Dydd Gŵyl Dewi 1915, Palas Buckingham

Ym mis Mawrth 1915, anfonodd y Gwarchodluwr David ‘Dai’ Luker lythyr at Edward ac Amy Lewis, sef pâr priod a oedd yn gweithio’n ddiflino yn Anheddiad Prifysgol Caerdydd bryd hynny. Wedi’i ysgrifennu ar bapur y YMCA, dechreuodd Luker ei lythyr yntau drwy ddiolch am y llythyr a gafodd ganddynt y bore hwnnw. Drwy ysgrifennu mewn dull llawen a bywiog, dywedodd wrth y Lewisiaid ei fod newydd symud i gatrawd arall. Soniodd am yr hyn a wnaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi a bywyd yn y Fyddin yn gyffredinol. Gorffennodd ei lythyr mewn ffordd fwy ffurfiol, ‘yr eiddoch yn gywir Dai Luker’, ac ychwanegodd ôl-nodyn: ‘Cofiwch fi at holl aelodau’r Clwb’. Pam wnaeth Luker ysgrifennu at y Lewisiaid? Mae’r ôl-nodyn yn cynnig cliwiau allweddol. Roedd Luker wedi mynychu Clwb Bechgyn Anheddiad Prifysgol Caerdydd.1

Sefydlwyd y mudiad aneddiadau prifysgolion yn y 1880au i greu cysylltiadau newydd rhwng graddedigion prifysgol cyfoethog â thlodion ardaloedd trefol. Yng Nghaerdydd, roedd awydd i Brifysgol Cymru droi ei sylw at anghenion East Moors, sef ardal a drawsnewidiwyd yn ddiweddar gan drefoli a diwydianeiddio cyflym lle roedd nifer fawr o bobl dlawd yn byw. Daeth llwyddiant cymharol Anheddiad Prifysgol Caerdydd yn sgîl parodrwydd pobl dosbarth canol gyffredin o Gaerdydd i roi o’u hamser i weithio ar ran mentrau cymdeithasol ac addysgol amrywiol yr anheddiad, yn ogystal â chyfraniadau tebyg gan raddedigion Prifysgol Cymru.2

Chwaraeodd Edward ac Amy Lewis ill dau rôl allweddol yn Anheddiad Prifysgol Caerdydd. Edward oedd tiwtor rhifyddeg yr anheddiad ac roedd yn gweithio yn y gwersyll haf hefyd. Amy oedd arweinydd y Clwb Merched a’r Clwb Bechgyn. Roedd Edward yn gyfreithiwr o Gaerdydd yn ei dridegau, a symudodd i Sblot pan briododd ag Amy (Hughes gynt) ym 1913. Mae’n debygol eu bod wedi cyfarfod yn yr anheddiad ac wedi syrthio mewn cariad yno. Dengys yr amlen a anfonwyd gan Luker fod y Lewisiaid, fel pâr priod, wedi dewis byw gyda’u merch fach Amelia yn 2 University Place, sef tafliad carreg o Neuadd yr Anheddiad, ger y ffordd bengaead honno, yn ogystal â byw yn Sblot.

Roedd Luker, sef gŵr dosbarth gweithiol o Sblot, wedi ymrestru yng Ngwarchodlu’r Brenin yn wreiddiol, ond trosglwyddodd i’r Gwarchodlu Cymreig wedi hynny pan y’i sefydlwyd ddiwedd Chwefror 1915. Treuliodd weddill y rhyfel yn y gatrawd honno, gan ennill medal filwrol yn y pendraw. Ar adeg ysgrifennu’r llythyr at y Lewisiaid, nid oedd Luker wedi bod yn ymladd yn y rheng flaen yn Ffrainc eto. Gellid tybio yn sgîl ei ohebiaeth gynharach ei fod yn mwynhau bywyd milwrol, gan frolio wrth y Lewisiaid ei fod wedi ennill ei fathodyn nofio, ei fod yn cadw ei hun yn lân, a’i fod ar fin ceisio ennill ei dystysgrif reiffl.3 Yn ei lythyr at y Lewisiad ym mis Mawrth 1915 dywedodd fod y fyddin yn gofalu amdanynt, bod digon o fwyd ar gael ond nid oedd yn gwybod am ba hyd y byddai’r sefyllfa honno’n para. Dywedodd wrth y Lewisiaid hefyd ei fod newydd ddychwelyd o ymweliad â Hastings gyda dau o gyn-aelodau eraill Clwb Bechgyn Anheddiad Prifysgol Caerdydd.

DCE-1-20 p1

DCE-1-20 p2

Fodd bynnag, daw cyffro gwirioneddol ei lythyr ym mis Mawrth 1915 yn ei ddisgrifiad uniongyrchol o Ddydd Gŵyl Dewi. Wedi’i ysgrifennu bron canrif yn union yn ôl, rhoddodd ddisgrifiad i’r Lewisiaid o’i brofiad o orymdeithio gyda’i gatrawd newydd. Ar ôl y cyfarchion arferol, dywedodd Luker mai ef oedd un o aelodau cyntaf Gwarchodlu’r Brenin i fynd i Balas Buckingham ar Ddydd Gŵyl Dewi ar ran y gatrawd newydd. Drwy gyfeirio at y 1af o Fawrth fel Dydd Gŵyl Dewi, roedd Luker yn cydnabod ei gydberthynas â’i ddarllenwyr. Ymddengys y bu Anheddiad Prifysgol Caerdydd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl a oedd yn ymgorffori Cymru o fewn gweledigaeth pedair gwlad Prydain yn hytrach na Gŵyl a oedd dim ond yn ymwneud â Chymru.4 Roedd canu caneuon Cymraeg a Saesneg yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, yn ogystal â Morys-Ddawnsio. Rhoddodd Ronald Burrows, warden yr Anheddiad Albanaidd ac Athro Groeg Coleg Caerdydd, araith a oedd yn ceisio cynnwys Cymry, Saeson, Albanwyr a Gwyddelod gyda’i gilydd fel cydwladwyr.5

Mae’n amlwg bod dathlu Dydd Gŵyl Dewi wedi helpu Luker i deimlo’n gartrefol yn Llundain. Nododd:

Roedd miloedd o bobl yno, gyda’r rhan fwyaf ohonynt y gwisgo cennin ac yn tynnu ffotograffau ohonom o hyd. Roedd Lloyd George yno, ac roedd y Brenin yn gwylio drwy’r ffenest wrth i ni fynd ar gefn ein ceffylau. Anfonwyd cinio a the blasus i ni…roedd pawb a oedd yn gwarchod ar Ddydd Gŵyl Dewi yn perthyn i Gwmni Tywysog Cymru.

Nid oedd yn beth anarferol i Luker ysgrifennu heb ddefnyddio atalnodau llawn, ond yn ei lawysgrifen daclus, esboniodd pwysigrwydd ei brofiad ar Ddydd Gŵyl Dewi o ran newid byd o fywyd yn Nhŷ’r Anheddiad i fywyd yn y fyddin. Roedd yntau’n falch y bu’r Brenin yn gwylio’r orymdaith ac y bu Lloyd George yn bresennol i ddathlu sefydlu’r Gwarchodlu Cymreig. Mae’n amlwg bod y dorf yn rhannu’r balchder hwnnw, gan eu bod yn gwisgo cenhinen, sef symbol sy’n cael ei gysylltu â Dewi Sant. Fel arall, mae’n bosibl roedd y dorf yn dangos eu cefnogaeth i Gwmni newydd Tywysog Cymru. Yn anffodus, nid yw llythyr Luker yn sôn am p’un ai oedd ei ginio neu ei de yn cynnwys bwyta cenhinen amrwd. Fodd bynnag, wrth sôn am gennin yn ei lythyr, dangosodd sut yr oedd Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu y tu hwnt i Gymru ym 1915, hyd yn oed y tu ôl i reiliau a chlwydi euraidd Palas Buckingham.6

Mae Lucinda Matthews-Jones yn ddarlithydd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Mae hi wrthi’n ysgrifennu llyfr am y mudiad aneddiadau prifysgolion ym Mhrydain ar hyn o bryd. Yn ystod yr haf darganfu’r llythyrau a anfonwyd gan grŵp o filwyr o Sblot at Edward ac Amy Lewis, ac mae’r cofnod hwn yn seiliedig ar ei hymchwil.

*************************************************************************

1. Am ragarweiniad cryno i’r llythyrau hyn, gweler Philip Gale, , ‘The University Settlement, Cardiff’, Annual Report of the Glamorgan Archivist (1987), t.17-19

2. Am wybodaeth am hanes Anheddiad Prifysgol Caerdydd, gweler B. M. Bull, The University Settlement in Cardiff, (Caerdydd; Coleg Celf Caerdydd, 1965). Mae blynyddoedd cynnar yr anheddiad hefyd yn cael eu trafod yng nghyfrol George Glasgow Ronald Burrows: A Memoir (Llundain; Nisbet & Co. Ltd, 1924)

3. David Luker at Mr a Mrs Lewis, 26 Ionawr 2915, AM, DCE1/18

4. Am drafodaeth ar ddathliadau Dydd Gwyl Dewi yn Oes Victoria, gweler Mike Benbough-Jackson, ‘Victorians Meet St. David’, Journal of Victorian Culture Online, http://blogs.tandf.co.uk/jvc/2013/02/22/st-david-meets-the-victorians/ [cyrchwyd 23/02/2015]

5. Gweler, er enghraifft, ‘Speech by Professor Burrows’, (Mai; 1906), Cap and Gown, t.111-112

6. Am drafodaeth ehangach o arwyddocad cennin ar Ddydd Gwyl Dewi gweler Mike Benbough-Jackson, ‘Celebrating a Saint on His Home Ground: St. David’s Day in St. David’s diocese during the nineteenth century’, yng nghyfrol Bill Gibson a John Morgan-Guy (golygyddion), Religion and Society in the Diocese of St. David’s 1485-2011 (Ashgate; 2015), t. 157-178