Rhwng 12 Ionawr a 16 Chwefror aeth grŵp o 17 o blant o Ysgol Gynradd Radnor i Archifau Morgannwg fel rhan o’u Rhaglen ‘Prifysgol Radnor’ – rhaglen o ddigwyddiadau lle gall plant gymryd rhan mewn cyrsiau byrion o weithgareddau all-gwricwlaidd. Roedd Archifau Morgannwg wrth eu boddau yn gallu cymryd rhan! Treuliodd y plant bum wythnos yn dysgu am yr archif, yr hyn a wnawn a pham. Roedden nhw’n canolbwyntio ar thema cofnodion gwahanol bob wythnos. Dros y pum wythnos fe edrychon nhw ar gofnodion o’u hysgol, dychweliadau’r cyfrifiad, cynlluniau adeiladau, mapiau, cofnodion yr heddlu, cofnodion y seilam a ffotograffau. Yn ystod eu hwythnos olaf dewisodd y plant eu hoff ddogfen er mwyn ysgrifennu amdani a thynnu ffotograff ohoni.
Dewisodd Ali, Drew, Ollie, Emir ac Isaac nodiadau achos ar gyfer Seilam Angelton (cyf: DHGL/10/66) fel eu hoff ddogfen. ‘Dyma fy hoff ddogfen am ei bod yn ddiddorol iawn ac yn gallu dweud hanes pobl y Seilam wrthym a’r rheswm dros eu gyrru yno.’ Roedd y plant wedi rhyfeddu o weld ffotograffau’r cleifion ‘Mae lluniau a disgrifiadau o’r bobl. Roeddwn yn hoffi edrych ar yr holl bobl’. Fe dreulion nhw amser yn edrych ar y dogfennau yn ofalus gan greu disgrifiadau arbennig o lachar; ‘llyfr mawr pren wedi ei orchuddio â lledr’, ‘Mae’n gwynto fel llwch’, ‘mae’n gwynto fel tŷ fy Mamgu’. Cipiwyd eu dychymyg gan y dechneg fritho a ddefnyddiwyd i addurno y tu mewn i glawr y gyfrol, ‘mae’n edrych fel Noson Serennog Vincent Van Gough ond gan ddefnyddio gwyrdd a brown yn unig’.
Photographed by Ali, Drew, Ollie, Emir and Isaac.
Dewisodd Sheika, Katie, Cora, Jaiza a Miriam lyfrau log ysgol (cyf: E/C21/1, E/C21/3 a E/C21/8) fel eu hoff ddogfennau. Dyma fy hoff ddogfen am ei bod yn dweud wrtha i am hanes fy ysgol’, ‘Mae’n ymwneud â phlant a’n hysgol ni’, ‘Gallwch weld yr hyn sydd yr un fath yn yr ysgol a’r hyn sy’n wahanol.’ Bu’n rhaid i’r merched fynd i’r afael â pheth llawysgrifen anodd ‘mae’r llawysgrifen yn gyrliog, droellog ac anodd ei ddarllen’. Ond unwaith y daethon nhw i arfer â’r peth fe sylweddolon nhw fod y llyfrau log yn drysorfa o wybodaeth. Mae’n dweud wrthym am y salwch a’r hyn ddigwyddodd i’r plant’, ‘mae llawer o ffeithiau ynddo sy’n aros i gael eu canfod’, ‘Byddai’n wych gallu teithio nôl mewn amser i weld ein hysgol’.
Photographed by Sheikha, Katie, Cora, Jaiza and Mariam
Dewisodd Freya, Annabel a Zach Gofrestr ôl Bysedd a Ffotograffig Heddlu Morgannwg (cyf: D/CON/3/2/1). ‘Dewisais y ddogfen hon am fy mod yn hoff o edrych ar y bobl aeth i’r carchar ac rwy’n hoff o edrych ar y ffotograffau’. Roedd y plant wedi eu rhyfeddu i ddysgu am y troseddau a gyflawnwyd a’r dedfrydau carchar trwm a gafodd y drwgweithredwyr. Fe wnaethon nhw fwynhau’n arbennig gweld y troseddwyr hynny oedd â ffugenwau ‘Weithiau roedden nhw’n rhoi enw ffug!’ Treuliodd y plant amser yn meddwl am ba fath o fywydau fyddai wedi bod gan rai o’r bobl yn y gofrestr ‘roedd rhai pobl yn rhy dlawd i gael eu bwyd a’u dillad eu hunain felly byddent yn dwyn gan bobl eraill’.
Photographed by Freya, Annabel and Zach
Diolch i chi ym Mhrifysgol Radnor am eich holl waith caled wrth ymchwilio yn yr Archifau. Gobeithio y gwnaethoch fwynhau cymaint ag y gwnaethom ni.