Un o’r llu o ddeunyddiau amrywiol a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg yn Archif Ymchwil Hughesovka yw cofnod cyflogaeth ar gyfer John Percy Blackburn, a’r dyddiad 26/8 Ebrill 1918 arno, ar bapur sgwennu cwmni’r New Russia Company Limited:
To All Whom This may Concern
We beg to certify that the bearer Mr John Percy Blackburn has served the Company since 1894. From that date till 1903 he acted as assistant to the engineer in charge of the maintenance of our railway and its buildings, and was then promoted to the position of responsible chief of that department. In his capacity he also did survey work and built several branch lines of railroad. Subsequently Mr Blackburn took charge of our entire railway service, a position he has filled with ability.
Mr Blackburn is leaving us on account of the troublesome state of affairs in this country and the advice of the British Consul General, and we lose in him a thoroughly efficient railway manager, reliable in every respect. He leaves us with our best wishes and we can strongly recommend him for a similar position. [HRA/D431]
Un o sgil effeithiau’r rhyfel oedd ar garlam dros Rwsia oedd y ‘sefyllfa drafferthus’ y cyfeiria’r llythyr ato, rhyfel rhwng y byddinoedd Coch a Gwyn yn dilyn Chwyldro Bolsieficaidd 1917. Fel yn achos llawer o dramorwyr yn Rwsia’r adeg yma, cynghorwyd Percy Blackburn i adael y wlad. Fodd bynnag, tra roedd y rhan fwyaf yn troi eu golygon at gyfeiriad Petrograd a’r ffin â’r Ffindir, fel y llwybr dianc cyflymaf, anelodd Percy am y gogledd i ymuno â’r Lluoedd Prydeinig yn Murmansk. Adroddir ei hanes trwy gofnodion teuluol teulu’r Blackburn sydd wedi eu cadw yn Archif Ymchwil Hughesovka (HRA/D431) a hefyd drwy gofnodion milwrol Percy gaiff eu cadw yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew (WO374/6847).
Ganed John Percy Blackburn (a adwaenid fel Percy) yn Blackburn ym mis Gorffennaf 1878 ond fe’i magwyd yn Hughesovka (Donetsk erbyn hyn) yn Rwsia. Roedd ei dad, Joseph Blackburn, yn fowldiwr ffowndri ac yn un o blith llawer o ddynion, a ddenwyd gan y cyflog ac, heb amheuaeth, yr addewid o antur, i ymuno â chwmni New Russia Company John Hughes. Roedd Hughes, meistr haearn a pheiriannydd o Dde Cymru, wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Rwsia ym 1869 i adeiladu ffowndri haearn yn rhanbarth Donbass yn ne Rwsia (sef ardal Donetsk yn Wcráin erbyn hyn). Dychwelodd Joseph Blackburn a’r rhan fwyaf o’i deulu i Brydain wedi’r chwyldro yn Rwsia ym 1905 gan sefydlu cartref yn Chorlton on Medlock ger Manceinion. Ond roedd Percy fodd bynnag wedi priodi Mary Steel y flwyddyn flaenorol, ar 2 Ebrill 1904, yn yr Eglwys Saesneg yn Hughesovka. Fel Percy, roedd Mary yn dod o deulu oedd wedi ymsefydlu a gweithio yn Hughesovka am ddegawdau. Fel y rhelyw o’r gweithlu tramor yn Hughesovka, roedd Percy yn ŵr sgilgar ac yn gyflogai gwerthfawr. At ei gilydd, roedd y New Russia Company yn dwyn ei ddynion sgilgar i mewn o’r tu allan, yn aml o Dde Cymru. Roedd Percy fodd bynnag, yn rhan o’r genhedlaeth gyntaf i gael ei fagu yn Hughesovka. Treuliodd ei brentisiaeth fel syrfëwr tir yn Rwsia ac erbyn iddo gyrraedd 22 oed roedd yn syrfëwr yn gweithio ar ddatblygiad a chynnal y system reilffordd a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gyflenwi’r New Russia Company â deunyddiau crai ac yn allforio’r haearn a dur a wnaed yn ei ffwrneisi. Mae’n rhaid ei bod wedi bod yn benderfyniad anodd i aros ymlaen ym 1905, ond roedd Mary yn dod o deulu mawr ac roedd y rhan fwyaf o deulu Steel wedi dewis aros. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Mary wrth ei theulu fod Percy yn argyhoeddedig fod Rwsia yn wlad llawn addewid ac y byddai’r New Russia Company yn parhau i chwarae ei ran yn adeiladu economi newydd fodern.
Ganed Bertie, yr hynaf o bum mab a dwy ferch Percy a Mary, yn Hughesovka ym 1905. Flynyddoedd yn ddiweddarach disgrifiwyd y bywyd llewyrchus y bu’r teulu yn ei fwynhau gan William, un o feibion Percy:
The house we lived in was fairly large with extensive grounds. It had separate quarters for coachman, yardman and female help, stables for three horses and loft above to store the horse carriages or sledges whatever the season was. A huge garden with endless rose trees for my mother because she used to make a special jam from the rose leaves. There were two kitchens one attached to the house for winter use and the other across the yard for summer.
Big double gates gave the only entry from the road which, turning left, took us to the works and/or the town. …. And facing our gates just endless open space. I am near certain that the football ground was not far from this area….
I and my brothers went to the English School and I remember going with my father to see the foundations for a new school the year we left.
Roedd hyn oll i newid ym 1917, gyda’r rhyfel yn mynd rhagddo’n wael a’r economi ar fin dymchwel, ildiodd y Tsar yr awenau a phasiodd y rheiny i’r Llywodraeth Ryddfrydol o dan arweiniad Alexander Kerensky. Os oedd y rheiny yn Hughesovka o’r farn yr efallai y byddai hyn yn arwain at rywfaint sefydlogrwydd, parodd penderfyniad Kerensky i barhau â’r rhyfel at hyd yn oed fwy o gynnwrf. Erbyn haf 1917, roedd chwyldro yn yr arfaeth, gyda rheolaeth y Llywodraeth ar y brifddinas yn cael ei herio gan Soviet Petrograd a dychweliad Lenin i Rwsia ym mis Ebrill 1917. Gyda chyfraith a threfn yn wynebu’r fath ddistryw penderfynodd llawer o’r teuluoedd Prydeinig yn Hughesovka i adael Rwsia.
Roedd dau fab hynaf Percy yn yr ysgol yn Lloegr, ond mae’n rhaid ei bod wedi bod yn dasg a hanner i Mary, gyda chymorth ei mam Tabitha, i gynllunio a chwblhau’r daith yn ôl i Brydain. Gadawsant Hughesovka ar 19 Medi gyda’r tri mab, Harold oedd yn 8 oed, William oedd yn 7 oed a Joey oedd yn 3 mis oed. Byddai’r daith i Loegr, drwy Riga, fel rheol wedi cymryd tuag wythnos ond, oherwydd y rhyfel, yr unig lwybr oedd ar agor odd drwy St Petersburg, y Ffindir, Sweden a Norwy. Fe gyrhaeddon nhw Aberdeen maes o law ar 2 Tachwedd. Bu’n siwrne o 6 wythnos ac yn ystod cymal cyntaf y daith i Petrograd fe fyddent wedi gorfod gwau eu ffordd drwy rwydwaith drafnidiaeth a ddifrodwyd gan ryfela, yn brin o ran bwyd ac arian ac mewn peryg parhaus o gael eu harestio neu o ddioddef lladrad.
Mae hanes eu taith, fel y’i hadroddwyd gan Mary Steel a’i mab William i wyres Mary, wedi ei gadw yng nghofnodion Archif Ymchwil Hughesovka (HRA/D431). Fel y nododd William, roedd yn edifar gan ei fam-gu, Tabitha Steel, iddynt orfod gadael Hughesovka ar gymaint o frys:
I always remember her complaining ‘til she died that she should have brought a bag of gold sovereigns that in the haste of departure she left behind. My mother, in later years, told me that she had to use a great many of them to oil the wheels of our departure. I still possess one sovereign and a silver rouble. Father lost almost everything; his faith in the future of Russia caused him to invest heavily but I suppose the revolution caught his too quickly.
Ymsefydlodd y teulu ar Corn Street, Chorlton-on-Medlock, y drws nesa i frawd yng nghyfraith Mary. Roedd Percy, ar y llaw arall, wedi dewis aros ar ôl, fel y cofiodd William yn ddiweddarach:
…in the vain hope of saving something of his future and possessions and in the end had to flee to save his own life. It was two years before we saw him again.
Mae wyres Percy yn parhau â’r stori sy’n seiliedig ar ei ddyddiaduron: Er bod eu teuluoedd yn ddiogel ym Mhrydain, roedd hi’n dod yn amlwg fod bywyd yn Hughesovka yn gynyddol anos i Percy a’r gweithwyr tramor a oedd yn weddill ymhlith cyflogeion y New Russia Company. Yn dilyn y chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, roedd yr ysgrifen ar y mur i’r New Russia Company wrth i’r wladwriaeth gymryd awenau’r diwydiant. Tra bod angen o hyd am y sgiliau a feddai’r gweithwyr o Brydain, roedd tuedd i ddrwgdybio tramorwyr hefyd ar gynnydd a hybwyd gan y newyddion am ymyrraeth filwrol Prydain yn y gwaith o geisio dymchwel y llywodraeth Bolsieficaidd.
After handing to the authorities his rifles and other weapons kept for his own safety and hunting he finally, on 8 March 1918, handed in to the police his Smith and Wesson revolver, No 87033, and commenced to prepare for his move from Hughesovka. He had money in various companies, but the Bolshevik Government were now in supreme power in Russia and everything fully controlled by them and careful watch being kept on foreigners, their business and assets.
The result was that when grandad attempted to realise on his assets they just closed in and he was able to draw 10,000 roubles at the time the currency was 10 roubles to the pound.
40,000 roubles was held back for investigation, as they put it, also property, land and personal holdings. Notes in his diary show covering expenses for the journey. He had decided to make his way to Murmansk.
He left Hughesovka 10 April 1918 and made his way to Moscow to see the British Consulate General to make his claim on assets left behind and obtain passport coverage and he stayed there for six days whilst all was clarified.
Mae’r rhestr isod yn dangos y paratoadau a wnaeth Percy ym mis Ebrill 1918 ar gyfer ei daith i Moscow. Mae’n debyg fod y swm mawr a glustnodwyd ar gyfer ‘cildwrn a mân ddyledion’ yn cynnwys cyfran sylweddol i brynu ‘ewyllys da’ gan swyddogion lleol.
Passport stamps – 4 roubles
Passport photo – 22 roubles
1 pair of braces – 18 roubles
1 portmanter (sic) – 18 roubles
1 Handbag – 20 roubles
Photo with friend – 20 roubles
Tobacco for road (quarter pound) – 9 roubles
Shirts and collars – 45 roubles
2 pairs Gloves (size 6) – 9 roubles
Bread – 20 roubles
Eggs – 10 roubles
Tips and small debts paid – 103 roubles
Mae stori Percy yn un anarferol. Er i fwyafrif llethol y gweithlu tramor yn Hughesovka ddewis dychwelyd adref, roedd hi’n amlwg fod bryd Percy â’i fryd ar ymuno â Lluoedd Arfog Prydain gyda Byddin Ymgyrchol Gogledd Rwsia oedd â’u pencadlys ym mhorthladd gogleddol Murmansk. Efallai y cafodd hyn ei brocio gan benderfyniad i ‘wneud ei ran’ o ystyried bod ei frawd ym Manceinion wedi ymuno â’r Fyddin. Mae’n fwy tebygol fodd bynnag, ei fod yn dal yn credu yn nyfodol Rwsia a’i fod am aros yno gyhyd ag y bo modd i weld sut fyddai pethau’n datblygu.
Sefydlwyd Byddin Ymgyrchol Gogledd Rwsia gan y Cynghreiriaid yn y lle cyntaf er mwyn amddiffyn y porthladdoedd Rwsiaidd a ddefnyddid i gyflenwi byddin Rwsia a oedd yn ymladd ar y Ffrynt Ddwyreiniol. Yn dilyn Cytundeb Brest Litovsk, pan dynnodd y Bolsieficiaid Rwsia yn ôl o’r rhyfel, fe gryfhawyd y Fyddin Ymgyrchol gan luoedd o Brydain a’r Unol Daleithiau, yn bennaf i warchod yr arfau a’r cyflenwadau yn Archangel a Murmansk. Fodd bynnag, er bod ei bwrpas yn ymddangos yn amddiffynnol, defnyddiwyd y Llu yn gynyddol i gefnogi’r Byddinoedd Gwyn yng Ngogledd Rwsia yn eu hymgyrchoedd yn erbyn y Fyddin Goch.
Gellir gwau hanes Percy at ei gilydd nid yn unig o’r deunydd yn Archif Ymchwil Hughesovka ond hefyd ei gofnod milwrol sydd yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew. Nid yw’n amlwg pa fath o dderbyniad a gafodd Percy gan y Lluoedd Prydeinig ym Murmansk pan gyrhaeddodd ym mis Mai 1918, ac yntau erbyn hynny yn 40 oed a heb unrhyw brofiad milwrol. Mae ei deulu yn credu, yn y lle cyntaf, iddo gael ei gyflogi’n gyfieithydd ac mae hyn yn cyd-fynd â’i reng fel Rhingyll Dros Dro yng Nghatrawd Middlesex. Erbyn mis Gorffennaf 1918, fodd bynnag, mae’n amlwg fod ei sgiliau yn rheoli rhwydweithiau rheilffyrdd wedi cael eu cydnabod. Mewn llythyr i’r Swyddfa Ryfel, 17 Gorffennaf 1918, mae’r Uwch Gadfridog Maynard, Arweinydd Lluoedd Tiriogaethol y Cynghreiriaid ym Murmansk yn gofyn am ddyrchafu Percy yn swyddog:
I have the honour to inform you that Mr J Blackburn who is an experienced railway engineer having many years experience in Russia is staying out here to supervise the Russian Railway Service.
General Poole has recommended Mr Blackburn to have a Temporary Commission as a Second Lieutenant and I beg to request that covering authority may be given for this appointment with effect from 1 July 1918, which is essential for the fulfilment of his duty. [WO374/6847]
Fodd bynnag, mae’n amlwg fod pryder nad oedd Percy wedi cael unrhyw hyfforddiant milwrol ac fe gymerodd 2 fis i’r Swyddfa Ryfel gytuno, yn anfoddog, i’r trefniant hwn i roi dyrchafiad dros dro i i swydd is-lifftenant gydag Adran Gweithredu Rheilffyrdd, Lluoedd y Cynghreiriaid Murmansk, Rwsia:
It is no doubt irregular but the circumstances are so peculiar that you may be inclined to agree that covering authority might be granted in this case [WO374/6847]
O ystyried bod y rhyfel hwn a oedd yn mynd rhagddo’n gyflym yn dibynnu ar y gallu i gludo lluoedd a chyflenwadau dros bellteroedd mawr, byddai gwybodaeth a sgiliau Percy wedi bod yn amhrisiadwy. Ym mhen misoedd daeth hynny’n yn amlwg i eraill a derbyniodd y Swyddfa Ryfel gais gan y Russo-Asiatic Company, ymmis Rhagfyr 1918, i ryddhau Percy o’r Fyddin i weithio i’r cwmni ar rwydwaith reilffordd Siberia. Yn anffodus yr oedd hi’n amlwg erbyn hynny fod y gwaith a’r amodau wedi dweud ar iechyd Percy. Erbyn mis Hydref 1918 roedd yn ei ôl mewn ysbyty ym Mhrydain, yn ail ysbyty milwrol Manceinion i ddechrau ac wedyn yn Ysbyty John Leigh yn Altringham yn gwella o’r sgyrfi a ‘neurasthenia’ – cyflwr sydd fel rheol yn gysylltiedig â blinder cronig yn dilyn ymlâdd meddyliol a chorfforol. Er bod y teulu Blackburn yn credu iddo ddychwelyd am gyfnod byr i Rwsia, mae ei gofnod milwrol y cynnwys manylion am gyfres o fyrddau meddygol a gynhaliwyd ym Manceinion yn ystod hanner cyntaf 1919 lle cafodd ei asesu fel un nad oedd yn ffit i wasanaethu. Gyda Byddin Ymgyrchol Gogledd Rwsia eisoes yn cael ei ddirwyn i ben, gollyngwyd Percy o’r Fyddin yn ail hanner 1919.
Ar ôl gadael y Fyddin ailymunodd Percy â’i deulu yn Chorlton-on-Medlock. Er gwaetha’i eirdaon trawiadol gan y New Russia Company, fel llawer a ddychwelodd o Hughesovka, roedd dod o hyd i waith yn union wedi’r rhyfel yn anodd wrth i’r economi grebachu. Ar ben hynny, byddai wedi bod yn gynyddol amlwg mae bychan iawn oedd y siawns i gael dychwelyd i Rwsia. Mae ei wyres yn cofio:
Grandad Blackburn was not able to get work in England. Eventually, and sadly, he did work as a checker on the docks. It must have been awfully hard for him to do this type of work after the life he enjoyed in Russia and the work he did over there.
Er i Mary Blackburn fyw tan 1961, bu Percy farw ar 16 Tachwedd 1926 yn 48 oed. Efallai bod geirda gan ei Bennaeth Milwrol yng Ngogledd Rwsia yn cynnig tystiolaeth addas o’r hyn a gyflawnodd:
Mr J P Blackburn joined the North Russia expeditionary Force in Murmansk in May 1918 actuated by a desire to help his country. He was employed in the railways and did not most excellent work for 6 months until invalided home. I saw much of his work and was impressed not only with his technical knowledge but also with the zeal and energy with which he carried out his duties. He is full of initiative and works with considerable tact. He has gained the esteem and respect of the members of the NREF.
Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg