Y “Pysgotwr Nos” yn dod i Barc y Rhath

Mae llawer o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath yng nghasgliad Archifau Morgannwg. Ers ei agor ym mis Mehefin 1894 mae’r llyn yn y parc wedi bod yn lleoliad poblogaidd i genedlaethau o deuluoedd o bob rhan o dde Cymru.

Yn ddiweddar, fe dynnon ni sylw at ffotograff o’r platfform ymdrochi ger y promenâd.  Mae’r llun isod, a gymerwyd cyn 1914 hefyd, o ran o’r llyn sydd, efallai, ychydig yn llai cyfarwydd. Mae’n dangos yr ynysoedd ar ben uchaf (pen gogleddol) y llyn a’r bont lle mae Nant Lleucu yn llifo i’r llyn am y tro cyntaf. Y tu ôl i’r ffotograffydd y mae’r ardal a elwir yn Gerddi Gwyllt.

D332-18-23-8

Tynnir y llygad at y bobl sy’n mwynhau mynd ar gychod o amgylch yr ynysoedd. Edrychwch yn ofalus, fodd bynnag, ar un o’r ffigurau yn y blaendir.  Mae’n pysgota a’r tebygolrwydd yw, pe byddai wedi bod yn llwyddiannus y diwrnod hwnnw, y byddai ei fasged yn cynnwys brithyll. Pan agorwyd y llyn am y tro cyntaf, cafodd ei stocio â 1500 o frithyll brown a brynwyd o Loch Leven. Am flynyddoedd lawer, y brithyll brown a oedd yn teyrnasu yn y llyn i raddau helaeth, gyda’r pysgod yn cael eu hail-stocio â physgod a fagwyd yn neorfeydd y parc ei hun a leolid i ddechrau ger y gerddi botanegol ac yn ddiweddarach yn y Gerddi Gwyllt.

A chan gofio mantoli’r gyllideb, byddai cost yr ailstocio yn cael ei godi drwy roi trwyddedau pysgota a thrwy werthu canran o’r brithyll a fagwyd yn y deorfeydd.  O bryd i’w gilydd, byddai lefel y llyn yn cael ei ostwng ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Pan ddigwyddai hyn, cai’r brithyll eu dal mewn cored bysgod yn y nant rhwng y ddwy bont islaw’r promenâd. Roedd hyn hefyd yn caniatáu i wiriadau gael eu gwneud ar y niferoedd. Ym mis Hydref 1909, adroddodd William Pettigrew, Uwcharolygydd y Parciau, fod 25,000 o silod brithyll wedi’u rhyddhau i’r llyn er mwyn cynnal lefelau stoc.

At ei gilydd, gweithiai’r system yn dda, er, ar un adeg, cyhoeddwyd rhybudd llym pan ymddangosodd nifer o frithyll yn siop gwerthwr pysgod lleol. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, nad pysgotwyr lleol yn unig oedd yn mynd ar drywydd y brithyll. Ar sawl achlysur gwelwyd dyfrgwn yn y llyn ac, ar un achlysur, dyfrgi gwrywaidd llawn maint 22 pwys. O ganlyniad, gosodwyd trapiau er bod hyn wedi achosi rhywfaint o gythrwfl, gydag arsylwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod llyswennod yn llawer mwy o berygl i’r brithyll ifanc iawn na’r dyfrgwn.

Efallai mai’r prif bysgotwr yn y llyn, fodd bynnag, oedd cath drilliw benodol a oedd yn eiddo i Mr H N Jenkins ac a enwyd gan y wasg fel y “pysgotwr nos”. Dywedodd Mr Jenkins fod ei gath yn ymddangos yn rheolaidd ar garreg ei ddrws yn gynnar bob bore gyda brithyll yn ei geg a adawyd yn rhodd i’w berchennog. Awgrymir yn aml bod pysgotwyr yn adrodd “celwydd golau” yn achlysurol, ond perchnogion cathod? Go brin!

Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r llun uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley cyf. D332/18/23/8.  Mae stori’r “pysgotwr nos” i’w gweld yn Papurau Newydd Cymru ar lein, Evening Express, 2 Tachwedd 1898.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg