Beth ddigwyddodd i Ddydd Mabon?

Ymhlith y casgliad yn Archifau Morgannwg mae detholiad o bosteri theatr gwreiddiol a gynhyrchwyd ar gyfer y Theatre Royal, Caerdydd, ar ddiwedd y G19. Wedi ei leoli ar gornel Stryd Wood a Heol Eglwys Fair, safle a feddiannwyd yn ddiweddarach gan Theatr Tywysog Cymru, adeiladwyd y Theatre Royal ym 1878.  Ar ei hanterth fe ddaliai 2000 o bobl mewn awditoriwm o felfed coch moethus. Dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 18851 1995, mae’r posteri yn dangos amrywiaeth o gynyrchiadau yn y theatr, o’r pantomeim blynyddol i berfformiadau gan gwmni opera D’Oyly Carte. Maen nhw nawr ar gael i’w gweld ar-lein – ewch i wefan Archifau Morgannwg (www.archifaumorgannwg.gov.uk), dewis yr opsiwn ‘Y Casgliad’ a chwilio am y ‘Theatre Royal’. Bydd y cyfeirnodau yn dechrau gyda’r rhagddodiad D452. Dewiswch a chliciwch ar un o’r cyfeirnodau i’r posteri ac fe ddylech weld copi digidol o’r poster ar waelod y dudalen. Yn aml yn lliwgar iawn, maent yn rhestru gyda chryn fanylder, y perfformwyr yn y theatr. Ar ben hynny, maent yn aml yn cynnwys trefniadau, megis trenau arbennig, a amserlenwyd er mwyn denu pobl o bob cwr o dde Cymru i’r perfformiadau yng Nghaerdydd.

D452-4-22

Os edrychwch yn ofalus ar nifer o’r posteri o 1888 ymlaen fe welwch gyfeiriadau at berfformiadau ar ‘Ddydd Gŵyl Mabon’. Mae’n un o’r ychydig gyfeiriadau welwch chi yn yr Archifau at ddiwrnod o wyliau sydd wedi ei hen anghofio ond a fwynhawyd gan lawer ar hyd a lled de Cymru. Dydd Gŵyl Mabon oedd y dydd Llun cyntaf ym mhob mis. Roedd yn ganlyniad cytundeb rhwng yr undebau llafur a’r perchnogion glo y byddai’r pyllau yn cau ar ddydd Llun cyntaf y mis a bod y diwrnod i gael ei ddatgan yn ddiwrnod o wyliau. William Abraham a fu’n gyfrifol yn ôl y sôn, yn adnabyddus yn ôl ei enw barddol sef Gwilym Mabon. Wedi ei eni ym 1842 yng Nghwmafan, gweithiodd Abraham mewn pyllau glo a gweithiau tun lleol er pan oedd yn 10 oed.  Yn aelod undeb llafur ac yn un a brofodd lawer o anghydfodau gyda’r perchnogion glo, etholwyd Abraham yn Aelod Seneddol ar gyfer y Rhondda ym 1885. Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ym 1898, ef oedd Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru.

Abraham oedd yr un a arweiniodd yr ymgyrch lwyddiannus dros Ddydd Gŵyl Mabon, a ddathlwyd gyntaf ym 1888. Ei ddadl oedd bod gwaith y pyllau glo mor galed yn gorfforol nad oedd gan y glowyr fawr ddim amser nac egni ar gyfer gweithgareddau eraill ac, yn benodol, addysg bellach a’r celfyddydau. Dathlwyd Dydd Gŵyl Mabon am ddeng mlynedd ar hyd a lled de Cymru. Roedd y Theatre Royal yn un o lawer a geisiodd ddenu’r glowyr a’u teuluoedd drwy gynnal perfformiadau arbennig ar Ddydd Llun.

D452-6-16

Os edrychwch chi ar bosteri a gynhyrchwyd ar gyfer y Pantomeim blynyddol rhwng 1890 i 1892 roedden nhw i gyd yn cynnwys perfformiadau ar gyfer Dydd Gŵyl Mabon ar ddydd Llun cyntaf mis Ionawr a Chwefror. Yn y rhan fwyaf o achosion golygai hynny ddau berfformiad yn ystod y dydd ac fe drefnwyd trenau yn arbennig, gyda chyfle i brynu tocyn theatr a thrên mewn gorsafoedd ar linellau rheilffyrdd y Taff Vale a’r Rhymni. Mae’n ymddangos fod y pencampwr clocsio, Tom Leamore, yn ‘Pretty Little Red Riding Hood’ a’r bale o 50 o foneddigesau yn ‘Merrie Little Dick Whittington and his Cat’ yn sicr o ddenu’r torfeydd ar Ddydd Gŵyl Mabon. Yr hyn sydd yn llai eglur yw faint o bobl wnaeth daith debyg i wylio cynhyrchiad cwmni opera D’Oyly Carte o’r ‘Gondoliers or the King of Barataria’ ar Ddydd Llun 7 Gorffennaf 1890.

Erbyn 1899 roedd Dydd Gŵyl Mabon wedi ei sgubo o’r neilltu. Dwedodd rhai, ychydig yn annheg efallai, fod yn well gan lowyr y tafarndai a’r theatrau na’r ystafell ddosbarth a’r amgueddfa. Y gwir amdani yw bod y perchnogion glo yn ystyried y diwrnod yn ddiwrnod o golli cynhyrchiant. Roedd colli Dydd Gŵyl Mabon ond yn un o ganlyniadau’r trefniant a roes derfyn ar y cloi allan a weithredwyd gan y perchnogion glo yn ystod streic y glowyr ym 1898.  Un o ganlyniadau’r streic oedd cydnabyddiaeth o’r angen i wella trefniadaeth undebol drwy ffurfio Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Fodd bynnag, digwyddodd hyn yn rhy hwyr i Ddydd Gŵyl Mabon. Flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai rhai yn haeru, â thafod yn eu boch, fod cymryd diwrnod bant o’r gwaith nad oedd wedi ei awdurdodi, yn ‘cymryd diwrnod Mabon’. Rwy’n amau a fyddai Mabon wedi cymeradwyo.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg