Mae’r darlun yn dangos storfa rawn a safai ar ochr orllewinol Doc Bute y Gorllewin. Yn ystod y 1980au a 90au, cafodd y rhan fwyaf o’r adeiladau o’i amgylch eu dymchwel i greu lle ar gyfer ailddatblygu Bae Caerdydd. Er nad oedd wedi ei restru yn statudol, arbedwyd y storfa rawn oherwydd y tybiwyd bod iddo rai rhinweddau pensaernïol. Y bwriad oedd iddo gael ei ailwampio a’i droi yn fflatiau.
Ond, pan ddechreuwyd ar y gwaith, gwelwyd ei fod mewn cyflwr peryglus. Oherwydd hynny, rhoddodd Cyngor Sir Caerdydd ganiatâd cynllunio yn 2005 iddo gael ei ddymchwel a chodi adeilad fflatiau newydd ar y safle gyda dyluniad oedd cyn agosed i’r gwreiddiol ag y bo modd. Gyda charreg nadd naturiol i’w weddau blaen rhoddwyd yr enw The Granary arno, mae’r adeilad gorffenedig i’w weld erbyn hyn tua hanner ffordd ar hyd Rhodfa Lloyd George.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/36]
- Cyngor Sir Caerdydd: Cais Cynllunio 04/02950/C
- Lee, Brian, Cardiff’s Vanished Docklands (yn enwedig y delwedd ar t.53)