Ymgyrchu dros y Rhondda, Rhan 2:  Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw

Cedwir cofnodion o Anheddiad Maes-yr-Haf yn Nhrealaw yn Archifau Morgannwg.   Ymhlith y casgliad mae un ddogfen benodol sy’n werth ei harchwilio’n fanwl; y ffeil sy’n ymwneud â Chymdeithas Lesddeiliaid Trealaw, sefydliad a ymgyrchodd yn llwyddiannus rhwng 1937 a 1938, gyda grwpiau eraill, i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud ag atgyweirio eiddo prydlesol. O dan wyneb y mater cyfreithiol ac ymddangosiadol sych hwn, roedd dogn ryfeddol o angerdd, gan beri i Syr Reginald Clarry, AS Ceidwadol Casnewydd, ddweud hyn yn Nhŷ’r Cyffredin:

‘I think the crime of these vultures ranks on the same basis as blackmail’ (Hansard)

Yn yr un ddadl dwedodd William Henry Mainwaring, AS Llafur Dwyrain Rhondda:

‘Speaking directly, on behalf of these hundreds of people on that Trealaw estate. They are waiting this morning with great anxiety to hear whether this Bill receives its Second Reading, to learn whether there is any hope.’

Yr achos dros y pwysau gwleidyddol a arweiniodd at rethreg seneddol o’r fath oedd y ffordd y darparwyd tai yng nghymoedd de Cymru yn ystod y 19eg ganrif.  Yn yr un modd â rhannau eraill o’r wlad roedd llawer o faes glo deheudir Cymru yn eiddo i ystadau’r aristocratiaid a’r bonedd lleol a oedd yn aml yn barod i fanteisio ar botensial diwydiannol cynyddol eu heiddo, ond heb feddu ar y cyfalaf i wneud hynny. Roedd llawer o ystadau eu hunain yn methu neu’n amharod i adeiladu tai ar gyfer y boblogaeth gynyddol. Felly, roeddent yn prydlesu eu tir i adeiladwyr, yn aml ar brydlesi adeiladu 99 mlynedd, a’r adeiladwyr hyn oedd wedyn yn eu tro yn ariannu’r gwaith o godi’r tai a oedd eu hangen ar y maes glo ffyniannus. Byddai’r adeiladwyr yn aml yn is-osod y tai gorffenedig i’r meddianwyr, gan arwain at berthynas gyfreithiol gymhleth rhwng y landlord, y tenant a’r is-denantiaid. Yn y 1930au roedd llawer o’r eiddo preswyl yng Nghymoedd y Rhondda yn eiddo i landlordiaid a dderbyniai rent tir bach o ychydig bunnoedd y flwyddyn, yn aml gan ddeiliad tŷ a oedd yn ddi-waith. Ar ddiwedd y brydles, byddai’r eiddo’n dychwelyd yn ôl i’r landlord oni bai bod y tenant wedi prynu’r ‘rifersiwn’ neu’r rhydd-ddaliad.  Roedd y system hon wedi gweithio’n weddol dda hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, tra bod y maes glo yn llewyrchus; roedd y rhenti tir yn sefydlog ac roedd y gwahanol gyfamodau (amodau a osodwyd gan y landlord ar y tenant) yn cael eu dehongli’n drugarog yn gyffredinol.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf newidiodd y sefyllfa; dirywiodd y diwydiant glo, cynyddodd diweithdra, a daeth talu’r rhent tir yn frwydr. Esgeuluswyd gwaith cynnal a chadw llawer o eiddo, gan achosi dirywiad mewn amodau tai yn lleol. Roedd gan yr ystadau traddodiadol eu hanawsterau eu hunain hefyd, a phan werthodd Syr Rhys Williams ystâd Trealaw yn gynnar yn 1937 i’r National Real Estate and Finance Company Limited roedd yn rhan o batrwm sefydledig o chwalu cyson ar lawer o ystadau tir.

Roedd y landlordiaid newydd yn syndicet ariannol yn Llundain a oedd yn arbenigo ar gaffael ystadau prydles gyda’r bwriad o ddychryn y tenantiaid i brynu rhydd-ddaliadaeth eu heiddo (eu cartrefi fel arfer) am bris yn llawer uwch na phris y farchnad. Mabwysiadodd y Cwmni eu gweithdrefn arferol yn gyflym o sicrhau gwasanaethau cyfreithwyr lleol a ysgrifennodd yn ystod wythnosau olaf Ebrill 1937 at bob un o’r 1,700 o denantiaid ar ystâd Rhys-Williams yn Nhrealaw. Roedd y llythyrau hyn yn hysbysu pob tenant o’r newid perchnogaeth, y byddai ‘arolwg o ddadfeilio’ yn cael ei gynnal ar eu heiddo am ffi o bedair gini, ac yn bygwth pe na bai unrhyw atgyweiriadau gofynnol gan y landlord yn cael eu gwneud, y byddai achos llys yn dilyn. Byddai achos llys yn cael ei ddwyn yn erbyn y tenant am dorri’r cyfamod a gynhwysir yn y brydles i gadw’r eiddo mewn cyflwr da.  Byddai fforffedu’r brydles a’r eiddo i’r landlord yn dilyn wedi hynny. Yn Nhrealaw 1937 roedd arian yn dynn, roedd llawer o gyllidebau aelwydydd yn ei chael hi’n anodd bwydo eu hunain a thalu’r rhent tir blynyddol, ychydig iawn o arian a oedd yn sbâr i dalu biliau swmpus i drwsio tai. Cynigiodd y Cwmni’r dewis amgen i’r tenant brynu rifersiwn rhydd-ddaliadol ei brydles (felly’n dod yn berchennog llawn ar yr eiddo), y pris prynu wedi ei bennu ar lefel rent tir o ddeng mlynedd ar hugain, tra mai pris y farchnad oedd tua dwy flynedd ar bymtheg. Derbyniodd y tenantiaid y llythyrau hyn yn ystod pythefnos olaf mis Ebrill a dim ond tan 12 Mai oedd ganddynt i ymateb i’r ‘cynnig coroni’ hwn – cynllun marchnata eironig.

Darparodd Anheddiad Maes-yr-haf un ffynhonnell o gefnogaeth ac, yn bwysicaf oll, bersonoliaethau oedd â chysylltiadau yn y byd ehangach er mwyn gallu cynorthwyo’r tenantiaid i wrthsefyll gobeithion y Cwmni o’u gyrru nhw fel defaid i brynu eu rhydd-ddaliadau am bris chwyddedig. Daeth wardeiniaid Maes-yr-haf a Gwersyll y Malthouse yn y Wîg yn fuan iawn yn rhan o sefydliad i amddiffyn buddiannau’r tenantiaid.

DMH-9 minutes

Ar 5 Mai cynhaliwyd cyfarfod agoriadol o Gymdeithas Lesddeiliaid Trealaw, gan sefydlu cyfansoddiad ac amcanion, ac eto gan adael y broblem o ran y ffordd orau o fynd i’r afael â’r ymgyrch yn erbyn y Cwmni o Lundain. Er bod sefyllfa gyfreithiol y Cwmni yn gryf, roedd yn cynnwys elfen o fygythiad gwag, gan na allai yn realistig gynnal arolygon dadfeilio a dwyn achosion llys yn erbyn pob un o’r 1,700 o denantiaid ar ystâd Trealaw. Roedd posibilrwydd y byddai achos prawf yn cael ei ddwyn yn erbyn tenant unigol felly dechreuodd y wardeiniaid ddefnyddio eu cysylltiadau o fewn y byd cyfreithiol a gwleidyddol gyda rhywfaint o frys i gefnogi achos y tenantiaid.  Mae cyfres o lythyrau yn y ffeil yn dangos George Davies, Warden y Bragdy yn y Wig, yn gofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr cyfeillgar ac yn ysgrifennu at Ursula Cripps, merch-yng-nghyfraith i AS blaenllaw meinciau cefn y Blaid Lafur, Syr Stafford Cripps, yn gofyn iddi ‘wneud tro da iawn â’r Rhondda’ drwy anfon memorandwm ar ystâd Trealaw at Syr Stafford.

DMH-9 Ursula Cripps

Roedd y cyngor cyfreithiol yn unfrydol, fel y nododd Syr Stafford Cripps yn anobeithiol ar 12 Mai:

This practice has been adopted in one or two cases and unfortunately, these people know the law pretty well and plan their moves carefully. It is of course a terrible way of dealing with property but it is within the law and only a strike or public protest of tenants can do anything to avert it’.

Ni allai’r gyfraith bresennol helpu, dim ond pwysau gwleidyddol yn deillio o ymgyrch gyhoeddus a ymddangosai fel pe bai’n cynnig ffordd ymlaen. Daeth Syr Stafford i’r casgliad:

‘I am sorry I can’t be more helpful, it’s this perfectly awful system under which we live.

Roedd Anheddiad Maes-yr-haf mewn sefyllfa anodd, roedd llwyddiant yr Anheddiad yn dibynnu ar gadw draw o wleidyddiaeth bleidiol, ac eto roedd ei ddau warden yn dechrau cymryd rhan mewn ymgyrch gyhoeddus. Denodd yr Anheddiad gefnogaeth o bob rhan o’r sbetrwm gwleidyddol, gan gynnwys Ceidwadwyr fel Henry Brooke, darlithydd yn yr Anheddiad, 1927-28, ac yn ddiweddarach yn Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol, Rhyddfrydwyr fel Alexander Lindsay, Meistr Coleg Balliol, Rhydychen, a Chadeirydd Pwyllgor Maes-yr-haf, 1926-50, a gwleidyddion Llafur lleol fel William Henry Mainwaring,  AS Dwyrain Rhondda, a William John, AS Gorllewin Rhondda. Roedd gan fater lesddeiliaid Trealaw y potensial i beryglu cymeriad anwleidyddol yr Anheddiad.

Datgelir arwydd o’r anawsterau hyn mewn llythyr heb ei ddyddio, a ysgrifennwyd yn ôl pob tebyg yn wythnos gyntaf Mai 1937, gan William Noble i Arthur Charles, Cadeirydd Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw:

: ‘I had talked over with George Davies the possibilities of trying a policy of reconciliation before publicity, but George was for publicity. I am sure it is right to go and try to persuade people who are doing wrong to do right, but it will clash with Mainwaring’s policy of raising it in The House.’

Roedd William Noble yn llai tueddol o weithredu’n ymosodol na’i gydweithiwr George Davies, roedd yn dal i obeithio y gellid dwyn perswâd ysgafn. Sylweddolodd ei fod yn ceisio mynd dwy ffordd ar unwaith:

‘The right thing is to keep it all in touch and not allow [the] 2 methods to become contradictory’

Roedd gan rannau eraill o’r wlad, yn enwedig yn Birmingham a Llundain, achosion tebyg o ystadau prydlesol yn cael eu hecsbloetio gan syndiciaethau ariannol a arweiniodd at ddigon o gefnogaeth yn y Senedd i F.W. Higgs, AS Ceidwadol Gorllewin Birmingham, noddi Bil Aelod Preifat i ddiwygio’r gyfraith. Rhoddodd y Bil amddiffyniad i denantiaid rhag bod landlordiaid yn manteisio’n fympwyol ar gyfamodau atgyweirio mewn prydlesi drwy roi’r hawl iddynt wneud cais i’r llysoedd i’w hamddiffyn rhag gorfodaeth gyfreithiol o’r fath, a chaniatáu i’r llysoedd ddyfarnu pa atgyweiriadau y gellid eu hystyried yn rhesymol ai peidio. Cyflwynwyd y Bil ym mis Chwefror 1938 a chafodd gefnogaeth gan bob ochr i Dŷ’r Cyffredin.  Yn ystod dadl yr Ail Ddarlleniad, siaradodd Syr Reginald Clarry, AS Ceidwadol Casnewydd, a William Henry Mainwaring, AS Llafur Dwyrain Rhondda (a’i etholaeth yn cynnwys Trealaw), o blaid y Bil. Nid yw ffeil Maes-yr-haf yn cynnwys unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i ddangos os bu i William Noble neu George Davies friffio ASau unigol cyn y ddadl, ond mae manylion araith Mainwaring ynghylch ystâd Trealaw yn awgrymu y gallent fod wedi gwneud hynny. Yn anffodus, ychydig o bapurau yn y ffeil sy’n ymwneud â thaith y Bil ac mae’n anodd asesu pa mor weithgar yr oedd Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw yn ymgyrchu. Ysgrifennodd William Noble femorandwm dyddiedig 18 Ionawr at yr holl ASau i gefnogi’r Bil, a gohebodd â nifer o ASau amdano tan fis Mai. Gwnaeth y Bil gynnydd cyson a daeth yn gyfraith ar 23 Mehefin 1938 fel Deddf (Atgyweiriadau) Eiddo Prydlesol 1938.

Nid oedd Deddf 1938 yn dileu’r chwerwder a deimlid gan lawer o denantiaid yn erbyn y system o berchnogaeth brydlesol, a barhaodd yn broblem yn ne Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Ond mae hanes Cymdeithas Lesddeiliaid Trealaw a Deddf (Atgyweiriadau) Eiddo Prydlesol 1938 yn rhan fach o hanes y Rhondda, sy’n dangos sut y gallai Anheddiad Maes-yr-haf ymgyrchu dros y gymuned leol a wasanaethai. Rhoddir dimensiwn lleol i ddarn o ddeddfwriaeth genedlaethol, ac mae’n dangos sut y gallai’r tenantiaid di-waith a diymadferth yn Nhrealaw barhau i leisio eu barn yn San Steffan, i’r graddau y newidiwyd y gyfraith yn eu sgil.

Ymgyrchu dros y Rhondda Rhan 1: Anheddiad Maes-yr-Haf, Trealaw

Ysgrifennodd John Evans, glöwr di-waith, yn The Listener ar gyfer 25 Ebrill 1934 cyfrif personol o gyflwr digalon Cwm Rhondda yn ystod y dirwasgiad mawr yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Nododd:

“Mae pobl yn aml yn gofyn i ni, pwy sydd allan o waith, sut rydyn ni’n ymdopi. Wel mae’r ateb yn hawdd.  Rydym yn ymdopi drwy fynd heb. Mae’n debyg eich bod wedi clywed sut y mae’n rhaid inni ymdopi drwy grafu ynghyd ychydig o esgyrn a dail bresych a hyn a’r llall, ac yn y blaen, i wneud cinio, ond tybed a wyddoch am yr effaith y mae brwydr front o’r math hwn yn ei chael ar feddyliau pobl, ar wahân i’r effaith ar eu cyrff. Nid yw’n fater o’r “di-waith yn ei chael hi’n anodd cael deupen y llinyn ynghyd”, ond o ddynion a menywod yn straffaglu i gael byw.’

Yr anobaith economaidd a chymdeithasol llethol hwn a arweiniodd at sefydlu Anheddiad Maes-yr-haf fel ymgais ymarferol i weithredu addysgu cymdeithasol Cristnogol ymhlith glowyr di-waith y Rhondda. Yn dilyn cyrchoedd cymorth brys a drefnwyd gan Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr), yn ystod streic glo chwerw 1926, daeth nifer o Gyfeillion amlwg gan gynnwys Emma Noble, Cynghorydd Llafur o Swindon, a Dr Henry T. Gillet o Rydychen, yn argyhoeddedig o’r angen am gymorth o fath mwy parhaol i Gwm Rhondda. Drwy aeaf 1926-27, datblygodd y syniad yn gyflym i sefydlu Anheddiad Cymdeithasol yn cael ei gynnal ar batrwm y Crynwyr yn y Rhondda a ffurfiwyd pwyllgor o dan gadeiryddiaeth Alexander Lindsay, Meistr Coleg Balliol, Rhydychen, ym mis Ionawr 1927 i gasglu arian i sefydlu Canolfan Addysgol ac Anheddiad Cymdeithasol. Codwyd yr arian yn gyflym a phrynwyd tŷ Fictoraidd mawr o’r enw Maes-yr-haf yn Nhrealaw.  Symudodd Wardeniaid cyntaf yr Anheddiad, William ac Emma Noble, i Faes-yr-haf ym mis Ebrill 1927; roeddent i aros yno tan 1945.

DMH-12-4

Tu fewn i Dŷ Maes-yr-Haf, 1928 (DMH/12/4)

Newidiodd cymeriad Anheddiad Maes-yr-haf yn gyflym o waith cymorth uniongyrchol yn ddosbarthu bwyd a dillad i sefydlu canolfan addysgol a chymdeithasol o bwys ar gyfer ardal Trealaw. Trefnodd yr Anheddiad ystod eang o ddosbarthiadau ar gyfer pobl ddi-waith a’u teuluoedd o’r ‘athroniaeth foesol’ haniaethol i hunangymorth mwy ymarferol y canolfannau trwsio esgidiau a reolid yn gydweithredol.

DMH-12-40

Ymarfer côr, 1930s (DMH/12/40)

Ehangodd gweithgareddau’r anheddiad i gynnwys llawer o weithgareddau diwylliannol, addysgol a hamdden yn amrywio o glybiau drama a cherddoriaeth i redeg gwersyll gwyliau i’r di-waith mewn bragdy wedi’i addasu yn y Wîg.

DMH-12-13

Gardd y bragdy, y Wîg, 1934 (DMH/12/13)

Gwnaed ymdrechion i hyrwyddo cyflogaeth ar raddfa fach, ym Maes-yr-haf roedd y rhain yn cynnwys rhandiroedd, ffermio dofednod, crochenwaith a gweithdai gwehyddu.

DMH-12-17

Dwy fenyw wrth rodau nyddu tu allan i’r shed gwehuddu, Maes-yr-haf, 1934 (DMH/12/17)

Rhwng 1914 a 1957 darparodd Diwydiannau Maes-yr-haf ar gyfer yr Anabl gyflogaeth i bobl leol ag anabledd, gan gynhyrchu dodrefn i ddechrau ac yna flychau dŵr mwynol Corona yn ddiweddarach. Daeth Maes-yr-haf yn enghraifft drawiadol o’r hyn y gallai Anheddiad Cymdeithasol gwirfoddol ei gyflawni.

DMH-12-49

Gweithdy diwydiant i’r anabl, 1950 (DMH/12/49)

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwelodd y cynnydd cyffredinol mewn safonau byw a chreu’r wladwriaeth les ar ôl y rhyfel y cyfrifoldeb am lawer o’r gwasanaethau addysgol a chymdeithasol a arloeswyd gan Maes-yr-haf yn cael eu trosglwyddo fwyfwy i lywodraeth ganolog a lleol. Erbyn diwedd y 1960au daeth Pwyllgor Maes-yr-haf i’r casgliad bod cynifer o amcanion gwreiddiol yr Anheddiad wedi’u cyflawni, ac yn sgil amodau cymdeithasol llawer gwell y cyfnod, ei bod yn briodol i’r Anheddiad gael ei ddirwyn i ben. Wedi trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Rhondda a Chyngor Sir Morgannwg gwerthwyd safle’r Anheddiad i Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1971. Defnyddiwyd elw’r gwerthiant i sefydlu Ymddiriedolaeth Addysgol Maes-yr-haf a ddosbarthodd ei hincwm am flynyddoedd lawer ymhlith sefydliadau fel Sefydliad y Merched a Grwpiau Chwarae a oedd wedi defnyddio neu a oedd yn gysylltiedig â’r Anheddad blaenorol. Mae safle Maes-yr-haf yn gwasanaethu fel Canolfan Gymunedol.

Mae cofnodion Anheddiad Maes-yr-haf yn Archifau Morgannwg yn cynnwys cofnodion Pwyllgor Maes-yr-haf, 1927-71, adroddiadau blynyddol, 1921-71, cyfrifon, 1931-71 a chyfres o ffeiliau a gafodd eu cadw gan William Noble, warden Maes-yr-haf, o 1921 i 1945. Mae’r ffeiliau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sefydlu Maes-yr-haf, gwersyll gwyliau’r Malthouse, addysg i bobl ddi-waith a Chymdeithas Lesddeiliaid Trealaw. Dengys ffotograffau lawer o weithgareddau’r Anheddiad, gan gynnwys Clwb Gwnïo’r Merched (1926), adennill glo o domennydd rwbel glofeydd (1935), ymweliad Syr Stafford Cripps â Maes-yr-haf (1941) ac ymweliad parti rhyngwladol o fyfyrwyr â’r Anheddiad (1967). Mae’r casgliad yn cynnwys hanes manwl yr Anheddiad a ysgrifennwyd gan Barrie Naylor, warden Maes-yr-haf o 1945 i 1971, ‘Quakers in the Rhondda’. Mae’r llyfr hwn, sy’n amhrisiadwy ar gyfer paratoi’r erthygl hon, yn adroddiad cynhwysfawr o darddiad a datblygiad yr Anheddiad.