Mae’r ffotograffau a ddewiswyd yr wythnos hon o gasgliad Edwin Miles o Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr, tirnod adnabyddus a gydnabuwyd, yn ei gyfnod, fel un o’r adeiladau gorau yng nghymoedd De Cymru.
Roedd y Sefydliad yn gynnyrch ymgyrch ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyfleusterau fod ar gael i’r gymuned ddod at ei gilydd ar gyfer adloniant a dysgu. Agorwyd yr Ystafell Ddarllen gyntaf ym Mro Ogwr ym mis Gorffennaf 1885 ac, erbyn dechrau’r 1900au, roedd galw am adeilad llawer mwy … i nid yn unig ddifyrru’r aelodau ond meithrin eu meddyliau yn artistig, yn ddeallusol ac yn foesol (Glamorgan Gazette, 20 Ionawr 1911).
Wedi’i hadeiladu ar gost o £9,000, roedd Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr yn edrych i ddiwallu’r angen hwn, gyda phrif neuadd yn gallu cynnal mil o bobl a neuadd lai a allai ddarparu ar gyfer dau gant. Yn ogystal, roedd gan y Sefydliad ystafell filiards gyda phedwar bwrdd, ystafelloedd pwyllgor, llyfrgell ac ystafell ddarllen. Talwyd y gost trwy danysgrifiad cyhoeddus ac roedd yn cynnwys £200 a ddarparwyd ar ran y Brenin. Fodd bynnag, dynion y glofeydd lleol dalodd y rhan fwyaf o’r bil. Cyfrannodd pob gweithiwr geiniog ym mhunt ei enillion i’r Sefydliad o dan drefniant a elwir yn “system buntedd” a’i goruchwylio gan D J Thomas, y cyfeirir ato’n helaeth yn lleol fel “Dai Pound”.
Roedd y seremoni agoriadol, ar ddydd Mercher 18 Ionawr 1911, yn ddiwrnod arbennig i’r gymuned leol gyda’r strydoedd yn cael eu haddurno gyda baneri. Ymgasglodd dros fil o bobl ar Commercial Street wrth i’r Henadur Llewellyn agor y prif ddrws gydag allwedd aur seremonïol a heidiodd y cyhoedd i edmygu’r adeilad newydd. Dathlwyd yr agoriad gyda chinio ac yna ffilm a ddangoswyd yn y Brif Neuadd gan ddefnyddio “Biosgôp” y Sefydliad ei hun.
Dros y saith deg mlynedd nesaf rhoddodd y Sefydliad ffocws i fywyd cymunedol gydag amrywiaeth o gyngherddau, darlithoedd, ffilmiau, dawnsfeydd a chyfarfodydd cyhoeddus. Roedd cyfleusterau’r gemau yn arbennig o boblogaidd gyda thimau snwcer, biliards, drafftiau a gwyddbwyll. Roedd yna lawer o eiliadau cofiadwy, gan gynnwys y dyn lleol, Fred Cooke, yn sgorio uchafswm o 147 ar y bwrdd snwcer, ac ym 1965 fe gafodd Lyn Davies ei anrhydeddu mewn cyflwyniad i nodi ei fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo.
Mae’n debyg bod y ddau lun a dynnwyd gan Edwin Miles wedi nodi’r agoriad ym 1911. Nid ydynt felly’n cynnwys y y cloc a ychwanegwyd islaw’r gromen addurnedig ym 1949 y bydd llawer sy’n gyfarwydd â’r Sefydliad yn ei gofio. Yn anffodus, cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym 1983 ar ôl cael ei ddifrodi’n ddifrifol gan ddŵr llifogydd ym Mawrth 1981. Fodd bynnag, gallwch ddysgu mwy am y Sefydliad ar wefan Cymdeithas Hanes a Threftadaeth Leol Cwm Ogwr. Yn benodol, mae Kenneth James wedi llunio hanes manwl o’r adeilad gan ddefnyddio cofnodion y Sefydliad sydd wedi goroesi.
Tynnodd Edwin Miles luniau o lawer o drefi a phentrefi ar draws Morgannwg rhwng 1905 a 1929. Mae’r ffotograffau o Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Cwm Ogwr i’w gweld dan y cyfeirnod D261/M802 a D261/M803. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg