Un o’r agweddau mwyaf difyr ar hen ffotograffau o’n cymdogaethau yw eu bod nhw’n dangos yn glir gymaint y mae pethau wedi newid. Mae chwilio am adeiladau newydd, neu rai sydd wedi diflannu, yn hwyl a gall arwain at drafod mawr a rhannu atgofion.
Ond nid ffotograffau’n unig all brocio’r cof fel hyn. Mae catalogau a ddefnyddiwyd mewn arwerthiannau a’r manylion y maen nhw’n eu cynnwys am y gwrthrychau oedd ar werth hefyd yn ffynhonnell hanesyddol dda, yn enwedig pan fo ynddynt luniau a chynlluniau. Mae cofnodion Stephenson and Alexander, a gedwir yma, yn un o’r mwyaf sydd gennym. Cwmni o Arwerthwyr a Syrfewyr siartredig lleol oedd ydoedd.
Mae’r catalog a baratowyd ganddynt ar gyfer gwerthu’r Theatre Royal a’r Silver Cinema yn y Barri yn ddifyr dros ben, â’i glawr nodedig yn dangos y Theatre Royal tua’r flwyddyn 1922 (cyf. DSA/6/575).
Mae’r ffaith bod y Theatr erbyn hyn wedi ei dymchwel yn rhoi arwyddocâd arbennig i’r catalog. Roedd y Theatre Royal a’r Silver Cinema ar werth gyda’i gilydd yn yr arwerthiant, a gynhaliwyd yn y Grand Hotel yn Birmingham. Roedd Silver Cinema yng Nghaerwrangon hefyd ar werth gyda nhw. Mae’r honno hefyd wedi ei dymchwel erbyn hyn.
Dywed y catalog fod y Theatr a’r Sinema yn cael eu rhedeg fel un busnes yn y Barri, gyda’r ddau adeilad yn dangos ‘pictiwrs’. Dywed hefyd, fodd bynnag, fod y Theatre Royal hefyd yn cynnal gweithgareddau ‘aruchel’ fel opera am 15 i 16 wythnos y flwyddyn.
Ym 1909 y cafodd y Theatre Royal ei hadeiladu yn y Barri, ac roedd yn cael ei defnyddio fel sinema tan 2008. Mae’r catalog yn llawn manylion am yr adeilad pan oedd yn anterth ei boblogrwydd. Mae yno fanylion am y celfi a’r addurniadau mewnol, yn cynnwys cadeiriau wedi eu clustogi ac y gellid eu codi yn y blaen a’r rhesi o gadeiriau pren, ar gyfer 550, yn ‘Y Pit’. Roedd yr addurniadau yn chwaethus iawn, gyda waliau glas a chornis a ffrîs gwyn, a phapur wal â phatrwm Tsieineaidd. Roedd gan y Theatr yr offer technegol diweddaraf i gyd – roedd ‘offeryn teleffonio’ yn y blwch talu!
Er ei fod wedi newid yn aruthrol ers 1922, mae’r Silver Cinema yn y Barri o hyd. Mae neuadd snwcer yno erbyn hyn. Dywed y catalog fod digon o le i 1,003 o bobl eistedd yn y neuadd, y balconi ac yn y Bocsys pan roddwyd hi ar werth. Roedd wedi cael ei hailadeiladu’n gyfan gwbl flwyddyn ynghynt, ac roedd yn ‘un o sinemâu brafiaf y Dywysogaeth’. Roedd yn sicr yn foethus, ac roedd ynddi ddwy banel gyda golygfeydd o Borth Ceri y Barri arnynt.
Gallwch ddarganfod mwy am y manylion gwerthiant o fewn casgliad Stephenson & Alexander ar ein catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/