Datblygwyd y New Baltic House, bloc swyddfa chwe llawr sydd hefyd wedi cael ei adnabod fel ‘Plas Glyndŵr’, ar ddiwedd y 1980au gan y grŵp buddsoddi mewn eiddo, Helical Bar.
Mae’n sefyll ar safle a feddiannwyd cyn hynny gan fusnes garej E R Forse – a hyd yn oed yn cyn hynny, gan Gamlas Morgannwg. Tenant cyntaf yr adeilad oedd Banc Cymru, sef cartref ei brif swyddfa yma o 1989 tan 2001. Wedi hynny, daeth yn bencadlys Awdurdod Datblygu Cymru. Yn 2006, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Awdurdod i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a arhosodd ym Mhlas Glyndŵr tan 2011.
Yn 2014, adroddwyd bod y buddiant rhydd-ddaliadol yn New Baltic House wedi’i gaffael gan gwmni Ardstone Capital. Adnewyddwyd yr adeilad ganddynt hwy, a’i ailenwi yn ‘2 Ffordd y Brenin’.
Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn cynnwys cyfleusterau cyhoeddus ar y lefel islawr. Aed i mewn iddynt ar hyd ramp a grisiau yn arwain at isffordd i gerddwyr (y gamlas gynt) o dan Ffordd y Brenin. Fodd bynnag, caewyd y toiledau sawl blwyddyn yn ôl.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
- Helical Bar plc, Adroddiad a chyfrifon blynyddol, 2005
- http://www.walesonline.co.uk/business/business-news/wda-move-hq-new-site-1973095
- http://www.walesonline.co.uk/business/commercial-property/former-wda-headquarters-acquired-deal-7198959
- http://www.walesonline.co.uk/business/business-news/new-40000-sq-ft-office-9986519
- https://en.wikipedia.org/wiki/Bank_of_Wales