Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Trychinebau Glofaol

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Trychinebau

Yn aml iawn y trychinebau glofaol mawr yr ydym yn eu cysylltu’n bennaf â marwolaeth yn y diwydiant glo. Un o’r trychinebau hynny oedd y trychineb yng Nglofa Universal, Senghennydd, a ddigwyddodd ar 14 Hydref 1913.  Lladdodd y ffrwydrad, a’r nwy gwenwynig a ollyngwyd yn rhydd o ganlyniad iddo, 439 o lowyr, gan wneud trychineb pwll glo Senghennydd yn un o’r trychinebau glofaol mwyaf marwol a thrasig yn hanes Prydain.

Picture1 Instagram

Datganiad yn nodi manylion yr iawndal a dalwyd, 1915 (DPD/4/11/2/4)

Fel rhan o’r project hwn, mae nifer fach o eitemau’n ymwneud â thrychineb Senghennydd wedi’u catalogio, gan gynnwys datganiad yn dangos manylion yr iawndal a threuliau angladdol a dalwyd gan berchenogion Glofa Universal, Lewis Merthyr Consolidated Collieries. Mae’r datganiad hwn yn rhestru pob unigolyn a laddwyd yn y trychineb, yn nodi ei enw, ei waith a’i oedran ac yn nodi p’un ai a oedd ganddo rywun yn dibynnu arno.

Mae eitemau eraill yng nghasgliad Y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymwneud â thrychineb Senghennydd yn cynnwys cofnodion yr ymchwiliad i’r trychineb, gweithdrefnau’r trychineb a ffotograffau a ymddangosodd mewn papurau newydd ac fel cardiau post o fewn dyddiau i’r trychineb.

Picture 2

Ffotograff o angladd un o’r rhai a laddwyd yn nhrychineb Glofa Senghennydd, 1913 (DNCB/14/1/2/3)

 

Cofebau Rhyfel Caerffili

Yn y blynyddoedd ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn rhaid i nifer fawr o’r bobl ymdopi â cholli anwyliaid a laddwyd. Roedd y galar yn hynod ddwys o ystyried bod y rhan fwyaf o’r rhai a fu farw yn ddynion ifanc â’u bywydau cyfan o’u blaen. Yn sgil y nifer enfawr o filwyr a laddwyd, lladdwyd bron miliwn o Brydain Fawr, daeth y llywodraeth a’r awdurdodau milwrol i’r penderfyniad bod dychwelyd cyrff y meirw yn anymarferol. Roedd y dynion a laddwyd yn y rhyfel felly’n cael eu cofio ar gofebau rhyfel ledled y wlad.

Roedd cofebau rhyfel o bob math; rhai cenedlaethol, fel y rhai yn Whitehall yn Llundain a Pharc Cathays yng Nghaerdydd; a chofebau lleol a gysegrwyd i’r sawl a fu farw o ddinasoedd, trefi a phentrefi ledled y wlad.  Roedd cofebau hefyd i grwpiau penodol, gan gynnwys timau chwaraeon unigol, cynulleidfaoedd eglwysi, cyn-ddisgyblion mewn ysgolion unigol a llawer o grwpiau eraill.

Yma yn Archifau Morgannwg, mae gennym gofnodion mewn perthynas â chodi nifer o gofebau yn y sir. Bydd y darn byr hwn yn trafod y gofeb yng Nghaerffili, a hefyd yn cyfeirio at y rhai lai na thair milltir i ffwrdd yn Senghennydd a Llanbradach.

Fel yn achos codi sawl cofeb, roedd y pwyllgor trefnu yn adlewyrchu strwythur y gymdeithas leol, sef pleidiau gwleidyddol lleol, grwpiau eglwys, undebau llafur, cyn-filwyr a gwragedd gweddw dibynnol. Yn achos Caerffili, roedd amrywiaeth y rhai â diddordeb yn gallu arwain at rywfaint o wrthdaro. Roedd sefydliadau sifil yn tueddu i ffafrio cofeb a oedd hefyd yn gyfleuster i’r gymuned ehangach, gydag amrywiaeth o drefi yng Nghymru’n cynnig neuaddau coffa cyhoeddus, llyfrgelloedd a phyllau nofio.  Yn Senghennydd, roedd y gofeb yn dŵr cloc yn y prif sgwâr.

Yn wahanol i gynigion sefydliadau sifil, roedd sefydliadau milwrol yn dadlau y dylai cofebau adlewyrchu’r aberth a wnaed gan filwyr, a bod naill ai’n glybiau i gyn-filwyr gwrdd â’i gilydd, neu’n gofeb barhaol fel yr un a godwyd yng Nghaerffili yn y pen draw.

Gellir gweld cipolwg o’r ddadl ynghylch math y gofeb dylid ei chael yng Nghaerffili yng nghofnodion yr awdurdod lleol ac erthyglau papur newydd (cyf: D163/U/4).

John Arnold, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg