Cofeb Scott ym Mharc y Rhath

Efallai mai’r tirnod mwyaf adnabyddus ym Mharc y Rhath yw tŵr y cloc ger y promenâd ym mhen deheuol y llyn. Mae’r tŵr yn gofeb i ymdrechion arwrol Capten Robert Falcon Scott a fu farw, gyda thri o’i dîm, yn yr Antarctig ym 1912 ar eu taith yn ôl o Begwn y De.

Mae’r cysylltiadau rhwng taith Scott a Chymru yn rhai cryf. Roedd tîm Scott yn cynnwys dau Gymro.  Roedd yr Is-swyddog Edgar Evans yn dod o Rosili ac yn un o’r tîm pedwar dyn a aeth gyda Scott i Begwn y De.  Roedd Edwards Evans, dirprwy’r alldaith a chapten y Terra Nova, sef llong Scott, er iddo gael ei eni yn Llundain, o dras Gymreig ac yn aml yn disgrifio’i hun fel Cymro.

Roedd y daith bron yn gwbl ddibynnol ar roddion ac, yn ddiau, roedd cael Edgar ac Edward Evans o fewn y tîm o gymorth enfawr wrth godi arian yng Nghymru. Cymaint felly fel bod Scott yn frwd i gydnabod y cyfraniad gwych a wnaed gan fusnesau a chymunedau Cymru i gwrdd â chostau’r daith.

Mae’n debyg bod y cytundeb â Chymru ac, yn benodol, Caerdydd wedi’i selio, fodd bynnag, gyda’r penderfyniad y byddai’r Terra Nova, ar ôl gadael Llundain, yn galw yng Nghaerdydd i dderbyn tanwydd ychwanegol a chynnal rownd olaf o ddigwyddiadau codi arian. O Ddoc Bute yng Nghaerdydd, felly, cychwynnodd y Terra Nova o’r diwedd, ar 15 Mehefin 1910, i hwylio tua’r Antarctig. Roedd ond yn naturiol, felly, fod pobl Caerdydd yn teimlo cysylltiad agos â Scott a’r Terra Nova.

Yr hyn nad yw mor adnabyddus yw nad tŵr y cloc oedd y gofeb gyntaf i Gapten Scott ym Mharc y Rhath.   Ar ôl methiant taith Scott, dychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym 1913 a chafodd ei hagor i ymwelwyr fel rhan o ymgyrch genedlaethol i godi arian i ddibynyddion y rhai a fu farw, ac i godi cyfres o gofebion.

Yn ystod ei harhosiad, ac i nodi’r cysylltiad arbennig â Chymru, tynnwyd y flaenddelw o’r llong a’i gyflwyno i Ddinas Caerdydd gan Frederick Charles Bowring, un o berchnogion y llong. Fe’i dadorchuddiwyd ym Mharc y Rhath ddydd Llun 8 Rhagfyr 1913 a’i ddisgrifio yn y wasg leol fel a ganlyn:

… the most inspiring of all the monuments that are being erected in many parts of the world in memory of Captain Scott.

Yn y seremoni hon awgrymwyd yn gyntaf y dylid adeiladu tŵr cloc yn y parc fel cofeb arall i Gapten Scott.  Cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer y tŵr ym mis Mawrth 1914 a dechreuodd y gwaith adeiladu yn ystod haf y flwyddyn honno.  Cwblhawyd y tŵr, a adeiladwyd i fod yn debyg i oleudy, erbyn 1915, fel y nodwyd gan y plac y gellir ei weld ar y tŵr heddiw. Credir yn aml fod asgell y gwynt ar ben y goleudy yn fodel o’r Terra Nova. Mewn gwirionedd, y Discovery ydyw, llong Scott o daith Antarctig gynharach.

Arhosodd blaenddelw’r Terra Nova, a gerfiwyd o dderw, yn y parc am bron i ugain mlynedd cyn cael ei symud i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1932. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe’i disodlwyd gan ardd goffa newydd ym mhen gorllewinol y promenâd.  Wedi’i greu yn 2010 i nodi canmlwyddiant taith Scott, enillodd y dyluniad wobr yn sioe flodau Chelsea cyn cael cartref parhaol ym Mharc y Rhath yn 2012. Felly, y tro nesaf y byddwch yn ymweld â Pharc y Rhath, yn ogystal ag edmygu Tŵr y Cloc a adnewyddwyd yn ddiweddar, beth am edrych ar yr Ardd Goffa hefyd?

D332-18-23-11

Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethom hefyd addo sôn ychydig mwy wrthych am y sawl dewr a blymiodd i’r dŵr o ben tŵr y cloc. Y fenyw dan sylw oedd Mrs D Allen ac ym mis Awst 1922, dringodd yr ysgolion sy’n cysylltu’r tair lefel o fewn tŵr y cloc cyn ymddangos ar y balconi. Yna syfrdanodd wylwyr trwy blymio o’r balconi i’r llyn islaw ac, fel y mae ffotograffau yn y wasg leol yn cadarnhau, llwyddodd a bu fyw i adrodd y stori.

Clwb Nofio Parc y Rhath, yn y cyfnod hwn, oedd un o’r mwyaf yn Ne Cymru.  Roedd yn cynnwys nifer o bencampwyr Cymreig a Chenedlaethol a gwahoddwyd y clwb yn aml i roi arddangosfeydd nofio mewn galas ar draws De Cymru.  Adeg y plymio, roedd Mrs Allen yn Ysgrifennydd Adran y Merched.  Roedd hi hefyd yn arbenigwr plymio ac wedi ennill sawl cystadleuaeth plymio.  Mae’n siŵr yr oedd y llyn yn ddyfnach yn y dyddiau hynny a, gyda’i phrofiad, nid oedd y penderfyniad i blymio i’r dŵr mor anniogel ag y mae’n swnio, o bell ffordd. Serch hynny, yr oedd yn dipyn o gamp.  Os gall unrhyw un ein helpu i gael gwybod mwy am Mrs Allen a’i phlymiad o Dŵr Coffa Scott, rhowch wybod i ni a byddwn yn cynnwys y wybodaeth mewn erthygl arall.

This is the fifth article in a series looking at the history of the park through the collection of photographs held at the Glamorgan Archives.

Dyma’r pumed erthygl mewn cyfres sy’n edrych ar hanes y Parc trwy’r casgliad o ffotograffau a gadwyd yn Archifau Morgannwg.  Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r lluniau uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley, cyf.: D332/18/23/12-13.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg