Cwrdd â’r Staff: Llawfeddyg Tŷ, Philip Rhys Griffiths – y Llawfeddyg Tŷ cyntaf yn ysbyty a fferyllfa newydd Sir Forgannwg a Sir Fynwy

Dyma’r chweched mewn  cyfres o erthyglau am adeiladu ac agor Ysbyty a Fferyllfa Sir Forgannwg a Sir Fynwy, ym mis Medi 1883.  Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Y Llawfeddyg Tŷ

Philip Rhys Griffiths 1

Philip Rhys Griffiths (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)

Roedd Philip Rhys Griffiths yn 27 pan gafodd ei benodi’n Llawfeddyg Tŷ yn yr ysbyty ym mis Mehefin 1882. Yn fab i syrfëwr o Aberafan, roedd yn Faglor mewn Meddygaeth, wedi iddo gael ei hyfforddi yn Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain. Llawfeddyg y Tŷ oedd yr unig feddyg cyflogedig llawn amser yn yr ysbyty ac roedd yn rôl anodd a llafurus. Byddai Philip wedi bod yn goruchwylio pob claf mewnol, fel arfer o leiaf 60 ar unrhyw adeg. Bu’n ymdrin â derbyniadau, yn cynnal rowndiau ward dyddiol ac roedd ar alw bob awr. Roedd hefyd ar alw’r 4 llawfeddyg a meddyg er anrhydedd, ac roedd yn ofynnol eu hysbysu o gynnydd eu cleifion a sicrhau bod unrhyw gyfleusterau ac offer yr oedd arnynt eu hangen ar gael ar y dyddiau yr oeddent yn ymweld â’r ysbyty.

Roedd y llawfeddyg tŷ yn mynychu pob achos brys a ddeuai i’r ysbyty. Bu llawer o achosion o anafiadau yn sgil y twf diwydiannol yng Nghaerdydd. Ymysg llawer o gleifion eraill, byddai Philip wedi trin William Bryant oedd yn 6 oed ac a gafodd ei redeg drosodd gan dram a dynnwyd gan geffyl, damwain a welwyd gan David Morgan, y dilledydd, o’r Aes. Bu hefyd yn trin John Cody oedd wedi cwympo o nenbont yn y Doc Sych Masnachol, gan anafu ei gefn a’i goesau’n ddifrifol.

I ychwanegu at ei lwyth roedd hefyd yn ymweld â chleifion allanol nad oedd yn gallu mynd i’r ysbyty. Roedd hyn yn ganlyniad i’r dyddiau pan mai dim ond gwasanaeth fferyllfa oedd ar gael. Roedd cynlluniau ar y gweill i annog teuluoedd i dalu’n wythnosol i gynllun yswiriant a fyddai’n darparu gofal cartref. Fodd bynnag, mae’r cofnodion yn dangos bod y llawfeddyg tŷ yn dal i ymweld â’r cartref yn ystod y cyfnod hwn.

Yn olaf, ganddo fe hefyd roedd yr allwedd i ‘dŷ’r meirw’ ac roedd yn gyfrifol am sicrhau bod cyrff y meirw yn cael eu casglu gan eu perthnasau. O ystyried gofynion y swydd, nid yw’n syndod bod gofyn i’r llawfeddyg tŷ fyw ar y safle a pheidio â chymryd gwaith preifat. Roedd yn rhaid i Bwyllgor Rheoli’r Ysbyty gytuno ar unrhyw absenoldebau, a dim ond ar ôl dod o hyd i locwm. Am hyn i gyd roedd Philip yn derbyn cyflog o £100 y flwyddyn a … bwyd, golch, a fflatiau wedi eu dodrefnu.

Roedd bron yn anochel, felly, bod y llawfeddyg tŷ yn ganolog i fywyd yn yr ysbyty. Yn sicr, ymrwymodd Philip Rhys Griffiths ei hun i bob agwedd ar y rôl. Yn ogystal â’i ddyletswyddau dyddiol roedd yn canu i’r cleifion fel rhan o’r adloniant a ddarparwyd ar noswyl Nadolig, ac fel ysgrifennydd trefnodd y ddawns elusennol flynyddol a oedd mor bwysig wrth godi arian i’r ysbyty. Bu hefyd yn agos iawn at y Fatron arswydus Pratt, yn cefnogi ei hymgyrch i wella’r hyfforddiant a’r llety a ddarparwyd i nyrsys. Mae’n rhaid ei bod yn siomedig, felly, pan gafodd ei achos dros benodi llawfeddyg Tŷ cynorthwyol ei ateb gyda’r awgrym y gellid darparu ar gyfer hyn pe bai’n diswyddo unig fferyllydd yr ysbyty, a oedd yn rheoli cyflenwi a darparu meddyginiaethau i’r cleifion.

Roedd llawfeddyg tŷ yn rôl a wnaed fel arfer gan feddygon ifanc newydd gymhwyso ac yn aml fel eu hapwyntiad cyntaf. Yn unol â’r patrwm hwn, ymddiswyddodd Philip Rhys Griffiths ym mis Mai 1884 a gadawodd yr ysbyty ym mis Awst ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Meddyg ifanc arall gymerodd ei le, Donald Paterson, Albanwr a oedd wedi cwblhau ei hyfforddiant yng Nghaeredin y flwyddyn flaenorol.

Donald Paterson

Donald Paterson (ch) (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)

Nid dyma ddiwedd ymwneud Philip â’r ysbyty fodd bynnag.  Bu’n byw am y rhan fwyaf o’i oes yng Nghaerdydd a dychwelodd i’r ysbyty bedair mlynedd yn ddiweddarach, yn 1886, fel Swyddog Meddygol Cleifion Allanol. Yn y rôl hon, byddai wedi bod yn un o’r tri swyddog meddygol oedd yn trin y miloedd o gleifion allanol oedd yn cael eu gweld yn yr ysbyty bob blwyddyn. Wedi hynny fe’i penodwyd yn llawfeddyg, swydd a fu ganddo am flynyddoedd lawer.

Philip Rhys Griffiths 2

Philip Rhys Griffiths (ch) (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)

Roedd Philip Rhys Griffiths yn ffigwr adnabyddus yng Nghaerdydd gyda’i lythyrau yn aml yn cael eu cyhoeddi yn y papurau lleol. Teithiodd yn helaeth a darlithiodd ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys hanes meddygaeth yng Nghymru. Bu hefyd yn rhoi cyngor ar ddiet ac roedd yn eiriolwr dros yfed dŵr gyda bwyd i osgoi … effeithiau gwael gwirodydd, hyd yn oed os cânt eu cymryd yn gymedrol, ar y system dreulio. Yn siaradwr Cymraeg ac yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, mewn blynyddoedd diweddarach bu’n Llywydd Cymdeithas Feddygol Caerdydd a Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar Adroddiadau Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, y gellir dod o hyd iddynt yn Archifau Morgannwg, dan rif cyfeirnod DHC50.  Gellir dod o hyd i gofnodion y Pwyllgor Rheoli ar gyfer y cyfnod hwn yn DHC5-6.

Mae lluniau Philip Rhys Griffiths wedi eu darparu gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Maent yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Roedd yn un o sylfaenwyr Adran Ffotograffiaeth y Gymdeithas a gwasanaethodd fel ei Llywydd yn 1904-05. Gellir dod o hyd i fanylion ei gyfraniad i’r Gymdeithas yn http://www.cardiffnaturalists.org.uk/htmfiles/150th-35.htm

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

“Ffarwelio â’r hen a chroesawu’r newydd”: Y Nadolig cyntaf yn Ysbyty a Fferyllfa newydd Morgannwg a Sir Fynwy

Dyma’r pedwerydd o gyfres o erthyglau ar yr adeilad ac agoriad, ym mis Medi 1883, Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, a adwaenir bellach fel Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Bu Noswyl y Nadolig yn ddiwrnod arbennig iawn erioed yn Ysbyty Morgannwg a Sir Fynwy ond roedd 24 Rhagfyr 1883 yn anarferol iawn. Hwn oedd Nadolig cyntaf un yr ysbyty newydd yn Heol Casnewydd, Caerdydd, sef Ysbyty Brenhinol Caerdydd heddiw.

Roedd nifer y cleifion Noswyl Nadolig yn eithaf isel, sef 46.  Er y gwelwyd cynnydd mewn niferoedd ers symud o’r hen ysbyty ym mis Medi, cafodd sawl un caniatâd i fwynhau’r Ŵyl gyda’u teuluoedd. Yn ogystal, nid oedd yr ysbyty yn hollol lawn gan fod staff nyrsio a feddygol yn byw ar rhai o’r wardiau, yn aros tan gwblhau adeiladu’r prif bloc ar Heol Glossop.  Byddai pum mis eto erbyn y câi’r adeilad ei gwblhau ym mis Mai 1884, gyda’i wyneb blaen crand ar Glossop Road a thiroedd ar gynllun prif arddwr Arglwydd Bute, Andrew Pettigrew.

Ar Noswyl y Nadolig, daeth y cleifion a’r staff at ei gilydd yn Ward Tredegar i gael croeso gan Faer Caerdydd, Mr R Bird, ac aelodau pwyllgor rheoli’r ysbyty.  Canolbwynt yr addurniadau oedd coeden Nadolig mawr wedi ei addurno’n hael a’u hamgylchu ag anrhegion.  Yn ogystal, roedd y staff nyrsio wedi rhoi addurniadau ar hyd waliau’r wardiau.  Gorchuddiwyd barrau’r grisiau a chelyn a goleuwyd a chynteddau a llusernau papur.  Y cyffyrddiad olaf oedd sgrin wedi ei frodio a’r geiriau The Compliments of the Season.

Cafwyd adloniant gan Miss Anita Strina, merch siopwr o Gaerdydd, a ganodd a chanu’r delyn. Cafwyd rhagor o ganeuon gan Philip Rhys Griffiths, llawfeddyg yr ysbyty a George Coleman, ysgrifennydd yr ysbyty. Yna, dan oruchwyliaeth y Matron, Miss Pratt, gwahoddwyd y cleifion i dynnu raffl ar gyfer yr anrhegion o amgylch y goeden.

Daeth y noson i ben gyda gair o ddiolch gan y Matron i bawb a roddodd anrhegion a chyfraniadau tuag at y goeden. Yn ei dro, diolchodd Mr Griffiths yntau i Miss Pratt a’r nyrsys am eu gwaith yn cynnal noson a fu’n achlysur mor arbennig. Drannoeth, ddiwrnod y Nadolig, wedi gwasanaeth boreol gan glerigwr lleol, cafwyd cinio o gig eidion rhost a phwdin eirion, ac eithrio i’r rhai a fu’n ddigon anffodus i orfod cadw at ‘ymborth arbennig’ oherwydd eu triniaeth!

Yn Adroddiad Blynyddol yr Ysbyty ar gyfer 1883 ceir rhestr o‘r anrhegion derbyniwyd gan y cleifion y Nadolig cyntaf yna.

Gifts

Mae’n cynnwys teganau, tri crêt o orennau, cracers, ffrwythau, cnau, bisgedi, nwyddau ffansi, dillad cynnes, llyfrau lloffion, papurau darlunedig, pâr o esgidiau, parsel o lyfrau’r Nadolig, hancesi poced, llythyrau Nadolig a basged o ffrwythau.  Cyflwynwyd un crêt o orennau gan Robert Bird ac, mewn pob achos, mae’r adroddiad yn nodi enw’r person neu’r teulu a rhoddodd yr anrhegion.  Yn ogystal, enwyd y rheini a gyfrannodd at gost y goeden Nadolig.

Mae hyn yn cyfleu llawer am yr Ysbyty yn y cyfnod yma.  Roedd yr adeilad a’r gwasanaethau yn hollol ddibynnol ar gyfraniadau gwirfoddol.  Roedd hi’n bwysig, felly, i gydnabod y sawl cyfrannodd.

Income chart

Mae cyfrifon yr Ysbyty ar gyfer 1883 yn dangos cyfanswm elw o £3,479.  Daeth £1,303 o’r cyfanswm o danysgrifiadau – unigolion, teuluoedd a chwmnïau a chyfrannodd yn wirfoddol at gostau cynnal yr Ysbyty.  Yn ogystal, codwyd £1,067 ar ‘Ddydd Sadwrn yr Ysbyty’ a ‘Dydd Sul yr Ysbyty’ – dyddiau pan gafwyd casgliad arbennig at yr Ysbyty o fewn eglwysi a busnesau ar hyd a lled de Cymru.  Daeth y gweddyll o gymynroddion, buddsoddiadau a man-gyfraniadau gan gynnwys bocsys casglu yn theatrau a thafarndai.

Donations during the year

Mae’n glir fod pob un geiniog o bwys.  Ym 1883 roedd y cyfraniadau yn cynnwys £5 5s a gasglwyd yn Syrcas Tayleure’s ar Heol y Porth, 6s 6d o focs casglu yn y Market Tavern a 5s 2d a gofnodwyd fel “arian a ddarganfuwyd ar glaf”.  Yn ogystal, defnyddiwyd elw o gyngerdd gan fand y ‘73rd Highlanders’ yn sied Rheilffordd Bro Taf yn y Waun Ddyfal, i osod ‘cyfathrebiadau teleffonig’ rhwng y wardiau a’r bloc gweinyddol.

Efallai roedd Philip Rhys Griffiths wedi ymgolli ychydig yn ystod dathliadau Noswyl Nadolig. Naw diwrnod ynghynt fe geisiodd, heb lwyddiant, i achub bywyd dyn wedi ei drywanu.  Arestiwyd dau dan amheuaeth o’r drosedd ac roedd disgwyl i Griffiths ymddangos o flaen Llys Heddlu Caerdydd ar 28 Rhagfyr i gyflwyno’i thystiolaeth.  Daeth dathliadau’r Nadolig i ben, a dychweliad at y drefn arferol, yn llawer rhy gynnar i staff yr Ysbyty.

Mae Adroddiad Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy ar gyfer 1883 ar gael yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DHC50.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg