Byddaf yn gwirioneddol wasanaethu’n dda ein Harglwyddes Sofran y Frenhines a swydd Cwnstabl Sir Forgannwg: Ffurfio Cwnstabliaeth Morgannwg yn 1841

Mae Cwnstabliaeth Morgannwg yn dathlu pen-blwydd ei ffurfio 175 o flynyddoedd yn ôl yn 2016. Mae llawer o’r papurau sy’n ymwneud â sefydlu’r llu a’i hanes hir i’w cael yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn  rhoi cipolwg fanwl i ni ar ffurfio a datblygiad y llu ers 1841, ac yn agor cil y drws ar fywyd yn ne Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif.

Mae’n destun dadl pa bryd yn union y ffurfiwyd y gwnstabliaeth. Gellid dadlau iddi gael ei ffurfio adeg penodi’r Prif Gwnstabl cyntaf, Charles Frederick Napier, ar 11 Awst 1841. Yn fwy tebygol efallai ffurfiwyd y llu wrth i’r criw cyntaf o recriwtiaid dyngu llw yn Neuadd y Dref Pen-y-bont ar Ogwr ar 23 Hydref 1841. Mae’r dogfennau gwreiddiol ddefnyddiwyd yn y seremoni tyngu llw i’w cael yn Archifau Morgannwg. Fe’i defnyddiwyd i weinyddu’r llw ei hun a chofnodi llofnodion y recriwtiaid.  Goruchwyliwyd y seremoni gan y Prif Gwnstabl, Capten Charles Napier, y pedwar Uwch-arolygydd oedd newydd eu penodi ac ynadon lleol. Byddai’r ddogfen wedi cael ei rhoi i bob dyn yn ei dro oedd wedyn yn gorfod tyngu llw, gan nodi ei enw ar y llinell gyntaf.

oath

I … do swear that I will well and truly serve our Sovereign Lady the Queen and the office of the Constable for the County of Glamorgan according to the best of my skill and knowledge. So keep me God [cyf.: DCON/Box26b].

Roedd pob dyn wedyn yn llofnodi’r cofnod. Er i Napier lwyddo i sicrhau cyllid i gyflogi 34 o Ringylliaid a Chwnstabliaid, dim ond 30 oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw ac fe gwblhawyd y llu yn llawn pan dyngodd mwy o recriwtiaid a chofnodi eu henwau ar yr un ddogfen dros yr wythnosau dilynol. Gan i’r recriwtiaid lofnodi eu henwau, yn hytrach na rhoi marc yn unig, oedd yn arfer cyffredin y dyddiau hynny, awgryma hynny bod ganddynt sgiliau darllen ac ysgrifennu elfennol. Mae’r cofnod hefyd wedi ei lofnodi gan Napier a’r pedwar uwch-arolygydd; Lewis,Davies, Leveson-Gower a Peake, fwy na thebyg ar 19 Hydref, 4 diwrnod cyn seremoni Pen-Y-Bont Ar Ogwr.

Tybir nad oes cofnod ffotograffig o’r seremoni wedi goroesi. Fodd bynnag, mae’n rhesymol tybio y byddai’r 30 gŵr wedi bod yn grŵp trawiadol o ystyried bod y recriwtio wedi tynnu ar gyn-filwyr oedd yn gyfarwydd â drilio milwrol.  Mae nifer o ffotograffau gan Archifau Morgannwg o aelodau Cwnstabliaeth Morgannwg yn y cyfnod hwn [cyf. DXDG4-6] ac mae’n bosib bod un o’r ffotograffau, o’r Cwnstabl Thomas Thomas, yr un Thomas Thomas a dyngodd lw ac a lofnododd ei enw ar 23 Hydref [cyf. DXDG4].

dxdg4

Mae’r ffotograff yn dangos Thomas yn gwisgo siaced las gynffon gwennol â gwregys gyda botymau arian boglynnog iddi. Mae coler uchel hefyd i’r siaced, gyda rhif y cwnstabl wedi ei frodio arno mewn arian. Dangosir Thomas yn dal yr het sidan beipen stôf wedi ei hatgyfnerthu ag ategion metal  i roi mwy o amddiffyniad. Er nad yw wedi ei ddangos yn y ffotograff, byddai wedi gwisgo trywsus glas tywyll ac esgidiau mawr yn y gaeaf a thrywsus gwyn yn yr haf. Hwn oedd lifrai safonol Cwnstabliaeth Morgannwg am y ddegawd nesaf tan y disodlwyd y got gynffon gwennol, oedd ag iddi boced gudd yn y gynffon i guddio pastwn y cwnstabl, gan ffrog-côt.

Mae’n bosib taw’r eithriad y diwrnod hwnnw ym mis Hydref 1841 oedd y chwech o ddynion, dan arweiniad yr Uwch-arolygydd Thomas Morgan Lewis, gynt o’r llu a roddwyd i blismona cantrefi Caerffili Isaf a Meisgyn Isaf.  Bu Lewis yn gwasanaethu yn y Coldstream Guards ac roedd wedi seilio’r lifrai a roddwyd i’w ddynion ar ddyluniadau milwrol. Mae’n bosib, felly, ei fod ef a’i ddynion yn dal i ddefnyddio’r lifrai gwreiddiol a gyflwynwyd gan Lewis a’i ddisgrifio fel:

…swallow tail coats … of bright pilot blue, while the turned back sleeve cuffs and the embroidered crown and number on each side of the deep colour were a vivid scarlet [E R Baker, The Beginnings of the Glamorgan County Police Force, The Glamorgan Historian, Cyf.2, t.40-52].

Roedd y 23ain o Hydref yn ddiwrnod arwyddocaol i’r Prif Gwnstabl, er y byddai mis arall yn pasio cyn y byddai’n fodlon fod ei ddynion wedi eu hyfforddi’n addas a’r offer ganddynt i ymgymryd â’u dyletswyddau dros y sir.

Mae manylion penodiad Napier a’r cynllun ar gyfer sefydlu Cwnstabliaeth Morgannwg wedi eu cadw yng nghofnodion Sesiynau Chwarterol Cyffredinol y Llys ar gyfer sir Forgannwg.

Captain Charles Frederick Napier, now of the Rifle Brigade, after a consideration of the Testimonials of the several Candidates having been unanimously selected by them, as the most eligible person  to be appointed Chief Constable of this County – be elected to that Office [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Mercher 11 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Mae’n bosib na fu hwn yn benderfyniad hawdd achos mae bron yn sicr fod Thomas Morgan Lewis wedi taflu ei het i’r sgwâr ac fe ymgeisiodd sawl cyn swyddog milwrol yn gyhoeddus iawn am y swydd. Ar un ystyr roedd y penderfyniad i greu llu sirol yn ddatblygiad naturiol ar y grymoedd a roddwyd dan Ddeddf Heddlu Sirol 1839 i greu ac ariannu llu o’r fath. Fodd bynnag, mae angen gosod y penderfyniad hefyd yng nghyd-destun cynnydd sydyn yn y boblogaeth mewn rhannau o dde Cymru, a yrrwyd gan yr angen am ddynion ifanc yn y diwydiannau newydd ac yn benodol, y diwydiannau haearn a glo. Ar yr adeg, roedd plismona yn dod dan adain yr ynadon lleol ac wedi ei reoli gan benderfyniadau wnaed gan yr ynadon sirol yn y Sesiynau Chwarter. Roedd yr ynadon yn gwerthfawrogi’r angen am lu i blismona er mwyn cadw cyfraith a threfn mewn ardaloedd fel Merthyr, lle roedd y boblogaeth yn tyfu ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen. Roeddent hefyd yn bryderus iawn am yr anrhefn posib a’r her i’r drefn oedd ohoni gan fudiadau newydd, ac yn benodol y Siartwyr, oedd yn ymgyrchu dros hawliau sylfaenol i’r gweithiwr.

Does dim dwywaith fod mudiad y Siartwyr yn cael ei ystyried y pryd hwn yn fygythiad gwirioneddol yn ne Cymru. Er enghraifft, mae cofnod o gyfarfod yr ynadon ym Merthyr ar 2 Hydref 1840 yn tanlinellu’r pryder a fodolai ynghylch bygythiad y Siartwyr ac yn annog sefydlu Bwrdd Ynadon:

…for the purpose of communicating with the Lord Lieutenant and through him the Government upon the subject of the preservation of the peace of this place and for the adoption of such measures as circumstances may require for the suppression of Chartism.

Roedd pryder penodol bod achos y Siartwyr yn cael ei hyrwyddo mewn cyfarfodydd cudd a gynhaliwyd ledled yr ardal a thrwy bamffledi a ddosbarthwyd i bobl leol.

Deputies, delegates from the North occasionally are attending these meetings and are believed to be at present in this neighbourhood and Duke’sTown. Meetings are held nightly. That unstamped periodicals are circulating to considerable extent and that it is desirable that the matter contained in them should be brought under the consideration of the Government as it is the opinion of the Board that the statements therein are highly mischievous and dangerous to the public peace [Cyfarfod yr Ynadon ym Merthyr Tudful yn y Castle Inn, Merthyr Tudful, Hydref 12 1840, cyf.: DMM/CO/71].

Erbyn canol y 1830au, roedd nifer o ardaloedd, gan gynnwys Merthyr, Pen-Y-Bont Ar Ogwr ac Aberafan wedi dechrau penodi eu lluoedd plismona eu hunain. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth, yn wyneb pwysau o’r fath, nad oedd y patrymau traddodiadol o blismona drwy benodi un dyn bob blwyddyn ym mhob plwyf fel cwnstabl lleol di-dâl ddim bellach yn ddigonol i fynd i’r afael â’r straen oedd ar gymdeithas yn sgil diwydiannu a bod llafur yn mudo. I ariannu’r llu newydd roedd yr Ynadon sirol wedi cytuno y gellid ….codi Treth Plismona o £800 yn Ardaloedd y Sir at ddibenion yr Heddlu. Serch hynny, er gwaetha’r gydnabyddiaeth am yr angen i gael llu penodol i blismona, byddai hyn wedi bod yn fater dadleuol o ystyried  yr amharodrwydd cyffredinol i osod trethi newydd. Yn benodol, roedd ardaloedd gwledig yn gweld hyn fel treth a osodwyd arnynt i ariannu plismona yn y trefi newydd oedd yn ehangu’n gyflym. Fel y gellid dychmygu, roedd Napier yn gweld y swm fel y lleiafswm isaf posib o ystyried yr angen i sefydlu a rhoi’r offer angenrheidiol i lu newydd. Roedd e hefyd yn awyddus i sicrhau bod rhyddid ganddo i reoli’r llu o ddydd i ddydd. I’r perwyl hwn, cytunwyd:

…the value and usefulness of the Force, must necessarily depend on the cordial co-operation of the Magistrates, with, and their full confidence in the Chief Constable; their total abstinence from all interference in recommending the appointment or dismissal of Individuals as Constables – his selection of the places as which they shall be fixed – his internal arrangement, or any other matter which the Legislature has committed to his charge [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Mercher 11 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Wedi cwblhau taith o’r sir, cyflwynodd Napier ei adroddiad cyntaf i’r Cyfarfodydd Sesiwn Chwarter ar 30 Awst 1841:

I propose the force be divided into three Classes viz Sergeants or First Class at 22s; Second Class at 20s: Third Class at 18s; the numbers would be Sergeants, Eleven; Second Class, Eleven; Third Class, Twelve [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Roedd creu dau radd o gwnstabl yn gam a gymerwyd gan Napier yn benodol i ledu’r gyllideb ymhellach a chynyddu nifer y dynion y gallai alw arnynt. Ar ben hynny, awgrymodd Napier y dylid rhannu’r sir yn bedair ardal – Merthyr, Trecelyn, Abertawe ac Ogwr. Does dim dwywaith ei fod yn ymwybodol iawn  lle’r oedd yr her fwyaf i’w lu a rhoddwyd 12 o’i 34 o ddynion i edrych ar ôl Merthyr, gan adael lluoedd teneuach yn yr ardaloedd eraill. Tanlinellodd hefyd gyflwr gwael ac, mewn ambell achos, ddiffyg llwyr yn yr adeiladau oedd ar gael i’w ddynion. Roedd rhan ganolog o’i gynnig yn ymwneud felly â’r angen i godi gorsafoedd a chelloedd ym mhob ardal.

Mae’r cynigion ar gyfer pob rhanbarth yn rhoi cipolwg ddefnyddiol i ni ar gyflwr hap a damwain y trefniadau plismona a etifeddwyd gan Napier, a’r her oedd yn wynebu’r Gwnstabliaeth newydd ym Morgannwg. Er enghraifft, wrth gyfeirio at Ferthyr, rhoddodd wybod i’r Cyfarfodydd Sesiwn Chwarter:

I have inspected the Cells at present in use in Merthyr and found them totally unfit for the reception of Prisoners, indeed so much so, that Magistrates find it necessary to place prisoners at Public Houses, in charge of a Constable, at a considerable additional expense to the County [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Roedd sefyllfa debyg yn ardal Trecelyn:

In erecting a station house I would advise that apartments be provided for the Constable there stationed, with three Cells for Prisoners. At present there is no lock up house at this place. I consider Cells necessary for the security of Prisoners, as there is considerable risk in the present method of confining them at the private dwelling of the Constable.

I would recommend the erection of suitable lock up houses at Llantrisant and Caerphilly – the present Cells at these places are of the worst possible descriptions.

Roedd ei gynnig ar gyfer Abertawe yn dangos pa mor denau yr oedd yn gorfod taenu ei adnoddau. Dim ond Uwch-arolygydd, rhingyll a 5 swyddog oedd ar gael i’r ardal hon, gyda’r flaenoriaeth ar gyfer y rhannau mwyaf di-drefn a chan adeiladu partneriaethau â lluoedd plismona eraill yn yr ardal:

I think Pontardawe the most central part for the Residence of the Superintendent. The force allotted to this District, I consider small. I have placed the Constables where crime is most to be apprehended; and to the neglect of the Western Agricultural portion of the District, to which I should have assigned another Constable had the number permitted.

On visiting Ystradgunlais my attention was drawn to the Twrch Valley where are located a considerable population reported to be of lawless character.

I should suggest that an arrangement should be entered into with the Magistrates of the County of Brecon, in order that the whole of the Vale of Twrch, may be under the charge of the constable stationed in that quarter – the County boundary affording facilities for the escape of delinquents.

The only lock up houses in the district are at Aberavon and Cwmavon which have been erected by private subscription and I have no doubt would be given up for the purposes of the Force….

I would recommend that a suitable Station house be erected at Pontardawe.

I find that there is a Police Force established along the line of the Swansea Canal who are paid by the Committee of Traders. I think it highly desirable that this force should co-operate with the men under my charge, and by doing so, a mutual advantage would be derived [Sesiwn Chwarter Sir Forgannwg yn eistedd yn y Pyle Inn ar Ddydd Llun 30 Awst 1841, cyf.: DMM/CO/71].

Mae’r ffaith y derbyniwyd ei argymhelliad o ran nifer y dynion ac adeiladu gorsafoedd heddlu newydd heb unrhyw amod yn tanlinellu’r graddau y gwelai’r ynadon y llu newydd yn anhepgor mewn cyfnod o ddiwydiannu aruthrol.  Ar ôl cwblhau’r seremoni i dyngu llw, Wyrcws Pen-y-bont Ar Ogwr oedd cartref y llu, lle y derbynion nhw gyfnod o hyfforddiant sylfaenol. Felly dim ond yn ail hanner mis Tachwedd 1841 yr ymgymerodd Cwnstabliaeth newydd Morgannwg â’i dyletswyddau yn y rhanbarth, gan weithio mae’n siŵr o adeiladau dros dro neu rai a fodolai eisoes wrth ddisgwyl am yr adeiladau newydd. Wedi dweud hynny, roedd yn dipyn o gamp i greu a rhoi llu plismona newydd ar waith mewn ychydig fisoedd yn unig, ac roedd Cwnstabliaeth Morgannwg yn fuan iawn yn y newyddion cenedlaethol yn sgil ei lwyddiant yn datrys sawl achos blaenllaw.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg.

Ffoaduriaid o Wlad Belg ym Morgannwg

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914, un o’r grwpiau o bobl cyntaf yr effeithiwyd arnynt oedd trigolion Gwlad Belg. Gan ofni erledigaeth gan fyddin yr Almaen a oedd yn llifo i mewn i’r wlad, penderfynodd tua 250,000 ohonynt adael Gwlad Belg a symud i’r Deyrnas Unedig, sef y mewnlifiad mwyaf o ffoaduriaid yn hanes Prydain. Daeth rhai o’r rheiny i fyw yng Nghymoedd De Cymru.

Roedd gan y plwyfi a chapeli lleol eu rhan i’w chwarae o ran helpu’r ffoaduriaid:

Proposed by Councillor D. Bayliss that the council should recommend to the Public Meeting that as many persons as possible in the Parish should subscribe a certain sum weekly, to maintain a family of Refugees during the period of War. Carried. Cyngor Plwyf Sant Ffraid (P78)

It was proposed by Councillor D Lewis that they allow rates to be free on the Belgian Refugee House. Carried. Cyngor Plwyf Sant Ffraid (P78)

Mr Brown gave particulars of the offered apartments in Albany Road & after consideration Mr Roberts proposed and Mrs Farrar seconded that the house in Albany Road be taken subject to the Belgian Relief Committee agreeing to furnish same. Carried. Eglwys Ddiwygiedig Unedig Parc y Rhath (D601/7)

Yr awdurdodau lleol gymerodd y cyfrifoldeb am les y ffoaduriaid yn y pen draw. Byddai’n rhaid iddynt fod wedi delio ag amrywiaeth o faterion. Un o’r meysydd yr oedd rhaid iddynt delio ag o oedd iechyd y ffoaduriaid:

He reported that he had received a warning from the Authorities that a case of small pox had occurred at the Earls Court Refugee Camp for Belgians and he had therefore visited the refugees from that camp who were at Angelton Cottage and found a child there with suspicious symptoms. He had called on the Medical Officer who had instructed him to report on the case on Monday next. It was moved by Mr R. John seconded by Mr W.A. Howell and Resolved that, if the case proves to be small pox, the Clerk be instructed to give twenty four hours notice to the Hospital Committee to clear the Small Pox Hospital ready for its reception. Cyngor Dosbarth Gwledig Penybont (RDPB/C/14)

Hospitals

Letter from the War Refugees Committee asking that the recent Belgian refugees be treated locally and free of charge, as many were sick, convalescent and suffering from nervous shock, infectious disease etc. and were, in the most, entirely without means. Resolved that the council are prepared to deal with local cases in their Accident and Surgical Hospital and Infectious Diseases Hospital. Cyngor Dosbarth Trefol Y Barri (BB/C/1/20)

Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ceisio helpu’r ffoaduriaid drwy ostwng neu gael gwared yn gyfan gwbl ar gostau eu llety a threuliau eraill:

…that the Collectors be instructed not to collect rates from premises occupied by Belgian Refugees… Cyngor Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud Faerdref (RDLL/C/13)

Resolved that the Belgian Refugees in Penarth be allowed to use the Baths free of charge. Cyngor Dosbarth Trefol Penarth (UDPE/C/1/4)

Roedd yr awdurdodau yn ceisio helpu’r ffoaduriaid mewn ffyrdd eraill yn ogystal, un ai eu hunain neu drwy grwpiau gwirfoddol:

The Chairman submitted a letter he had received from the Central Committee asking the Council to organize another Christmas Day collection for the relief of the Belgian Children. Resolved that the Council support the movement and that the following members be requested to make the necessary arrangements for their respective wards… Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw (UDOG/C/1/11)

The Deputy Clerk reported that arrangements had been made for a visit of the Belgian Artistes to Porthcawl on Friday next and that the use of the Pavilion had been granted free of charge by Mr Conrad. Cyngor Dosbarth Trefol Porthcawl (UDPC/C/1/10)

That public meetings be held in the various parts of the District with a view to making arrangements for housing and for providing for the comfort and maintenance of the Belgian Refugees. Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar (UDMA/C/4/12)

Library

The Librarian stated that Mr H Stanley Jevons had sent a number of French books on loan for the use of the Belgian Refugees. Cyngor Bwrdeistref Caerdydd (BC/C/6/50)

A letter was read from Mrs Marychurch, applying for work for a Belgian Refugee as Book Repairer or Binder. Cyngor Bwrdeistref Caerdydd (BC/C/6/50)

Un o dasgau’r awdurdodau lleol oedd helpu swyddfa’r Cofrestrydd i ddogfennu pobl gwlad Belg a ffoaduriaid eraill. Erbyn dechrau 1915 roedd yr awdurdodau lleol wedi canfod bod nifer y ffoaduriaid o Wlad Belg ledled Morgannwg fel a ganlyn:

Dynion dros 16 oed – 408; Merched dros 16 oed – 505; Bechgyn – 212; Genethod – 202; Cyfanswm – 1327.  Pwyllgor Cymorth Gofid Rhyfel Cyngor Sir Morgannwg (GC/WD/1)

Mae’n werth nodi na adawodd pob Belgiad ei wlad a dod i’r DU; arhosodd llawer, ac roedd rhywfaint o’r gwaith elusennol a wnaed yn y DU er budd y rheiny oedd dal yng Ngwlad Belg:

The National Committee…have for some time been £30,000 short each week of the amount necessary to provide the irreducible minimum of one meal per day…may I beg that you will give this appeal your most sympathetic consideration. Siambr Fasnach Corfforedig Caerdydd (DCOMC/1/8/18)

Cyn pen blwyddyn ar ôl diwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1918, roedd 90% o’r ffoaduriaid o Wlad Belg ym Mhrydain wedi dychwelyd adref. Daeth y rheiny a arhosodd yn aelodau o gymdeithas Prydain, gan ddiflannu o olwg y genedl, ac felly daeth stori’r ffoaduriaid o Wlad Belg yn angof ymhen fawr o dro.

Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros Dro

Cofrestri Etholwyr

Mae Cofrestri Etholwyr yn ymddangos fel y 75ain eitem i ddod i law ar bum achlysur rhwng 1975 a 1992. Mae’r cofnodion yn nodi’r rheiny sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a seneddol.Yn Archifau Morgannwg, defnyddir Cofrestri Etholwyr yn aml gan haneswyr teulu a lleol i geisio canfod am ba hyd y bu teulu yn byw mewn cyfeiriad penodol ac i ddod o hyd i unigolion sydd ar goll.

Roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1832 yn sicrhau mai dim ond dynion dros 21 oedd â’r hawl i bleidleisio, a hynny os oeddent yn berchen ar eiddo a oedd yn werth o leiaf ddwy bunt y flwyddyn.O ganlyniad i newidiadau pellach yn y ddeddfwriaeth gwelwyd cynnydd o ran hawliau pleidleisio dynion yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dim ond ym 1918 y caniatawyd i ferched bleidleisio mewn etholiadau Seneddol am y tro cyntaf, ond gan mai 30 oed oedd yr oedran pleidleisio a nodwyd roedd rhaid i ferched ddisgwyl degawd arall cyn cael yr un hawliau pleidleisio â dynion.Er hynny, mae rhai merched yn ymddangos yn y Cofrestri Etholwyr o ddiwedd y 19eg ganrif, gan y rhoddwyd yr hawl i ferched a oedd yn berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau lleol dan delerau Deddf Llywodraeth Leol 1894. Yn ystod 1969 gostyngwyd yr oedran pleidleisio i bawb – yn ddynion a merched – i 18 oed.

Oherwydd eu bod yn cynnwys llawer o wybodaeth ac yn hawdd eu defnyddio mae Cofrestri Etholwyr yn adnodd gwerthfawr i haneswyr teulu a lleol yn enwedig o’u defnyddio ar y cyd ag adnoddau eraill megis cyfeirlyfrau masnach a ffurflenni cyfrifiad.

Mae’r gofrestr hynaf a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion sy’n ymestyn o 1832 hyd heddiw ac eithrio rhai bylchau, sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r ddau Ryfel Byd.

Cofrestr Etholwyr Morgannwg, 1845

Cofrestr Etholwyr Morgannwg, 1845

Mae rhestr gyflawn o’r Cofrestri a gedwir gan Archifau Morgannwg ar gael ar ein catalog ar-lein, Canfod, ac mae canllaw ymchwilio ar gael ar ein gwefan: http://www.archifaumorgannwg.gov.uk/content.asp?nav=2,19&parent_directory_id=1&language=cym

Thomas Harry o Forgannwg a Phatagonia

Y 75ed casgliad a dderbyniwyd yn 2005 oedd papurau Thomas Harry o Batagonia (cyf: D376).

Roedd Thomas Harry yn fab i David Harry o’r Transh, ger Trelales, Pen-y-bont ar Ogwr. Bu’n byw yn Aberpennar am gyfnod byr cyn ymfudo i Batagonia tua 1865.

Sefydlwyd Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ganol y 19eg ganrif. Hwyliodd y 153 o wladychwyr Cymreig i Batagonia ym 1865 ar fwrdd llong y Mimosa. Heddiw mae tua 50,000 o bobl o dras Cymreig ym Mhatagonia, ac mae nifer fach ohonynt yn dal i siarad Cymraeg.

Erbyn 1876 roedd Thomas Harry wedi sefydlu bywyd newydd ym Mhatagonia yn ffermio 200 erw yn nhalaith Chubut. Dim ond un llythyr a geir yn ei gasgliad o bapurau. Yn y llythyr mae’n gofyn am newyddion am ei deulu yng Nghymru. Dywedodd yn ei lythyr at Anne Jenkins, ‘nid wyf wedi clywed gair gan fy nhylwyth ers i mi ddod i’r lle hwn tua 11 mlynedd yn ôl’.

Llythyr Thomas Harry, t.1

Llythyr Thomas Harry, t.1

Llythyr Thomas Harry, t.2

Llythyr Thomas Harry, t.2

Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys manylion bywyd newydd Thomas Harry ym Mhatagonia, lle roedd yn byw yn Nhan y Castell, yn ŵr di-briod, yn berchen ar 30 o wartheg – yr oedd 9 ohonynt yn wartheg godro, 6 cheffyl, a 40 erw o ŷd. Er gwaethaf ei lwyddiant ymddangosiadol, dywed ‘bûm yn byw yma ers pedair blynedd ac nid yw fy llafur wedi dwyn ffrwyth hyd yma…’ gan ychwanegu, ‘Os yw fy mrodyr yn ystyried ymfudo, fy nghyngor i fyddai iddynt beidio â dod…’

Ymddengys fod bywyd yn anodd ym Mhatagonia i’r gwladychwyr Cymreig cynnar hynny. Nid oes gennym ragor o fanylion am Thomas Harry yma yn Archifau Morgannwg; ni wyddem os oedd wedi aros a ffynnu yn ei wlad fabwysiedig neu ddychwelyd i Gymru. Os oes unrhyw un arall yn gwybod ei hanes, hoffem wybod amdano.