29 Medi 1914
Llwyddais i gropian i lawr am 11 o’r gloch. Mae’n debyg nad yw’r sefyllfa wedi newid, er i’r Almaenwyr wneud ambell ymosodiad petrus ddoe a ataliwyd yn rhwydd.
Dylai hyn fod yn beth da i ni, gan osgoi colledion trwm.
Daw sôn fod pob un o filwyr y ‘Cameron Highlanders’ wedi’u lladd gan ffrwydryn adeg brecwast.
Mae lluoedd Ffrainc wedi mynd benben â 4 corfflu Almaenaidd o Malines. Mae’n debyg bod eu milwyr gorau wedi’u hanfon i’r ffrynt Dwyreiniol. Eilbeth yw ein rhyfel ni am y tro. Daw sôn fod yr Almaenwyr yn palu ffosydd cadarn. Nid oes sôn y byddwn yn symud am y tro, felly gydag ychydig o lwc byddaf wedi gwella erbyn y daw’n bryd i’r Gatrawd symud.
30 Medi 1914
Daeth yr 11eg Hwsariaid yma, gan fod oddeutu deugain o’r 9fed Gwaywyr wedi’u lladd neu eu hanafu yn sgîl bombardiaid trwm yn Longuecoal.
Fe’u cadwyd yma drwy’r dydd gan De Lisle, gan wrthod rhoi caniatâd iddynt symud. Mae’r lle hwn dan ei sang braidd. Darllenais y papurau newydd i weld a fydd diwedd ar y rhyfel, ac nid yw hynny’n debygol yn ôl y sôn, ond mae’n debyg bod y Gyfnewidfa Stoc yn cynnig ods o 4-1 ar heddwch erbyn 1 Tachwedd. Mae arnaf ofn mai un o’r chwedlau gweigion arferol yw hyn.
Fawr ddim newid yma, mae’n bosibl bod byddin Ffrainc wedi ymosod yn llwyddiannus ar ystlys yr Ail gorfflu Almaenaidd. Mae’r papur yn rhestru ein milwyr a gollwyd ym mrwydr Aisne.
1 Hydref 1914
Mae fy nghoes yn well, ni allaf fynd yn bell eto, felly darllenais y papur a lluniais lythyrau
3 Hydref 1914
Rydym yn disgwyl symud, ond ni ddaw unrhyw orchymyn o’r fath. Treuliais y diwrnod yn darllen, yn trafod posibiliadau ac yn clywed sïon, megis bod y Cadfridog Von Kluck wedi’i amgylchynu gyda 40,000 o ddynion.
4 Hydref 1914
Symudom yn y bore, gyda White a minnau yn yr ambiwlans. Aethpwyd â ni i’r lle anghywir, yna i lety brwnt a adawyd gan y gynwyr ger eglwys.
Daeth y dyn cyflenwadau i mewn, a chan nad wyf yn gallu cerdded, penderfynwyd yn sydyn i’m hanfon i Baris. Taith car modur i Fere ger y pencadlys, roedd rocedi’n goleuo’r nos.
Rhoddodd y meddygon fi ar y trên i’r pencadlys.
Clywais sôn am Detanws.
5 Hydref 1914
Aeth Kavanagh a minnau’n syth i’r Ritz, gan gael mynediad am ddim, gan ei fod newydd ail-agor.
Roedd gennym ystafelloedd moethus, baddon enfawr a’r holl foethbethau modern.
Cefais driniaeth gan dylinwr y gwesty, a’r barbwr.
Roeddwn yn teimlo fel dyn newydd ar ôl hynny.
Am dro o amgylch Paris, i Chatham Champs Elysée a the yn Café de la Paix, gan gwrdd â swyddogion Americanaidd a Ffrengig, ac wedi hynny ymlaen i Maxims, ymunodd Harvey o’r 9fed Gwaywyr â ni, ac yna aethom i Moulin Rouge.