Fis Mehefin bydd hi’n hanner canrif ers ffurfio Cwnstablaeth De Cymru. Dyma’r cyntaf o dair erthygl yn edrych nôl ar hanes ffurfio’r gwnstablaeth a’i dyddiau cynnar. Mae’n tynnu ar gofnodion a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg gan gynnwys copïau o’r adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y Prif Gwnstabl.
Yn ôl unrhyw fesur roedd 1969 yn flwyddyn heriol i fynd ati i ad-drefnu’n sylweddol a chreu cwnstablaeth newydd allan o luoedd Morgannwg, Merthyr, Abertawe a Chaerdydd. Fel y noda adroddiad y Prif Arolygydd ar gyfer 1969-70, roedd 1969 yn flwyddyn heriol gyda’r angen i gyfrannu at blismona arwisgiad y Tywysog Charles a sawl ymweliad brenhinol â De Cymru. Ar ben hynny, roedd yr heddlu’n wynebu nifer o heriau difrifol gan gynnwys …ysgwyddo baich trwm y gwaith a’r ymchwiliadau i eithafiaeth Gymreig… law yn llaw â phlismona gweithgareddau gwrth-apartheid a gemau rygbi’r Springbok.
Roedd symud at luoedd mwy yn fenter a welwyd ar hyd Gwledydd Prydain yn dilyn argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Blismona ym 1960. Roedd y newidiadau yn Ne Cymru yn un rhan o’r jig-so â’r nod o leihau nifer y lluoedd ar draws y wlad o 117 i 43. Roedd y paratoadau ar gyfer Cwnstablaeth De Cymru wedi eu gwneud gan 13 gweithgor a grëwyd i edrych ar bob agwedd ar redeg y llu newydd. Mae cofnodion y gweithgorau wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg ac o’r dechrau deg roedd Prif Gwnstabliaid y pedwar llu yn cyfaddef, mewn llythyr ar y cyd a gyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 1967, na fyddai’r uniad yn boblogaidd mewn sawl cwr.
It is acknowledged that the process of amalgamation does not commend itself to all members of the regular forces and civilian staff affected. This we understand.
Serch hynny, byddai’r llu newydd, a oedd i wasanaethu bron i hanner cant y cant o boblogaeth Cymru, yn fwy effeithiol:
…providing greater resources and more modern equipment, transport and communication.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 1 Mai 1969, fis cyn lansio’r Gwnstablaeth, ysgrifennodd y darpar Brif Gwnstabl, Melbourne Thomas, at ei staff unwaith yn rhagor gan gyfaddef:
…there will undoubtedly be many initial problems and difficulties, but with the co-operation and combined effort of all members we can overcome them… In the whole of Great Britain there are only six provincial forces with responsibility for a greater number of people and the merger is taking place in an atmosphere of economic restraint with restrictions on manpower, and at a time when the structure of the police service is subject to tremendous change in both the administrative and operational fields.

Prif Gwnstabl Melbourne Thomas
Fel modd o esmwytháu y pontio fe geisiodd roi sicrwydd i swyddogion na fyddai gofyn iddynt symud fel rhan o’r ad-drefnu, ac:
…there will be a substantial number of promotions in the new force and I want to stress that these will be on merit with no regard being paid to which of the constituent forces the officers belonged.
Ni wnaeth y llythyr grybwyll yr anghytuno a fu’n amgylchynu pen llanw’r trefniadau ar gyfer y llu newydd ac, ar brydiau, a fu’n fygythiad i’r broses gyfan. Yn naturiol, gyda sefydliad a fyddai’n cynnwys bron i 3,000 o swyddogion heddlu a staff sifil ledled De Cymru, roedd cwestiynau yn codi yn ymwneud â sicrwydd swyddi, adleoli a rhagolygon dyrchafiad. Ar ben hynny, fel y dangosodd dadleuon yn y Senedd yn ystod mis Mawrth 1969, roedd y frwydr hefyd yn cynnwys pryderon am golli heddluoedd fel Merthyr oedd a hunaniaeth leol gref ac ymrafael nôl a blaen dros leoliad pencadlys yr heddlu newydd. Er bod llawer, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, Jim Callaghan, wedi dadlau’r achos dros Gaerdydd a’i bencadlys newydd modern ym Mharc Cathays, yn y pen draw, Pen-y-bont oedd y dewis, sef cartref heddlu Morgannwg a’r mwyaf o’r 4 llu.

Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
Does dim syndod felly fod lansiad Cwnstablaeth De Cymru ar 1 Mehefin 1969, i’r rhan fwyaf o bobl, yn ddigwyddiad tawel. Cyfyngwyd adroddiad yn y Western Mail i erthygl fer ar y tudalennau mewnol. Dywedodd y Prif Gwnstabl, Melbourne Thomas, yn syml:
I have taken the view that there is no funeral and that the good spirit existing in the four forces will be carried forward into the new force (Western Mail, 1 Mehefin 1969).
Ac felly profwyd. Yn yr adroddiad blynyddol a gynhyrchwyd ym mis Ionawr 1970, dadleuodd y Prif Gwnstabl fod llawer o’r heriau a wynebwyd ym 1969 wedi helpu i ddod a’r llu newydd ynghyd:
The early jointure of the members of the forces in duties for Investiture of HRH The Prince of Wales and the Royal Progress precipitated the business of working together for the whole force. Demonstrations at football matches continued the acceleration of getting to know one another. Social exchanges added to the integration the amalgamation must gain if the desired benefits are to be secured.
Tra bod anawsterau yn parhau gyda diffyg niferoedd a’r gallu i symud staff wedi ei gyfyngu, daeth Melbourne Thomas i’r casgliad:
…the new force was launched and is progressing daily towards the integration and efficiency desired from amalgamation. Twelve months from now it will be possible to look at the progress made from a much better perspective point.
Y prawf pennaf mae’n debyg oedd agwedd aelodau Cwnstablaeth newydd De Cymru. Gwelwyd tua 350 yn ymddeol neu’n ymddiswyddo yn ystod 1968 a 1969 – lawer yn uwch na’r cyfartaledd. Un o’r datblygiadau cyntaf oedd cynhyrchu’r Police Magazine ar gyfer y gwnstablaeth. Nid yn unig ei fod yn cynnig newyddion am newidiadau staff a digwyddiadau cymdeithasol, ond roedd hefyd yn fforwm i gyfnewid ystod o farn am yr uno. Roedd rhifyn ym 1970 yn cynnwys y gerdd ganlynol, a ysgrifennwyd gan ‘152G’, sydd efallai yn crynhoi’r agwedd ‘bwrw iddi’ ar draws y llu.
To some it brought promotion
A move they did not want?
For others, no commotion
But don’t give up and daunt
We’ve had it now for many a day
And things are settling down
For those who sighed are heard to say
“I was too quick to frown”
And now we four are joined as one
To form a brand new force
A good beginning has begun
We are the best, of course.
So let us make our motto
“Forever we are best”
Until the day we have got to
Amalgamate with the rest
[Cymerwyd o South Wales Police Magazine, Hydref 1970, t73 (DSWP/52/1)].
Nid oedd casgliad Melbourne Thomas felly ar ddiwedd 1969, bod …y teimlad cyffredinol o gynnydd bellach yn galonogol… , yn bell o’r nod. Roedd Cwnstablaeth De Cymru, er yr heriau o sawl cyfeiriad, bellach a’i draed danno.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Gellir dod o hyd i gofnodion ar ffurfio Heddlu De Cymru yn Archifau Morgannwg, gan gynnwys adroddiad y Prif Gwnstabl ar gyfer 1969-1970 (DSWP/16/2). Mae’r llythyron o’r Prif Gwnstabliaid yn DSWP/29/7 (26 Mehefin 1967) a DSWP/29/7 (1 Mai 1969). Ceir copïau cynnar o Gylchgrawn Heddlu De Cymru yn DSWP/52/1. Mae copïau o’r Western Mail ar gyfer y cyfnod, gan gynnwys yr erthygl ar ffurfio Heddlu De Cymru ar 1 Mehefin 1969, ar gael yn Llyfrgell Treftadaeth Cathays.