Pont Ffordd Clarence, Caerdydd

Pan oedd Caerdydd yn un o’r porthladdoedd prysuraf ym Mhrydain, creodd Pont Clarence gyswllt newydd rhwng Grangetown a’r Dociau.  Fe’i hagorwyd ar 17 Medi 1890 gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Clarence ac Avondale.  Yn fab hynaf i’r Tywysog Edward (Brenin Edward VII yn hwyrach), yn y pen draw byddai’r Dug ei hun wedi dod yn Frenin.  Fodd bynnag, fuodd farw yn ystod pandemig y ffliw ym 1892 a chymerodd ei frawd iau ei le yn y llinell olyniaeth – a esgynnodd i’r orsedd fel y Brenin Siôr V.

rsz_d1093-2-21_to_44_038__clarence_road_bridge

Roedd gan y bont, a ddyluniwyd gan y Peiriannydd Bwrdeistref William Harpur, ddyluniad anarferol.    O ganlyniad i uchder Afon Taf (oedd yn llanwol ar yr adeg honno), nid oedd modd gosod trawstiau dan y dec felly cawsant eu gosod uwch ei ben, ond roeddent yn amgáu’r lôn gerbydau yn unig.  Rhedodd llwybrau i gerddwyr y tu allan i’r trawstiau ar y ddwy ochr.  Gyda hyd cyfan o 460 o droedfeddi, mae gan y bont dri lled; ac i alluogi traffig yr afon i basio, gellid troi’r lle canolog i 90 gradd.

Heb allu ymdopi gyda galwadau traffig modern, adnewyddwyd y bont yn y 1970au.  Er y dechreuodd traffig deithio ar hyd y bont newydd ym mis Tachwedd 1975, cafodd ei hagor yn ffurfiol ar 9 Ebrill 1976 gan AS De Caerdydd James Callaghan – dim ond pedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei benodi yn Brif Weinidog.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd: