Cadw Gwaed Morgannwg ar Wydr

figure 1

Mae casgliad y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Archifau Morgannwg yn cynnwys llawer o negatifau ffotograffig ar blatiau plastig a gwydr.

figure 2

Yn y negatifau plât gwydr, rhyw 5440 ohonyn nhw i gyd, mae pob math o bethau gan gynnwys lluniau o dwneli, glowyr wrth eu gwaith, offer, merlod y pyllau glo, canolfannau meddygol, digwyddiadau cymdeithasol a chynnwys amrywiol arall.

figure 3

Yn rhan o broject Gwaed Morgannwg, caiff y lluniau hyn eu catalogio, eu glanhau, eu digideiddio, eu cadw a’u hailgartrefu er mwyn i’r cyhoedd eu gweld nhw.

figure 4

Dim ond glanhau sydd ei angen ar y rhan fwyaf o’r negatifau plât gwydr cyn cael eu digideiddio, ond mae mwy o ôl traul ar eraill.    Mae nifer o’r platiau wedi torri, neu mae’r emylsiwn wedi codi neu ddifrodi (Llun 5). Bydd angen rhagor o ddatrysiadau tai mwy cefnogol neu driniaeth gadwraeth fwy dwys.

figure 5

Llun 5

Rhaid glanhau negatifau plât gwydr sydd heb eu difrodi cyn eu digideiddio a’u hailgartrefu.  Mae baw ar yr eitemau hyn yn gallu peri i’w cyflwr waethygu dros y tymor hir a gall fod yn weladwy ar y ddelwedd ddigidol.    Mae’n bwysig glanhau’r platiau hyn yn drwyadl cyn dechrau ar unrhyw gamau eraill o’r broses gadw.

I lanhau’r platiau, mae teclyn chwythu aer yn symud llwch a baw rhydd ar ochr yr emylsiwn ac ar ochr y gwydr.  Drwy ddefnyddio’r offeryn hwn, mae modd glanhau ochr emylsiwn y plât heb risg o grafu’r llun.  Nesaf, defnyddir ffyn gwlân cotwm wedi’u lapio mewn papur sidan, a’u trochi mewn cymysgedd o ddŵr ac ethanol i dynnu llwch a saim o ochr wydr y platiau.  Mae olion yn cael eu tynnu â ffon gwlân cotwm sych.

figure 6

Llun 6

Mae’r platiau glân yn cael eu hailgartrefu mewn ffolderi wnaed o ddeunydd sy’n bodloni safonau’r Prawf Gweithgarwch Ffotograffig.    Rydym ni’n defnyddio ffolderi o feintiau gwahanol ar gyfer platiau sydd mewn fformatau amrywiol yn ôl yr angen (Llun 6). Câi’r eitemau hyn eu cadw mewn amlenni papur gwydr yn wreiddiol, sy’n fath o bapur caboledig sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cadw negatifau ffotograffig. Mae papur gwydr yn ddeunydd cadw amhriodol gan ei fod yn melynu gyda threigl amser a gall ddifrodi’r emylsiwn ffotograffig (Llun 7).

figure 7

Llun 7

Ar ôl eu glanhau, mae’r platiau’n cael eu sganio ac mae delwedd bositif yn cael ei chreu.  Mae hwn wedyn yn cael ei ychwanegu at gatalog yr Archifau.

figure 8

Llun 8

Mae angen cadw negatifau platiau gwydr sydd wedi torri mewn cas sy’n cadw’r darnau mân ac sydd hefyd yn eu cadw ar wahân er mwyn sicrhau na chaiff yr emylsiwn bregus ei ddifrodi wrth i’r teilchion gwydr gyffwrdd.  Mae’r cas newydd yn cynnwys sbwng plasterzote o fewn amgaead cerdyn sydd heb ei fyffro.    Mae’r cas newydd hwn yn ei gwneud hi’n bosibl cadw’r negatifau’n ddiogel a’u gweld  yn ôl yr angen heb dynnu’r teilchion unigol (Lluniau 8 a 9). Mae modd defnyddio’r cas syml hwn i gadw’r negatifau dros dro neu dros y tymor hir a pharhau i’w trin a’u hadfer eto yn y dyfodol.

Figure 9

Llun 9

Bydd y negatifau sydd wedi’u difrodi’n cael eu sganio a’u digideiddio, a bydd hynny’n lleihau’r angen i’w cyffwrdd ac yn sicrhau bod modd i’r cyhoedd weld y delweddau gwych hyn.

Stephanie Jamieson, Cadwraethwr Prosiect Glamorgan’s Blood

Advertisements

“Gofynna i dy fêt olchi dy gefn”: Baddonau Pen y Pwll ym Maes Glo De Cymru

DNCB79_8_188

DNCB/79/8/188: Tri glöwr dienw, Agor Baddon Caerau, 6 Maw 1954

Wrth i’r prosiect Glamorgan’s Blood barhau, mae deunydd yn ymwneud â baddonau pen y pyllau glo yn dod i’r amlwg yng nghasgliad Archifau Morgannwg.

DNCB66-197

DNCB/66/197: Baddonau Pen y pwll, Treharris, Golwg gyffredinol o faddonau pen y pwll, tua 1921

Roedd baddonau pen y pwll, a gyflwynwyd yn y 1920au, o fudd mawr i’r bobl oedd yn gweithio ym maes glo de Cymru. Cyn baddonau pen y pwll, byddai glowyr yn mynd adre o’r gwaith mewn dillad brwnt, yn wlyb diferu â dŵr a chwys. Roedd hyn yn ychwanegu at beryglon eu gwaith oherwydd byddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o drosglwyddo salwch. Daeth baddonau pen y bwll â rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn y fath afiechydon, gyda chawodydd a chyfleusterau newid yn caniatáu i’r glowyr fynd adre mewn dillad glân a sych. 1

Nid oedd yn rhaid i’r glowyr olchi yn ystafell fyw y teulu mwyach – byddai gwraig y glöwr yn paratoi bath ac yn glanhau a golchi ei ddillad brwnt. Byddai hyn yn dod â dwst glo a budreddi i mewn i gartref y teulu. Roedd y gwaith o baratoi dŵr y bath hefyd yn beryglus i deulu’r glöwr:

…many children were badly scalded – and often died – as a result of falling into prepared bath water or upsetting water which was being boiled in readiness for the bath. One south Wales coroner claimed that he conducted more inquests into the deaths of children who were scaled than he did into miners who were killed underground. 2

DNCB66-3

DNCB/66/3: Glöwr yn y baddon, Penalltau, tua 1930

Un o’r prif gasgliadau sy’n cynnwys gwybodaeth am Faddonau Pen y Pwll yw casgliad cynlluniau adeiladu’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Fel rhan o’r prosiect Glamorgan’s Blood, mae’r archifydd a gwarchodwr y prosiect wrthi’n gweithio gyda’i gilydd i gatalogio’r deunydd a’i asesu i nodi’r gofynion trin a storio.

DNCB-14-2-10 Abercynon Pithead Baths cropped compressed

DNCB/1/4/2/10: Baddonau Pen y Pwll Abercynon, Ebr 1950

Mae meintiau, prosesau a deunyddiau amrywiol y casgliad hwn yn her o safbwynt cadwraeth ac o ran gofynion storio, mynediad at ddeunydd a chadwraeth hirdymor. Mae’r cynlluniau ar gyfer baddonau pen y pwll yng nghasgliad y Bwrdd yn dangos amrywiaeth o dechnegau a phrosesau gwahanol ar gyfer cynhyrchu darluniau pensaernïol.  Diazoteipiau, glasbrintiau a darluniau pensil ac inc sy’n ymddangos gan amlaf, ar amrywiaeth o swbstradau.  Mae enghreifftiau o brintiau golchi, lithograffau jél a phrintiau halid arian hefyd i’w gweld yn y casgliad, sy’n dod â heriau cadwraeth gwahanol.  Yr her gadwraeth flaenllaw yw’r cymhorthion asetad sydd wedi dirywio a ddefnyddiwyd fel deunydd amlinellu ac fel negydd i greu cynlluniau dyblyg. Maent i’w gweld yn y casgliad hwn fel sylfaen i ddarluniau pensil ac inc a diazoteipiau. Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau asetad hyn yn dangos dirywiad plastig datblygedig ar ffurf breuo sydd wedi achosi iddynt gracio a malu, sy’n golygu eu bod yn amhosibl i’w cynhyrchu yn yr ystafell chwilio.  Digideiddio fydd yr unig ffordd o sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael, gan nad oes llawer o opsiynau o ran triniaeth cadwraeth a chadwraeth hirdymor y math hwn o ddeunydd.

DNCB-60-65-4 shattered plan 2 cropped

DNCB/60/65/4: Enghraifft o Gynllun Wedi Malu, Asetad, 1951

Mae’r cynlluniau’n dangos baddonau pen y pwll o byllau glo ledled de Cymru, yn dyddio rhwng y 1930au a’r 1970au. Drwy gynlluniau llawr, cynlluniau safle a golygon, gall ymchwilwyr weld pa gyfleusterau oedd ar gael i weithwyr y pyllau glo, gan gynnwys mynedfeydd glân a brwnt ar wahân a loceri, cawodydd, ardaloedd glanhau sgidiau, canolfannau triniaeth feddygol a ffreuturau. Wedi gwladoli, daeth y cyfleusterau hyn yn ‘ddarn hanfodol o offer cynhyrchu’, a bydd y cynlluniau a’r deunydd arall yng nghasgliad Archifau Morgannwg yn sicrhau bod yr adeiladau hyn, sydd wedi diflannu i bob pwrpas o dirwedd de Cymru, yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

DNCB-1-4-13-2&3 Cwm PHB cropped compressed

DNCB/1/4/13/2-3: Golygfeydd o Faddonau Pwll Glo Cwm, Meh 1952

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

Stephanie Jamieson, Gwarchodwr Prosiect Glamorgan’s Blood

  1. Evans, Neil; Jones, Dot, ‘A Blessing for the Miner’s Wife: the campaign for pithead baths in the South Wales coalfield, 1908-1950’, Llafur : Journal of Welsh Labour History, t.7
  2. Evans, Neil; Jones, Dot, t.6

Streic y Glowyr, 1984/5

Wrth i gatalogio fynd rhagddo ar Broject Gwaed Morgannwg, mae amrywiaeth y deunyddiau sydd yn y casgliad yn dod fwyfwy i’r amlwg, o adroddiadau am ddamweiniau marwol i gofnodion am y rhaglen i gau’r glofeydd. Mae un o’r setiau diweddaraf o gofnodion i’w catalogio yn ymwneud â streic y glowyr 1984/5. Roedd y streic yn drobwynt yn hanes meysydd glo De Cymru a’r DU ac fe lwyddodd gwleidyddiaeth y streic i rannu cydweithwyr, cyfeillion a theuluoedd.

1. DNCB64-18 Strike breaker

Clawr blaen ‘The Miner’, Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 1929, yn dangos llun o’r heddlu yn hebrwng yr unig dri dyn oedd yn gweithio ym Mlaengarw yn ystod anghydfod anundebol.  Defnyddiwyd y llun yma fel poster – ‘A Strike Breaker is a Traitor’ – gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr Ardal De Cymru yn ystod streic 1984-85 [DNCB/64/18]

Mae modd defnyddio papurau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol sydd yn Archifau Morgannwg i ddangos effaith y streic ar bob ochr: y Bwrdd Glo ei hun, y rheiny oedd ar streic a’r rheiny a ddewisodd ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y streic.

Mae modd gweld effaith y streic ar y Bwrdd Glo drwy gyfrwng papurau megis cofnodion yn ymwneud â diogelwch a chynnal a chadw pyllau yn ystod y streic a phapurau yn ymwneud â cholledion ariannol yn ystod y streic. Mae papurau yn ymwneud â’r blaenoriaethau y byddai’n rhaid mynd i’r afael â nhw ar ôl i’r streic ddod i ben megis cyflenwad o ddillad gwaith, stociau yn y ffreuturau ac atgyweirio boelerydd yn y baddonau, yn dangos effaith gorfforol y streic ar byllau unigol a’r gwaith oedd angen ei gyflawni er mwyn adfer lefelau cynhyrchiant llawn. Mae’r cylchlythyron a gyhoeddwyd yn genedlaethol yn dangos y technegau roedd y Bwrdd Glo yn eu defnyddio i geisio cael pobl nôl i’r gwaith, gyda chylchlythyron a gyhoeddwyd i’r glowyr gan y Cyfarwyddwr Rhanbarthol Philip Weekes a chan reolwyr glofeydd unigol.

rsz_2_dncb-67-1-17-18_coal_news

Clawr blaen ‘Coal News’, Maw 1985. Defnyddiwyd ystadegau ar lowyr yn dychwelyd i’r gwaith i annog y rheini oedd dal ar streic i ddychwelyd i’r gwaith [DNCB/67/1/17/18]

Mae modd gweld barn y gweithwyr ar streic trwy gyfrwng yr ohebiaeth â’r NUM yn ymwneud â thrafodaethau ar y streic a thelerau Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Mae pamffledi yn y casgliad yn rhoi argraff fyw o farn y glowyr ar streic, gydag iaith gref ac emosiynol yn cael ei defnyddio i gyflwyno safbwynt yr NUM, mewn posteri megis yr un â’r teitl ‘A Strike Breaker is a Traitor’.

rsz_3_dncb-67-1-32_num_leaflet

Taflen Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn rhestri resymau pam dyled cefnogi’r streic [DNCB/67/1/32]

Mae gohebiaeth gydag Undeb y Glowyr hefyd yn dangos eu hymdrechion i geisio amnest i lowyr a ddiswyddwyd yn ystod y streic am weithgareddau yn ymwneud â’r streic, gyda rhestrau yn dangos gweithredoedd streicwyr, niferoedd yr achosion allasai fod wedi arwain at ddiswyddiad a niferoedd y glowyr a ail-sefydlwyd ac a  ailgyflogwyd.

Mae’r cofnodion hefyd yn dangos barn y rhai hynny nad oedd yn gefnogol i’r streic, trwy gyfrwng llythyrau a yrrwyd at y Bwrdd Glo gan unigolion a glowyr, a phamffledi yn erbyn y streic. I’r rhai hynny a ddewisodd ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y streic, mae gohebiaeth o fewn y casgliad yn cynnig mewnwelediad i’r cam-drin meddyliol a chorfforol a wynebwyd gan rai glowyr wedi dychwelyd i’r gwaith. Mae mwy nag un glöwr yn disgrifio cael ei ‘yrru i’r diawl’ gan ei gydweithwyr ac mae cofnodion o enghreifftiau o fygwth unigolion, eu teuluoedd ac eiddo. Arweiniodd y modd y cafodd y dynion hyn eu trin i lawer geisio cael trosglwyddiad i bwll glo arall neu i wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.

rsz_4_dncb-67-1-17-1_democratic_working_miners

‘The Working Miners’ Newsletter’, cyhoeddwyd gan ‘Democratic Working Miners of the NUM’ [DNCB/67/1/17/1]

Yn gyffredinol mae’r papurau hyn yn rhoi mewnwelediad i adeg tyngedfennol a chaled yn hanes Maes Glo De Cymru. Bydd gweld y papurau hyn ochr yn ochr â deunyddiau eraill yng nghasgliad Archifau Morgannwg, megis (ond heb ei gyfyngu i) papurau Grwpiau Cefnogi Merched De Cymru (DWSG); papurau’r Cynghorydd Ray T Davies, y trysorydd ar gyfer Grŵp Cefnogi Streic y Glowyr (D316); dyddiadur 1984/5 William Croad, Uwch Swyddog Rheoli yng Nglofa Lady Windsor, Ynysybwl (D1174/1); Cofnodion Cronfa Glowyr Aberdâr (D1432), a thoriadau papur newydd ar y streic yng Nghofnodion Heddlu De Cymru (DSWP/49/7), yn galluogi ymchwil i fynd rhagddo i bob agwedd ar y streic.

Louise Clarke, Archifydd Prosiect Glamorgan’s Blood

 

Mapiau o Faes Glo De Cymru

Mae Archifau Morgannwg yn falch o gyflwyno dau gyhoeddiad newydd sydd wedi’u llunio i ddathlu ein pen-blwydd yn 75 oed.I gyd-daro â 30 mlwyddiant streic y glowyr 1984, mae dau fap ffacsimili o Faes Glo De Cymru wedi’u hargraffu, sy’n atgynyrchiadau o’r mapiau poblogaidd a werthwyd gan yr Archifau yn y flwyddyn 2000.

Map o Faes Glo De Cymru

Map o Faes Glo De Cymru

Fe’u cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Gwmni Ystadegau Busnes Caerdydd, ac maent yn dyddio o 1923 a 1927. Maen nhw’n fanwl iawn ac wedi’u cyhoeddi mewn lliw sy’n dangos echdyniadau mwynol stêm a haenau bitwminaidd, eiddo glo carreg, y rheilffyrdd a oedd yn gwasanaethu’r ardal a phorthladdoedd.

Map o Faes Glo De Cymru

Map o Faes Glo De Cymru

Maen nhw ar gael i’w prynu am £6.00 yr un neu £10.00 am y ddau.Codir £2.00 am gostau pacio a phostio yn y DU. Cysylltwch â ni os hoffech archebu copi o un o’r mapiau neu’r ddau ohonynt.