Y 75ed eitem a dderbyniwyd yn 2000 oedd catalog o arglwyddiaethau maenorau i’w gwerthu drwy arwerthiant drwy orchymyn Prifysgol Cymru (cyf.: DX994/1).
Ar 6 Gorffennaf 2000, cynhaliodd Phillips International arwerthiant o 13 o deitlau “arglwydd y faenor”, gyda phob un yn cynnwys arfbais ond dim tir, ar ran Prifysgol Cymru. Etifeddwyd y teitlau a’r tir cysylltiedig o’r Eglwys yng Nghymru yn dilyn datgysylltu’r eglwys ym 1914 pan ddaeth y brifysgol yn ymddiriedolwr ar gyfer ystad yr eglwys. Aeth yr elw i’r brifysgol ei hun, i bedwar coleg y brifysgol yn Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma oedd yr olaf o bedwar arwerthiant a gynhaliwyd gan y Brifysgol ers 1984, a gwerthwyd 30 o deitlau yn flaenorol am gyfanswm o tua £200,000. (Ref: http://www.timeshighereducation.co.uk/news/wales-will-let-you-lord-it-for-just-pounds-30000/152285.article)
Un o’r arglwyddiaethau a oedd ar werth oedd maenor Tref Golych ym Morgannwg. Gellir prynu a gwerthu arglwyddiaethau maenorol, ond nid oes gan arglwydd newydd yr hawl awtomatig i gael y dogfennau sy’n ymwneud â’r faenor, oni bai eu bod wedi’u trosglwyddo iddo’n benodol. Dengys chwiliad drwy’r Gofrestr o Ddogfennau Maenorol fod cofnodion Maenor Tref Golych (a elwir hefyd Dyffryn Golych neu Worlton yn Saesneg, ac a leolwyd ym mhlwyf Llwyneliddion) yn cael eu cadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r Gofrestr yn nodi natur a lleoliad cofnodion maenorol ac yn cael ei chynnal gan yr Archifau Cenedlaethol. Gallwch chwilio am gofnodion sy’n ymwneud â Chymru yn:
http://www.nationalarchives.gov.uk/mdr/.
Nid yw’n gofrestr o deitlau arglwyddiaethau maenorol ac nid yw’n casglu gwybodaeth am berchenogaeth neu achau maenorau, ond gallwch gael gwybod lle y cedwir cofnodion maenorol. Mae’r cofnodion a restrir ar y Gofrestr yn cynnwys cofrestri llys, mapiau, tirlyfrau, a’r holl ddogfennau eraill sy’n ymwneud â ffiniau, detholfreintiau, difrodau, defodau neu lysoedd maenor. Nid yw Gweithredoedd Eiddo wedi’u cynnwys yn y Gofrestr.
Os hoffech gael gwybod mwy am ddefnyddio’r Cofnodion Maenorol ar gyfer hanes teuluol, hanes cymunedol a hanes plastai, ceir dau ganllaw defnyddiol i’ch rhoi chi ar ben ffordd:
http://www.lancaster.ac.uk/fass/projects/manorialrecords/using/local.htm
http://www.nationalarchives.gov.uk/records/research-guides/manorial-documents-register-lordships.htm