Y ‘Konrad Kids’ ym mhenawdau’r newyddion ym Mhwll Nofio’r ‘Empire’, Gorffennaf 1958

Er i’r tyrfaoedd heidio mewn niferoedd mawr i Barc yr Arfau Caerdydd er mwyn gwylio’r athletau, prif atyniad Chweched Gemau’r Ymerodraeth a’r Gymanwlad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 1958 oedd pwll nofio’r Gymanwlad a oedd newydd agor. Wedi’i adeiladu ar gost o dros £650,000, cafodd y ‘Wales Empire Pool’ ei adeiladu’n benodol ar gyfer y Gemau. Mae yna ffotograffau yn Archifau Morgannwg o’r Dywysoges Margaret yn ymweld â Phwll y Gymanwlad ar 2 Chwefror 1958 pan oedd yr adeilad dal yn cael ei adeiladu.

Princess Margaret

Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn amser pryderus gydag amserlen adeiladu a oedd yn anhygoel o dynn. Byddai rhyddhad mawr wedi bod felly pan agorwyd y pwll newydd, gyda’i ffasâd brics ‘modernaidd’ nodweddiadol a’i do casgen, ar amser ar 18fed Ebrill 1958 gan Arglwydd Faer Caerdydd, yr Henadur J H Morgan YN – dim ond 12 wythnos cyn diwrnod cyntaf y gemau. Mae deunydd sydd gan Archifau Morgannwg, gan gynnwys y rhaglen ar gyfer y digwyddiad agoriadol, yn rhoi manylion o adeilad a aeth ymhell y tu hwnt i’r ddelwedd boblogaidd o’r hyn oedd pwll nofio.

Fel y gellid disgwyl, y prif atyniad oedd y pwll nofio maint rhyngwladol 55 metr o hyd, gyda chwe lôn a hyd at 16 troedfedd o ddyfnder ar gyfer yr uchaf o’r tri bwrdd plymio a oedd yn sefyll dros y pwll, tua 10 metr yn uwch na lefel y dŵr. Byddai wedi bod yn brofiad rhyfeddol i’r rhai a ddefnyddiodd y pwll yn ei ddyddiau cynnar o ran maint yr adeilad a hefyd y defnydd o ‘dechnoleg newydd’, gan gynnwys system ‘pelydr is-goch’ i reoli’r cawodydd uwchben yr oedd  rhaid i nofwyr basio trwyddyn nhw er mwyn mynd i mewn i’r pwll.

O’r cychwyn cyntaf roedd uchelgais i ddefnyddio’r pwll newydd i’w gapasiti llawn a chyhoeddodd y rhaglen fod paneli gwydr yno y gellid eu goleuo â gwahanol liwiau ar gyfer ‘sioeau dŵr’.  Fodd bynnag, y cyfleusterau ychwanegol oedd yn dal y sylw. Yr oeddent yn cynnwys baddon ‘Mikvah’ Iddewig ar y llawr gwaelod, baddonau therapiwtig a chyfres o faddonau dur gloyw ‘aeratone’ ar gyfer tylino hydrolig. Roedd baddon Twrcaidd hefyd gydag ystafell boeth, slabiau tylino a phwll trochi.  Er mwyn cwblhau’r profiad, roedd cegin fechan yn darparu prydau ysgafn i’r rhai oedd yn defnyddio’r baddonau Twrcaidd ac ‘Aeratone’. Er mwyn darparu ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol, roedd seddi ar gael i 1700 o wylwyr gyda mynediad i fwyty a allai ddal hyd at 150 o westeion ar un tro.  Yn olaf, roedd gan yr arena system awyru gyda’r addewid fod yr awyr yn cael ei ‘newid yn llwyr bedair gwaith bob awr’.

Empire Pool opening programme cover

Dathlwyd yr agoriad gyda chystadleuaeth nofio ryngwladol gyda Phrydain Fawr yn cystadlu yn erbyn yr Almaen dros ddau ddiwrnod.

Empire Pool opening programme interior

Er bod y canlyniad yn llwyddiant mawr i dîm Prydain, roedd y papurau newydd y diwrnod wedyn yn feirniadol iawn o drefniadau’r digwyddiad gydag un papur cenedlaethol yn ei alw’n ‘Shambles’. Mae’n anodd penderfynu a oedd hwn yn asesiad teg. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod gwersi wedi’u dysgu erbyn i Gemau’r Ymerodraeth a’r Gymanwlad agor ar 19 Gorffennaf.

Programme cover

Gellir dilyn y frwydr am fedalau yn ystod y 6 diwrnod o nofio a phlymio a gynhaliwyd yn y pwll o 19eg i 25ain Gorffennaf 1958 drwy gyfrwng deunyddiau a gedwir yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys manylion y rowndiau terfynol ar gyfer nofio a phlymio a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf. Roedd y gobeithion yn uchel y gallai tîm Cymru cryf o 24 person, sef 16 o ddynion ac 8 menyw, ennill llond llaw o fedalau.

Wales Team

Yn arbennig, roedd gan lawer ddisgwyliadau uchel o gapten y tîm, John Brockway, a oedd wedi cystadlu dros Brydain Fawr yn y Gemau Olympaidd ym 1948 a 1952. Roedd John hefyd wedi cynrychioli Cymru yn y ddau Gemau’r Ymerodraeth diwethaf, gan ennill arian yn y ras nofio ar y cefn 110 llath yn Auckland ym 1950 a medal aur yn Vancouver ym 1954. Yn y rhaglen sydd yn yr Archifau ar gyfer y rowndiau terfynol yn yr ‘Empire Pool’ ar noson y 25ain o Orffennaf 1958 roedd enw John yn y rownd derfynol nofio ar y cefn a’r tîm ras gyfnewid pedwar dyn. Roedd 6 o nofwyr a phlymwyr o Gymru yn cystadlu am fedalau y noson honno mewn digwyddiad a wyliwyd gan Ddug Caeredin ochr yn ochr â thorf capasiti. Mae’r canlyniadau wedi’u hysgrifennu mewn pensil yn y rhaglen ac maent yn cadarnhau, yn anffodus, nad oedd yn noson lwyddiannus i’r nofwyr a’r plymwyr o Gymru.

Unwaith eto, aeth yr anrhydeddau ym Mhwll y Gymanwlad yn bennaf i dîm gorchfygol Awstralia.

Australian Team

Sêr y nos a’r wythnos oedd dau nofiwr y cyfeiriwyd atynt yn y wasg fel y ‘Konrad Kids’. Roedd John Konrad, a oedd yn 16 oed, a’i chwaer 14 oed, Ilsa, wedi cael eu geni yn Latfia yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roeddent wedi ymfudo gyda’u rhieni i Awstralia ar ôl y rhyfel a dysgodd eu tad iddynt sut i nofio tra oeddynt yn byw mewn gwersyll ar gyfer ymfudwyr yn Ne Cymru Newydd. Roedd yn stori troi carpiau’n gyfoeth a gipiodd y dychymyg, gyda’r plant Konrad yn ennill pedair medal aur yn y pwll. Dim ond campau dewr y nofiwr o’r Alban, Ian Black, yn ennill medal aur a dau fedal arian, a’r perfformiad a dorrodd record y byd gan dîm ras gyfnewid menywod Lloegr, gan gynnwys Anita Lonsbrough, a gipiodd y penawdau am gyfnod byr oddi ar y plant Konrad.

Eto i gyd cafodd y cyhoedd yng Nghymru eu diwrnod yn ystod y Gemau pan enillodd Howard Winstone fedal Aur yn y paffio a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Gerddi Sophia, yn y gystadleuaeth pwysau bantam. Efallai nad oedd hi’n fawr o gysur ar ôl y digwyddiadau ym Mhwll y Gymanwlad, ond ei wrthwynebydd yn y rownd derfynol ar y noson gofiadwy honno oedd Oliver ‘Frankie’ Taylor – a oedd yn dod o Awstralia.

Os yw’r erthygl hon wedi codi’ch diddordeb, mae copi o’r rhaglen swyddogol ar gyfer rowndiau terfynol y nofio a’r plymio gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 1958 ym Mhwll y Gymanwlad gan Archifau Morgannwg (cyf.: D209/4), ynghyd â’r rhaglen y cyfeiriwyd ati uchod ar gyfer y seremoni agoriadol yn Ebrill 1958 (cyf.: D45/3/5). Yn ogystal, rydym hefyd yn cadw amrywiaeth o ddeunydd a ffotograffau sy’n gysylltiedig ag adeiladu’r pwll y gellir eu gweld yn Archifau Morgannwg.

Gyda llaw, er bod y ‘Wales Empire Pool’ wedi’i ddymchwel ym 1998 i wneud lle i Stadiwm y Mileniwm, gellir gweld y plac a ddadorchuddiwyd gan J H Morgan ar 18 Ebrill 1958 fel rhan o strwythur Pwll Rhyngwladol Caerdydd ym Mae Caerdydd.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg