Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Cofrestrau Damweiniau ac Iawndal

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Cofrestrau damweiniau ac iawndal

Mae’r peryglon o weithio yn y diwydiant glo yn amlwg i’w gweld yng nghofrestrau damweiniau ac iawndal y casgliadau pwll glo cyn-freinio a chasgliadau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Image 1

Cofrestr Damweiniau ac Iawndal, Pwll Glo’r Gorllewin, 1902-1904 (D1400/1/1/1)

Mae’r llun uchod yn enghraifft o gofrestr damweiniau ac iawndal o Gofnodion Ocean Coal Company Ltd. (cyf.: D1400). Mae’r gyfrol hon o Bwll Glo’r Gorllewin rhwng 1902 a 1904 ac mae cofnod fel arfer yn cynnwys enw, swydd, oedran, cyfeiriad, achos yr anaf, a swm yr iawndal a dalwyd. Yn y cofnod ar y dudalen hon, cafodd John Clark, gwas drws, oedd yn 14 oed, anaf pan ddechreuodd un o geffylau’r pwll symud gan dynnu dram glo gwag dros ei droed. Fel arfer, roedd gweision drysau neu geidwaid drysau’n blant ifanc. Yn yr achos hwn, roedd John Clark yn 14 oed, ond yn hanner cynta’r 19eg ganrif roedd plant mor ifanc â chwech oed yn y swydd. Eu rôl oedd agor a chau ‘drysau aer’ i alluogi aer i fynd o amgylch y pwll. Roedd marwolaethau yn y swydd yn digwydd yn aml iawn gan ei bod hi’n hawdd i geidwaid drysau lithro a syrthio o dan dramiau trwm. O ystyried hyn, mae’n ymddangos fel bod John Clark wedi bod yn lwcus iawn gydag anaf i’w droed yn unig!

Gyda llawer o’r cyfrolau hyn yn egluro sut ddigwyddodd y damweiniau, yr anafiadau a gafodd pobl a’r iawndal a roddwyd iddynt, gellid defnyddio’r cyfrolau hyn ar gyfer ystod o destunau ymchwil ynghylch yr amodau gwaith ac iechyd y rheiny oedd yn gweithio yn y diwydiant glo. Cofrestrau damweiniau ac iawndal pwll glo yn sgôp dyddiad y project rhwng 1902-1951. Sylwch gall mynediad at ddeunyddiau llai na 100 mlwydd oed fod yn gyfyngedig.