‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’: Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd

Mae’r Adroddiad a’r Trafodion a lunnir bob blwyddyn gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cynnig trysor cudd o ddeunydd ar bob agwedd ar y gwyddorau naturiol. Erbyn 1900, roedd y Gymdeithas yn ffynnu, gyda mwy na 500 o aelodau ac adrannau ar wahân ar gyfer archaeoleg, bioleg, daeareg, ffiseg a chemeg. Coladwyd yr adroddiad a’r papurau a gynhyrchwyd gan yr adrannau bob blwyddyn ac fe’u cyhoeddwyd fel cofnod o weithgareddau’r Gymdeithas ac fel cyfraniad at y ddealltwriaeth ehangach o’r gwyddorau naturiol. Gwelir cyfrolau rhwymedig o’r Adroddiad a’r Trafodion o’r adeg y crëwyd y Gymdeithas yn 1967 hyd at 1970 ar silffoedd yr ystafell chwilio yn Archifau Morgannwg. Wrth ddarllen ond un o’r llyfrau (er enghraifft, y gyfrol sy’n cynnwys adroddiadau ar gyfer y cyfnod 1897 i 1902), cewch eich dal, yn syth, gan ystod o ddeunydd wedi’i greu gan aelodau’r Gymdeithas. Mae rhywbeth at ddant a diddordeb pawb bron, gyda phapurau ar:

The Excavations carried out on the site of the Blackfriars Monastery at Cardiff

The Birds of Glamorgan

Effects of a lightning flash

The Great Flood of 1607

Notes on the Psalter of Ricemarch

Notes on the hatchery and fish hatching at Roath Park

The Geology of the Cowbridge District

Meteorological observations in the society’s district.

Fodd bynnag, os ydych yn chwilio am argymhelliad, beth am ddarllen darn gan Robert Drane yn Nghyfrol 33, “Olla podrida with Nescio quidquid Sauce”? Roedd Drane yn un o geffylau blaen y Gymdeithas o’r adeg y cafodd ei chreu yn 1867 hyd at ei farwolaeth yn 1914. Fe oedd aelod gydol oes cyntaf y Gymdeithas ac fe oedd Llywydd y Gymdeithas yn 1896-97. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau ac roedd yn gyfrannwr rheolaidd at yr Adroddiad a’r Trafodion. Yn yr erthygl o’r enw ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’, a gyflwynodd yn gyntaf fel darlith yn adran Fiolegol y Gymdeithas ar 15 Rhagfyr 1898, nododd ganfyddiadau un o lawer o’i ymweliadau â’r ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro.

rsz_transactions

Yn yr adroddiad, mae Drane yn rhoi arsylwadau manwl ar fywyd gwyllt a’r planhigion ac anifeiliaid lleol y daeth o hyd iddynt ar yr ynysoedd ym Mehefin 1898. Nodweddir ei ysgrifennu gan lygaid craff a di-feth, boed wrth asesu cynnwys stumog Gwylan Y Penwaig a nodweddion corfforol y llygoden Sgomer neu’r amrywiaeth o Fanadl sydd i’w gweld ar Ynys Ramsey. Yn amlwg ymddiddorodd mewn ceisio chwalu theorïau cyfredol a llên gwerin leol ac, yn enwedig, yr awgrymiad ‘nad oes dim sydd wedi’i argraffu’n anghywir’. Er enghraifft, yn y papur, mae’r hawlio bod llygoden Sgomer, yn fwy na thebyg, rywogaeth newydd ac arbennig ac felly’n herio’r barn …awdurdod yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol…ei bod yn amrywiaeth leol o’r llygoden goch gyffredin. Mae hefyd yn dod i’r casgliad bod well gan Wylan Y Penwaig ddiet o wyau, gan gynnwys wyau Pâl, yn hytrach na chofnodion lleol sy’n nodi mai cwningod oedd ei phif fwyd.

Gwelir craidd y papur yn ei ymchwiliad o dri maes. Yng ngeiriau Drane ceisiodd i:

…determine the question of the specific difference of the Ringed and Common Guillemot, to find out what the Shearwater feeds on, and obtain some specimens of a large Vole, abundant there, which I am disposed to regard as an Island variety.

Mae’n adrodd yn fanwl ar bob pwnc. Fodd bynnag, fel yr arfer gyda Robert Drane, cewch lawer mwy. Er enghraifft, mae’n condemnio’r …casglwyr wyau ysglyfaethus…ar Ynys Gwales, yn canmol perchennog Ramsey am ofalu am boblogaeth Brain Coesgoch yr ynys ac yn holi perchenogion goleudy South Bishop am ystod a nifer yr adar y’u gwelid.

Gwelir hefyd yn yr adroddiad dameidiau o wybodaeth o’i arsylwad bod gan Bâl ar Sgomer 39 o lymrïod yn ei grombil i weld Gwyfyn Gwlithog ar Ynys Ramsey. Rhaid bod Drane, oedd yn 65 oed ar y pryd, a’i gydymaith oedd yn teithio gydag ef, cyd-aelod a Llywydd yn ddiweddarach o’r Gymdeithas, J J Neale, wedi diddanu a dychryn y bobl leol wrth iddynt edrych dros glogwyni i weld nythod Gwylogod a mynd â ffwng coden ffwg i’w goginio a’i fwyta. O ran hyn, dywedodd:

We took it home and, sliced it, fried it, and ate it for breakfast much to the doubt, if not to the disgust of the natives, who subsequently finding that we suffered no harm regarded us as gods…

Drane

Robert Drane a Joshua John Neale, aelodau o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, tua 1900, cyf.: DXIB23d

Ar gyfer adroddiad cyfoethog a manwl o’r bywyd gwyllt ar Ynysoedd Sir Benfro gyda thipyn o hiwmor a lliw lleol mae ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’ yn werth ei ddarllen. O ran y teitl, mwynhaodd Drane osod her i’w gynulleidfa. Roedd papur blaenorol o’r enw ‘A Pilgrimage to Golgotha’ yn amlwg wedi gadael llawer o bobl mewn penbleth o ran ei gynnwys posibl. Esboniodd Robert Drane fod ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’, felly, wedi’i ddewis yn ofalus …fel y mae pawb yma heno’n deall yn berffaith…yr hyn rwy’n mynd i siarad amdano…Efallai y byddaf yn gadael i chi ei weithio allan ar eich pen eich hunain. Mae Esboniad Drane ar dudalen 59  Cyfrol 33. Beth am ei ddarllen?

Os oes diddordeb gennych mewn cael gwybod mwy am Robert Drane a’r llawer o adroddiadau amrywiol a luniwyd gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, ceir copïau rhwymedig o’r Adroddiad Blynyddol a’r Trafodion ar gyfer 167 i 1970 ar silffoedd yr Ystafell Chwilio yn Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Advertisements

Ffosiliau rhedyn a chors…hefyd modrwy arian hynafol a sampl o graig wen: Sefydlu Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd ym mis Medi 1867

Ar 11 Medi 2017 mae Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn dathlu ei phen blwydd yn 150 oed. Dyma’r gymdeithas fywyd gwyllt fwyaf hirhoedlog yn yr ardal ac mae ei phen blwydd yn cael ei nodi gydag arddangosfa yn Amgueddfa Stori Caerdydd er mwyn dangos hanes cyfoethog y Gymdeithas. Mae’r arddangosfa yn canolbwyntio ar sefydlu’r gymdeithas, ei rhan yn creu yr Amgueddfa Genedlaethol, darganfyddiadau gwyddonol ac aelodau amlwg.

Wedi ei sefydlu yn y lle cyntaf i hyrwyddo astudiaethau natur, daeareg a’r gwyddorau ffisegol, mae cofnodion y Gymdeithas, gan gynnwys ei lyfr cofnodion, cylchlythyron ac adroddiadau wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn rhoi cyfrif manwl o hanes creu’r gymdeithas a’i amrywiol weithgareddau o 1867 hyd y dydd heddiw.

Mae’r cyfeiriad cyntaf at ‘Gymdeithas’ i’w gael yn Awst 1867 gyda’r nodyn canlynol… cyfarfod cychwynnol aelodau’r ‘Gymdeithas Naturiaethwyr’ wedi ei chynnal yn ystafell uchaf y Llyfrgell Rydd… ar 29 Awst 1867. Wedi ei chadeirio gan y Bon. William Taylor, MD gyda chyfanswm o 11 yn mynychu, cytunwyd y byddai’r Gymdeithas yn cael ei galw yn Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a bod….Pwyllgor i gael ei greu er mwyn paratoi rheolau ar gyfer rheoleiddio’r Gymdeithas. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach cyfarfu’r grŵp drachefn i gytuno ar y rheolau. Er iddynt gael eu diwygio a’u hymestyn yn ddiweddarach roedd y rheoliadau gwreiddiol a nodwyd yn y llyfr Cofnod, ar 2 M]edi 1867, yn nodi nod y Gymdeithas fyddai Astudiaeth ymarferol o Astudiaethau Natur, Daeareg a’r Gwyddorau Ffisegol a ffurfio Amgueddfa yn gysylltiedig â’r Llyfrgell Rydd.  Roedd y pwyllgor cynllunio eisoes wedi hysbysebu mewn papurau lleol am aelodau ac wedi gwneud pwynt o bwysleisio bod …menywod yn gymwys i ymaelodi.

First meeting

Gyda chytundeb ar y diben a’r rheoliadau cynhaliwyd y cyfarfod llawn cyntaf ar 11 Medi 1867. Cadeiriwyd y cyfarfod gan William Adams, Llywydd cyntaf y Gymdeithas, a oedd yn beiriannydd sifil a mwyngloddio o Dredelerch. Mae’r cofnodion yn nodi’r 24 aelod a oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, er yr hysbysebu am aelodau a’r ymrwymiad i agor y drysau i ferched, roeddent oll yn ddynion.

Drane's gifts

Beth felly am y Ffosiliau rhedyn a chors…a hefyd modrwy arian hynafol a sampl o graig wen a gofnodwyd yn y llyfr cofnod? Sefydlwyd y Gymdeithas er mwyn i’w haelodau rannu a datblygu eu gwybodaeth ar bob agwedd ar y gwyddorau naturiol. I’r perwyl hwn, tra bo nifer o siaradwyr amlwg, seminarau a thripiau maes gan y Gymdeithas, y disgwyliad oedd i aelodau rannu eu gwybodaeth, ymchwil ac mewn rhai achosion eu casgliadau personol. Er enghraifft, yn y cyfarfod cyntaf daeth sawl aelod â chasgliadau o ieir bach yr haf a mwsogl i’w harddangos ac i’w harchwilio.

Roedd ymrwymiad hefyd, o’r dechrau’n deg, i hyrwyddo diddordeb yn y gwyddorau naturiol i drigolion tref Caerdydd oedd yn cynyddu’n gyflym o ran ei maint. Yn benodol, nod y Gymdeithas oedd datblygu a chasglu stoc ar gyfer Amgueddfa. Defnyddiodd cyfarfodydd cyntaf y Gymdeithas Ystafell Amgueddfa’r Llyfrgell Rydd ar Heol Eglwys Fair, a roddwyd yn rhad ac am ddim ar y ddealltwriaeth y byddai’r gymdeithas yn datblygu ac ehangu casgliad yr Amgueddfa.  Aeth y Gymdeithas i’r afael â hyn gan ddefnyddio’i arian i brynu llyfrau a phethau i’w harddangos ar gyfer yr Amgueddfa, ac anogwyd aelodau i ychwanegu at y casgliad gyda phethau i’w harddangos… i gael eu gosod yn Amgueddfa Caerdydd ac i ddod yn eiddo i Gorfforaeth Caerdydd.

Mae cofnodion cyfarfod 11 Medi yn nodi taw ffosiliau rhedyn a chors, modrwy arian hynafol a sampl o graig wen oedd y gwrthrychau cyntaf un i gael eu rhoi i gasgliad y Gymdeithas ac, felly, i’r Amgueddfa. Yn arwyddocaol cawsant eu rhoi gan Robert Drane a adnabuwyd, tan ei farwolaeth ym 1914, fel aelod mwyaf adnabyddus Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn y cyfnod cynnar hwn. Caiff Drane, a symudodd i Gaerdydd yn 1855 yn 22 oed, ei gofio â phlac pres ar safle ei fferyllfa ar Heol y Frenhines sy’n nodi:

Here lived Robert Drane FLS naturalist, antiquary and connoisseur. This tablet was erected to his memory by the Cardiff Naturalists’ Society which was founded in these premises in the year 1867. 

Fel mae’r cofnodion yn cadarnhau, roedd Drane yn un o 24 a dderbyniwyd i’r Gymdeithas ar 11 Medi a chafodd ei ethol yn y cyfarfod hwnnw i Bwyllgor y Gymdeithas. Ar ben hynny, ef oedd aelod oes cyntaf y Gymdeithas, a’r unig un i fanteisio ar y dewis, yn y cyfarfod cyntaf, i brynu aelodaeth oes am bris o dair gini. Mae’n ddiddorol nodi o’r 24 a oedd yn bresennol dim ond 15 a dalodd eu ffioedd y diwrnod hwnnw ac fe gyflwynodd y Gymdeithas reoliadau yn fuan oed yn cadarnhau:

All Members whose Subscriptions are one year in arrear shall forfeit their privileges of Membership. Those who are two years in arrear shall have their names erased.

Wrth dderbyn Llywyddiaeth y Gymdeithas bron i dri deg mlynedd yn ddiweddarach, yn 1896, nododd Drane:

This Society first opened its eyes in a little room behind a chemist’s shop in 1867 when there were but three persons present – Mr Phil Robinson, Mr R Rhys Jones and myself, and I alone of these am with you now. For these reasons, and because I am the original life member, I may, in some sort, claim to be its founder.

I Drane roedd yn ddatganiad nodweddiadol awgrymog a rhywfaint yn bryfoclyd. Am ba reswm bynnag, doedd Robert Drane heb fod yn y cyfarfodydd cynllunio ac nid oedd yn un o swyddogion y Gymdeithas a nodwyd mewn hysbysiadau a roddwyd ym mis Awst 1867 yn y papurau lleol. Ond roedd yn amlwg yn ffigwr allweddol ar is-bwyllgor Amgueddfa’r Llyfrgell Rydd a sefydlwyd ym 1864. Yn benodol, roedd wedi arwain ar wella ac ehangu ystod y creiriau arddangos oedd i’w cael yn yr Amgueddfa. Er enghraifft, mae’r cofnodion yn nodi, ar 22 Mawrth 1864:

Mr Drane be authorized to buy British Birds stuffed for the Museum at his direction – not exceeding £5 value.

Fel un allweddol mewn ymdrechion blaenorol i wella casgliad yr Amgueddfa ac fel rhywun â diddordeb byw ym mhob agwedd bron ar y gwyddorau naturiol, byddai Robert Drane wedi bod yn adnabyddus i’r rhai hynny a ymgasglodd i lunio rheoliadau’r Gymdeithas, gan gynnwys Peter Price, cyd-aelod o is-bwyllgor yr Amgueddfa, a Philip Robinson o’r Llyfrgell Rydd. Mae’n debygol iawn felly, i gynlluniau ar gyfer creu’r Gymdeithas gael eu deor mewn cyfarfod yn siop Drane fel y nodir ar y plac ar Heol-y-Frenhines. Mae un nam bach ar y darlun hwn fodd bynnag am na symudodd Drane i’r lleoliad ar Heol-y-Frenhines tan ddiwedd 1867 neu yn fwy tebygol 1868. Mae bron yn sicr felly y cafodd y cyfarfod y cyfeirir ato ei gynnal yn ei siop gyntaf yn 11 Stryd Bute. Fodd bynnag ni ddylid caniatáu i nam bychan dynnu oddi ar gystal stori.

O fewn blwyddyn, roedd aelodaeth y Gymdeithas wedi tyfu i 76. Roedd derbyn ym 1868, yr Ardalydd Bute yn Aelod Anrhydeddus yn bluen arbennig yn het y Gymdeithas ac yn arwydd o urddas a dylanwad cynyddol y Gymdeithas.

Invitation to Bute

Bute's response

Erbyn 1905, pan mai’r Gymdeithas fu’n sbarduno’r argymhelliad i’r Cyfrin Gyngor i leoli’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, hi oedd y gymdeithas wyddoniaeth fwyaf yng Nghymru.

Gall Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd felly, gyda chyfiawnhad, honni iddi fod yn asiant allweddol yn hyrwyddo astudiaethau ar y gwyddorau naturiol. Wrth i’r Gymdeithas ddathlu ei phen blwydd yn 150, byddai’n ddifyr gwybod os, yn rhywle yn y casgliadau yng Nghaerdydd, fod lle o hyd i ffosiliau, modrwy arian a chraig a roddwyd gan Robert Drane ym 1867.

Mae modd dilyn hanes y Gymdeithas yn y cofnodion a geir yn Archifau Morgannwg o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, 1867-1991 (cyf. DCNS) a phapurau Robert Drane (cyf. DXIB).

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg