwy o’r ffilmiau a ddangoswyd yn sinema’r Central, yn y Porth, yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â chymoedd De Cymru. Dangoswyd Proud Valley, gyda Paul Robeson a Rachel Thomas, ym 1940 ac eto ym 1943.  A chafodd y ffilm sydd fwy na thebyg yr un enwocaf a wnaed erioed am Gymru, sef How Green Was My Valley, ei dangos ym 1942.

Grŵp diddorol o gofnodion o sinema Central y Porth yw’r llythyrau rheoli, sy’n rhedeg o 1920 i 1947, gyda bwlch ar gyfer y blynyddoedd rhwng 1928 a 1934. Llythyrau gan reolwr y Central at gyfarwyddwyr Castle and Central Cinemas Ltd. yw’r rhain i roi gwybod iddynt am weithrediad dyddiol y sinema. Maent yn cynnwys y cyfnod pan oedd mynd i’r sinema ar ei anterth, ac maent yn helpu i daflu goleuni ar amodau cymdeithasol ac economaidd yng nghymoedd De Cymru. Mae’r wybodaeth a roddir yn y llythyrau yn cynnwys gweithrediad cyffredinol y sinema, rhaglen a phoblogrwydd ffilmiau, cynnal a chadw offer, atgyweirio’r adeilad, a llogi staff. Fodd bynnag, mae’r rheolwr yn sôn am ddigwyddiad lleol neu genedlaethol lle mae’n effeithio ar weithrediad y sinema a ffigurau presenoldeb. Felly mae’r llythyrau’n cynnwys gwybodaeth am streiciau lleol a chenedlaethol, y bwriad i gau pwll glo lleol, a thrychinebau lleol fel tân neu lifogydd.

Roedd y teulu Andrews hefyd yn berchen ar sinema Olympia, Heol y Frenhines, Caerdydd, a agorodd ym 1922.

Chwaraeodd Solomon Andrews a Son ran fawr yn hanes sinemâu ym Morgannwg. Roedd y cwmni’n darparu gwasanaeth adloniant pwysig, ac mae llawer o’r dogfennau sy’n ymwneud â’u cyfranogiad yn y diwydiant sinema wedi goroesi.  Mae cofnodion Solomon Andrews and Son ar gael i’w harchwilio yn Archifau Morgannwg a gellir pori trwy’r catalog, sydd ar gael trwy ein gwefan www.archifaumorgannwg.gov.uk, o dan gyfeirnod DAB.

Sinema’r Coliseum, Heol y Bont-faen, Caerdydd

Dyluniwyd Sinema’r Coliseum yn Nhreganna gan y pensaer lleol, Edwin J. Jones, a’i adeiladu gan y Canton Cinema Company ym 1912. Roedd y cynlluniau a gymeradwywyd yn awgrymu bod ynddo seddi i 899 ar y llawr gwaelod gydag 192 ychwanegol yn yr oriel, ond mae sylwadau ar wefan Cinema Treasures yn awgrymu’r posibilrwydd bod nifer y seddi’n sylweddol lai na hyn.  Wedi ei leoli yn 139-143 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, ar gornel North Morgan Street, agorodd ar 6 Ionawr 1913, gyda The Panther’s Prey fel y brif ffilm.  Tua 1930 gosodwyd system sain RCA ynddo a’i ailenwi yn Coliseum Cinema.

rsz_d1093-2-21_to_44_033__coliseum_cinema_cowbridge_road

Fel sawl sinema arall, daeth yn neuadd fingo yn y 1960au.  Ar ddiwedd y 1980au cafodd ei ddymchwel a maes o law ailddatblygwyd y safle gan Castle Leisure Ltd (rhan o’r ymerodraeth fusnes a sefydlwyd gan Solomon Andrews, sydd ym meddiant ei ddisgynyddion o hyd), sy’n honni mai hwn oedd ‘y clwb bingo pwrpasol cyntaf i’w adeiladu yn y DU’.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: