Y Diwrnod pan chwaraeodd Aladin ar Barc yr Arfau

Gwelwyd digwyddiad a hanner ar Barc yr Arfau Caerdydd bron i 130 mlynedd yn ôl, ddydd Iau 23 Ionawr 1889, pan aeth XV Aladin i’r cae i herio XV Dick Whittington. Gyda’r Athro Hud a lledrith o Tseina, Abanazar, yn gefnwr a Widow Twankey a’r Ymerawdwr Congou yn y pac, roedd tîm Aladin, a ffurfiwyd o gast pantomeim y Theatre Royal, yn gyfuniad grymus. Arweiniwyd XV Dick Whittington, a gynrychiolai Theatr y Grand, gan Idle Jack, ac yn ôl y sôn aeth 16 chwaraewr i’r cae – 15 a’r gath efallai. Adroddodd y South Wales Daily News y cefnogwyd y ddau dîm gan “dorf wych” a oedd yn cynnwys cast llawn y ddwy theatr. Seren y prynhawn oedd Mr Luke Forster neu Abanazar. Nid yw’r adroddiad yn datgelu a ddefnyddiodd ei rymoedd hud a lledrith ai peidio ond, trwy ei ymdrechion, tîm Aladin a orfu…o un cais a 4 minor i ddim. Ond doedd Mr E W Colman, sef Idle Jack Theatr y Grand ddim am aros yn y cysgodion gan iddo gael ei gario ar ysgwyddau’r cefnogwyr i ddathlu …rhediad y gêm o’i linell 25 ei hun i linell 25 y Royal.

Y tu hwnt i’r miri, roedd hyn yn fater difrifol wrth i’r ddwy theatr ymgiprys i ddenu’r torfeydd a oedd yn heidio i Gaerdydd bob nos i fynychu’r pantomeimiau. Wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg y mae casgliad o daflenni hyrwyddo’r perfformiadau pantomeim yn y Theatre Royal.

rsz_d452-3-18

Wedi ei leoli ar gornel Stryd Wood a Heol yr Eglwys Fair, safle a feddiannwyd yn ddiweddarach gan Theatr Tywysog Cymru, adeiladwyd y Theatre Royal ym 1878. Yn ei ddydd fe ddaliai 2000 o bobl mewn awditoriwm o felfed coch moethus. Aladin a’i Lamp Hudol oedd yr wythfed pantomeim i gael ei lwyfannu yn y theatr. Trwy gyfrwng yr amryw daflenni hyrwyddo a gynhyrchwyd ar gyfer y cynhyrchiad, o fis Rhagfyr 1888 hyd fis Chwefror 1889, gallwn weld ei fod yn un o gynyrchiadau mwyaf a helaethaf y flwyddyn. Mewn ymdrech i ddenu’r torfeydd rhoes y taflenni hyrwyddo fanylion am y cast a chrynodeb o bob golygfa gyda manylion y gosodiadau a’r perfformiadau oedd i’w gweld. Gwnaed pob ymdrech i lenwi’r theatr nos ar ôl nos, gyda threnau arbennig wedi eu trefnu o Abertawe, Merthyr a Rhymni gyda thocynnau gostyngedig ar gyfer y rheiny oedd yn prynu tocynnau theatr yn yr orsaf cyn camu i’r trên.

rsz_d452-3-20

Gyda phennawd fel …pantomeim godidocaf Cymru, roedd deuddeg golygfa yn Aladin a’i Lamp Hudol, pob un â’i olygfeydd addurnedig yn portreadu strydoedd a marchnadoedd Tseina, Ogof Aladin, y Palas Hedegog a Chartref y Sphinx. Yn yr adolygiad a gyhoeddwyd yn y papurau lleol disgrifiwyd yr olygfa yn Neuaddau Alhambra fel y piece de resistance. Roedd i bob golygfa ei phrif act ac yn Neuaddau Alhambra arweiniwyd yr olygfa gan y Chwiorydd Wallace, Fannie, Emmie a Nellie …a’u caneuon a’u dawnsfeydd arbennig. Cawsant gefnogaeth gan y ddau gomedïwr Sawyer ac Ellis (a ddisgrifiwyd fel dawnswyr esgidiau mawr anhygoel) fel dau heddwas …a lwyddai i sicrhau bod y gynulleidfa yn ei dyblau. Os nad oedd hynny’n ddigon, deuai’r olygfa i’w therfyn gyda ‘Baled Hardd y Gwyfynod’ a berfformiwyd gan chwedeg o ddawnswyr – un o dri bale a lwyfannwyd yn ystod y perfformiad. Sêr y pantomeim oedd Miss Howe Carewe, a ddisgrifiwyd fel …Aladin hynod gyfareddol, a Miss Marie Clavering fel y Dywysoges. Cefnogwyd hwy gan Luke Forster a Frank Irish fel Abanazar a Widow Twankey. Dim ond cyfran fechan o’r actorion oedd y prif rai gyda’r taflenni hyrwyddo yn nodi cast o 30 o actorion ynghyd â rhannau ychwanegol a dawnswyr.

Mae yna wyth taflen hyrwyddo ar gyfer Aladin a’i Lamp Hudol yn Archifau Morgannwg ac maent yn dangos y modd yr addaswyd y pantomeim a’i newid yn ystod ei rediad o ddau fis. Y nod oedd apelio i bob oed ac adnewyddu’r actau, y caneuon a’r dawnsfeydd fel y byddai pobl yn dod yn eu holau drachefn a thrachefn. Er enghraifft, erbyn diwedd Ionawr roedd criw o acrobatiaid a gêm bêl-droed wedi eu hymgorffori i’r perfformiad. Yr arfer hefyd oedd i’r prif actorion gael noson fuddiant ac mae taflenni ar gael i hysbysebu’r nosweithiau a nodwyd ym mis Ionawr ar gyfer Miss Howe Carewe ac eraill. Ond, ceir arwyddion nad oedd popeth gystal â hynny. Erbyn Ionawr mae’r taflenni hyrwyddo yn cadarnhau bod Marie Clavering wedi ei newid am Miss Florence Bankhardt a oedd wedi cyrraedd …yn syth o’r New Opera House, Chicago, i chwarae rhan y Dywysoges. Roedd arwyddion hefyd fod y comedïwyr dan bwysau i wella eu perfformiad – a chymysg oedd y canlyniad. Wrth basio sylw ar y deunydd newydd a gyflwynwyd gan Frank Irish fel Widow Twankey, roedd y South Wales Daily News yn croesawu hanes comig y gêm b͏êl-droed rhwng Caerdydd ac Abertawe ond yn llai canmoliaethus i’r cyfeiriadau at ‘Adam a’r dail ffigys’.

Y gwir plaen oedd, er bod Aladin wedi ei ganmol fel y pantomeim gorau i gael ei lwyfannu yn y Theatre Royal, bellach roedd lleoliad newydd yn ymgiprys i ddenu’r torfeydd panto sef y Grand Theatre of Varieties ar Heol y Porth. Ar ôl agor y flwyddyn flaenorol, roedd y Grand yn llwyfannu ei phantomeim cyntaf ac roedd ei pherchnogion yn daer am greu argraff. Roedd y Grand yn theatr mwy a mwy ysblennydd na’r Royal ac wedi ei disgrifio fel yr harddaf o’i fath. Roedd hefyd wedi ymrwymo i wario cyllideb fawr i’w phantomeim cyntaf, Dick Whittington a’i Gath. Ddiwedd Ionawr 1889 adroddodd y Western Mail fod miloedd o hyd yn tyrru bob nos i’r Grand, gyda llawer yn methu â chael sedd. Daeth y papur i’r casgliad hwn:

The success is due without a shadow of a doubt, to the all-round excellence of everything that goes to make up the pantomime.

Ymddengys efallai fod XV Aladin wedi ennill y gêm ar Barc yr Arfau. Fodd bynnag, er ymdrechion glew, ail ddaeth Theatr y Royal ym mrwydr y pantomeimiau 130 mlynedd yn ôl adeg y Nadolig 1888. Pwy ddwedodd ‘O na wnaethon nhw ddim!’? Mae gen i ofn fod y dystiolaeth yn awgrymu ‘O do mi wnaethon nhw’!

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Mae modd gweld taflenni hyrwyddo’r cynyrchiadau ar gyfer y Theatre Royal rhwng 1885 a 1895, gan gynnwys ‘Aladin a’i Lamp Hudol’ yn Archifau Morgannwg, cyf D452. Gellir gweld yr adroddiadau papur newydd ar-lein ar wefan Welsh Newspapers Online. Mae’r adroddiad ar gyfer y gêm ar Barc yr Arfau yn y South Wales Daily News ar 24 Ionawr 1889.

Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni

Y 75fed eitem a dderbyniodd Archifau Morgannwg ym 1976 oedd Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni. Sefydlwyd y Bwrdd ym 1921, yn dilyn sawl blwyddyn o ymgyrchu ac arweiniodd at basio Bil Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni.

Roedd y Bwrdd yn cynnwys cynghorwyr o Gelligaer, Bedwellte, Bedwas a Machen, Mynyddislwyn, Rhymni a Chaerffili.   Roedd ganddo’r grym i gaffael rhai gweithiau a gweithgareddau dŵr ac i adeiladu gwaith dŵr newydd, yn ogystal â chyflenwi dŵr.  Daeth y dŵr ei hun gan Fwrdd Cyflenwi Dŵr Taf Fechan ac mae cofnodion y Bwrdd hwnnw gennym hefyd yn Archifau Morgannwg.

Cofnodion Bwrdd Dwr Cwm Rhymni

Cofnodion Bwrdd Dwr Cwm Rhymni

Er mai ym 1921 y sefydlwyd y Bwrdd, mae’r cofnodion yn dyddio o 1916; mae’r eitemau hyn yn cynnwys toriadau papur newydd yn olrhain adroddiadau ar yr ymgyrch i greu’r Bwrdd.  Mae’r cofnodion yn parhau hyd at 1966.  

Mae Cofnodion Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn cynnwys 45 cyfrol o lyfrau cofnodion,  cyfrifon, adroddiadau peirianwyr a thoriadau papur newydd.

Mae cofnodion byrddau bwrdeistrefol fel Bwrdd Dŵr Cwm Rhymni yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ar gyfer unrhyw un sy’n astudio datblygiad llywodraeth leol a gwleidyddiaeth leol yng Nghymru.