Cafodd Cyngor Sir De Morgannwg ei greu yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.
Ond yn wahanol i awdurdodau cyfagos, ni etifeddodd ganolfan ddinesig barod. Ar y dechrau, roedd y Cyngor yn prydlesu adeilad swyddfeydd yn Heol Casnewydd ond nid oedd hyn yn ddigon mawr i gynnwys ei holl swyddogaethau canolog.
Ar ddechrau’r 1980au, penderfynwyd datblygu canolfan newydd wrth ymyl Doc Dwyrain Bute. Ar wahân i fanteision a fyddai ynghlwm wrth greu Neuadd Sir bwrpasol, ystyriwyd bod y penderfyniad i adeiladu yn y lleoliad hwn hefyd yn sbardun ar gyfer adfywio economaidd a chymdeithasol mewn ardal a oedd, ar y pryd, yn anghyfannedd gan mwyaf.
Wedi’i gynllunio gan adran y Pensaer Sirol, mae adeilad ar lan y doc yn cynnwys tri llawr yn gyffredinol ond mae’n codi’n uwch mewn mannau. Rheolwyd y gwaith adeiladu, a barodd o 1986 tan 1988, gan Norwest Holst Limited. Agorwyd Neuadd y Sir yn swyddogol ar 1 Hydref 1988 gan y cyn-Brif Weinidog, yr Arglwydd Callaghan, a oedd wedi gwasanaethu fel Aelod Seneddol dros yr etholaeth a oedd yn cynnwys tiroedd dociau Caerdydd o 1945 tan 1987.
Yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ymhellach ym 1996, cafodd Cyngor Sir De Morgannwg ei ddiddymu a daeth Neuadd y Sir yn bencadlys Cyngor Caerdydd wedi hynny. Mae’n parhau i weithredu fel adeilad dinesig.
David Webb, Gwifoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/1; D1093/1/5)
- Cofnodion Cyngor Sir De Morgannwg, cynigion ar gyfer Neuadd y Sir newydd, 1983 (cyf.: SGEWCH/C/X/6/1-2)
- Cofnodion Cyngor Sir De Morgannwg, llyfrynnau a gynhyrchwyd ar gyfer agoriad swyddogol Neuadd y Sir De Morgannwg (cyf.: SGCC/C/X/4)
- https://en.wikipedia.org/wiki/County_Hall,_Cardiff
- http://www.cardiffcountyhall.co.uk/index.html