Cipluniau o Erddi Dyffryn: Y Pwll Lili Trofannol yng Nghae Rasio Trelái

Yn ystod y flwyddyn y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed, rydym yn edrych, trwy luniau a chofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, ar ei heiddo mwyaf a mwyaf adnabyddus efallai yn ne Cymru, Gerddi Dyffryn. Gosodwyd Gerddi Dyffryn ar gyfer teulu Cory dros ganrif yn ôl gan y dylunydd gerddi a’r pensaer tirlunio enwog, Thomas Mawson. Dros y blynyddoedd, mae’r gerddi wedi cael eu hedmygu’n fawr ac maen nhw wedi ennill nifer o wobrwyau. Mae’r cofnodion sydd yn Archifau Morgannwg yn cynnwys tair tystysgrif a gyflwynwyd i deulu Cory mewn sioeau garddwriaethol lleol rhwng 1925 a 1931. All y gwobrau ddim dweud ei hanner hi am yr ystod o blanhigion a choed sydd yn y gerddi, y mae llawer wedi dod o dramor. Fodd bynnag, maen nhw’n rhoi syniad i ni o’r parch yr oedd at Erddi Dyffryn ar y pryd. Maen nhw hefyd yn dweud rhywfaint wrthym am rai o’r planhigion arbennig sydd yn y gerddi a ddewiswyd ar gyfer eu harddangos.

Picture1

Mae’r tair tystysgrif ar gyfer Sioe Cymdeithas Arddwriaethol Trelái a’r Ardal ym mis Awst 1925, Sioe Cymdeithas Arddwriaethol y Barri ym mis Awst 1931 a Sioe Cymdeithas Eurflodau’r Barri a’r Ardal ym mis Tachwedd 1931. Mae hyn yn swnio fel camp fechan i Reginald Cory a’i brif arddwr ar y pryd, J T Smith, y ddau yn Gymrodyr y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Ond rhaid cofio nad oedd teulu Cory yn y sioeau i gystadlu. Yn hytrach, caent eu gwahodd yno i gynnig arddangosiad fel canolbwynt y sioeau. Y nod oedd hyrwyddo’r digwyddiad i’r cyhoedd a chodi arian at elusennau trwy werthu’r arddangosiadau wedyn. Gerddi Dyffryn oedd un o’r gerddi gorau yn ne Cymru a byddai hysbysebion yn cyfeirio’n rheolaidd at yr arddangosiadau a geid gan Reginald Cory a’i chwaer, Florence, fel nodwedd arbennig y sioe. Felly, roedd y tair gwobr yn Archifau Morgannwg yn Dystysgrifau Teilyngdod a roddwyd i Reginald neu Florence Cory i nodi eu cyfraniad at y digwyddiad. Yn anffodus, mae manylion yr arddangosiadau a ychwanegwyd at y tystysgrifau mewn inc wedi pylu’n ofnadwy. Dydy’r geiriau ddim i’w gweld ar un, sioe Trelái a’r Ardal. Fodd bynnag, gyda rhywfaint o waith ditectif gan ddefnyddio hanesion papurau newydd lleol, bu’n bosibl ychwanegu rhywfaint o fanylion.

Roedd yr arddangosiad yn Sioe Eurflodau’r Barri’n hunanesboniadol i raddau. Yn unol â’r dull ar y pryd, mae’n debygol bod hyn yn gymysgedd o wahanol rywogaethau o Eurflodyn, gan ganolbwyntio o bosibl ar y casgliad planhigion eang yr oedd Reginald Cory wedi ei ymhél o bedwar ban y byd. Byddai hefyd wedi ei gyd-gasglu dan lygad gwyliadwrus y prif arddwr, J T Smith. Mae awgrym hefyd ynghylch beth oedd yr arddangosiad yn Sioe’r Barri ym mis Awst 1931, gyda chyfeiriad yn y papurau newydd lleol at lili’r dŵr… fel un o’r prif nodweddion.  Mae’n debyg bod yr arddangosiad yn un adnabyddus a edmygid yn fawr yr oedd Reginald Cory a J T Smith wedi ei ddefnyddio ar amryw ffurfiau mewn nifer o sioeau.  Er y gadawodd Reginald Dyffryn erbyn 1931, mae’n bosibl bod J T Smith, wedi ailddefnyddio’r cynllun o sioeau blaenorol, yn gweithio gyda Florence Cory. Ym 1926, yn Sioe Trelái, yng Nghae Rasys Trelái, cafodd ei ddisgrifio fel a ganlyn:

One realised again the wonderful part that Mr Reginald Cory of Duffryn is playing, not merely in adding to the ornamentation of small shows, but of inculcating a wider knowledge and appreciation of rarer phases of floral culture. At Ely he exhibited a water flower scheme. Through his head gardener, Mr J T Smith, he depicted with amazing realism, a water lily pond such as found in tropical woods, surrounded by brilliant foliage plants indigenous to those climes. Mr Smith succeeded in combining a perfect naturalness of setting with a richly blended harmony of colours. The exhibit well deserved the diploma awarded to Mr Cory. [Western Mail, 3 Awst 1926]

Y dystysgrif fwyaf addurniadol a gyflwynwyd yn Sioe Arddwriaethol Trelái a’r Ardal ym mis Awst 1925 hefyd yw’r mwyaf anodd dod o hyd iddi. Ar y pryd, dywedodd y papurau newydd yn syml:

the feature of the show was the collection of exhibits not for competition and Mr Reginald Cory, Duffryn, set a splendid example in this direction. His display was a really beautiful one. [Western Mail, 4 Awst 1925]

Beth oedd hwn? Cofnodwyd y defnyddiwyd y cynllun pwll lili a’i osodiad trofannol yn gyntaf ym 1926. Byddai rhywun eisiau dyfalu bod J T Smith wedi dewis arddangosiad ar sail dahlias, sef testun enwogrwydd rhyngwladol Dyffryn. Os oes gan unrhyw un fynediad at gofnodion neu ffotograffau a allai ein helpu ni â hyn, cysylltwch â ni. Ond rhaid cofio mai nod Reginald oedd gwneud argraff ac arddangos planhigion anarferol. Roedd ganddo hefyd dŷ gwydr cynnes eang yn Dyffryn lle’r oedd amrywiaeth o rywogaethau egsotig. Felly nid dahlias ydy ein tyb cyntaf ni. Mae’n fwy tebygol mai gosodiad trofannol fyddai’r thema, gan ddefnyddio’r ‘planhigion stof a thŷ gwydr’.

Un peth arall. Er na fyddai teulu Cory yn cystadlu yn y sioeau lleol, cofnododd y papurau newydd fod Mrs F Smith, Gerddi Dyffryn wedi ennill Cwpan Arian yr Amaturiaid Benywaidd yn Sioe Eurflodau 1931. Ai gwraig y Prif Arddwr oedd hon? Os felly, mae’n bosibl y byddai’r cystadleuwyr eraill wedi meddwl bod ei rhoi yn y categori ‘amatur’ braidd yn hael. Mae’r dair tystysgrif i’w weld yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D1121.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

 

Cipluniau o Erddi Dyffryn: Reginald Cory, Thomas Mawson a chreu gardd Edwardaidd glasurol

Yn ystod y flwyddyn y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed, rydym yn edrych, trwy luniau a chofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, ar ei heiddo mwyaf a mwyaf adnabyddus efallai yn ardal Caerdydd, Gerddi Dyffryn. Mae’r cyntaf o gyfres o luniau o Gerddi Dyffryn yn edrych ar y gerddi gwreiddiol a phoblogaidd a sefydlwyd yn nau ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif gan Reginald Cory a Thomas Mawson.

Cafodd Gerddi Dyffryn eu trosglwyddo i reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymharol ddiweddar ym mis Ionawr 2013. Mae ystâd Dyffryn yn dyddio o’r 16eg ganrif ac o bosibl yn gynharach. Fodd bynnag, gwaith y teulu Cory yw’r tŷ a’r gerddi ar eu ffurf bresennol i raddau helaeth, yn dilyn caffaeliad John Cory o ystâd Dyffryn yn 1891. Gwnaeth y perchennog John Cory, ar y cyd â’i frawd Richard, ei arian drwy Cory Brothers and Co o lo a llongau. Prynwyd Gerddi Dyffryn fel cartref y teulu i John, ei wraig Anna Maria, eu mab Reginald a’u merch Florence. Ynghyd ag ailadeiladu llawer o’r Tŷ, dechreuodd John a Reginald Cory waith i weddnewid y gerddi. Roedd yr allwedd i’r gwaith hwn ym mhenodiad Thomas Mawson yn 1903 i gynllunio a goruchwylio ailddatblygiad y gerddi. Roedd Mawson yn ddyn ar frig ei broffesiwn. Yn ddylunydd gerddi a phensaer tirwedd ag enw da yn rhyngwladol a aeth ymlaen i ddylunio parciau a gerddi ledled Ewrop a Gogledd America, Mawson gyda Reginald Cory, garddwr talentog a chasglwr planhigion, a osododd y cynlluniau ar gyfer y gerddi newydd. Penododd teulu Cory nifer o Brif Arddwyr eithriadol hefyd a oedd yn goruchwylio ac yn cyfarwyddo llawer o’r gwaith. Mae llawer yn ddyledus i Arthur J Cobb yn benodol, y prif arddwr yn ystod rhan sylweddol o’r cyfnod datblygu. Chwaraeodd Cobb, oedd yn darlithio yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Reading ac a ysgrifennodd yn helaeth ar arddio, gan gynnwys ei 3 Chyfrol ‘Modern Garden Craft’, ran sylweddol yn natblygiad yr hyn a gydnabyddir fel un o’r enghreifftiau gorau o ardd Edwardaidd.

Mae’r gyfres o 20 o luniau a gedwir yn Archifau Morgannwg gan y ffotograffydd Neame Roff o Walmer, Caint, yn rhoi cipolwg unigryw ar ddyluniad gardd Mawson, gyda’i lawntiau mawreddog a chamlas lili yn rhedeg o’r rhodfa ddeheuol, wedi’i hategu gan gyfres gymhleth o ‘ystafelloedd garddio’ i’r gorllewin o’r tŷ ac arboretwm i’r dwyrain. Wedi’u comisiynu gan Reginald Cory, mae’r ffotograffau’n dangos sut y byddai’r gerddi wedi edrych ar eu gorau yn y cyfnod 1910-1926. Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â’r gerddi heddiw yn gweld sut maen nhw wedi newid gyda thyfiant coed a llwyni dros y blynyddoedd. Mae’r ffotograffau hefyd yn darparu templed ar gyfer y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adfer rhannau o’r gerddi i’r ffordd y byddent wedi edrych pan gawsant eu gosod allan yn gyntaf gan Reginald Cory a Thomas Mawson. Rydym wedi cynnwys detholiad byr yn unig o’r portffolio cyffredinol:

D15-1

Y gerddi o ochr ddwyreiniol y Tŷ (D15/1)

D15-18

Y Gerddi Dahlia, sef safle’r treialon Dahlia rhyngwladol a gynhaliwyd yn Nyffryn yn 1913 a 1914 (D15/18)

D15-11

Yr ardd furiog gyda’i thŷ gwydr helaeth (D15/11)

D15-13

Gardd y Colofnau gyda’i choed bonsai (D15/13)

Efallai y bydd y rhai â llygaid craff yn eich plith hefyd wedi sylwi bod ffigur yn gallu cael ei weld yn y cefndir mewn tri o’r lluniau, yn archwilio’r planhigion neu’n edrych tuag at y camera. Ni allwn fod yn siŵr, ond ein theori ni yw mai’r prif arddwr ydyw. Wedi’i wisgo’n smart bob amser, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn yn ei yrfa, mae’n ymddangos bod Arthur J Cobb yn ddyn oedd yn benderfynol o wneud ei farc a chael ei sylwi. Caiff ffotograffau Neame Roff o gerddi Dyffryn eu cadw yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D15/1-20.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg