Y Ferch o Gefn Ydfa: Ffotograffau gan Edwin Miles o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae’r ffotograffau a ddewiswyd yr wythnos hon o gasgliad Edwin Miles yn cynnwys Eglwys Blwyf Llangynwyd, ychydig i’r de o Faesteg, y credir ei fod yn dyddio o’r 6ed ganrif. Tynnodd Edwin Miles ffotograffau o sawl eglwys ledled Morgannwg.  Ond mae’n debyg fod ganddo reswm arbennig dros dynnu’r pedwar llun o Langynwyd oherwydd, yn anarferol, fe ychwanegodd brint o baentiad o “Y Ferch o Gefn Ydfa”.

M301

Bydd y rhai sy’n gwybod eu hanes lleol yn gyfarwydd â stori’r “Ferch”. Roedd Ann Thomas mewn cariad â’r töwr a bardd Wil Hopcyn. Yn anffodus roedd ei theulu eisoes wedi cytuno y byddai’n priodi Anthony Maddox, mab i deulu lleol, ac ni chafodd Ann yr hawl i gyfarfod na chysylltu â Wil.  Yn groes i’w rhieni, ysgrifennodd yn gyfrinachol i Wil ac mae’r print yn darlunio Ann yn cuddio llythyr mewn boncyff coeden. Ond mynnodd ei theulu hi’r briodas a gadawodd Wil Llangynwyd yn y pen draw.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach aeth Ann, dim ond 23 oed, yn sâl, meddai rhai oherwydd yr oedd ei chalon wedi torri. Er i Wil ddychwelyd i fod wrth ei hochr, bu farw yn ei freichiau.

Ychydig a wyddys am Wil Hopcyn ond credir mai ef oedd awdur y gân Bugeilio’r Gwenith Gwyn a’i bod wedi ei hysgrifennu ar gyfer Ann.  Claddwyd Ann yn y gangell yn Eglwys Llangynwyd ym mis Mehefin 1727.  Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd Wil ei gladdu ar dir yr eglwys.

M303

Mae hanes “Y Ferch o Gefn Ydfa” wedi parhau’n boblogaidd ac fe gafodd ei ail-adrodd yn aml gan grwpiau theatr teithiol. Ym 1913 gwnaed ffilm o’r stori gan William Haggar ac fe ddenodd dorfeydd enfawr pan gafodd ei dangos mewn lleoliadau ar draws De Cymru.  Ym mis Hydref 1914, roedd y balconi yn y Gnoll Picturedome yn llawn dop y tu hwnt i gapasiti, a dymchwelodd yn ystod y sioe. Adroddwyd, yn wyrthiol, na chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol a bod y ffilm wedi ei hailddechrau a’i chwblhau.

Mae’n debyg bod y ffotograffau wedi cael eu tynnu gan Edwin Miles ar gyfer digwyddiad a gynhaliwyd yn Llangynwyd ddydd Mercher 20 Mehefin 1928 pan ddadorchuddiwyd croes goffa i Wil yn y pentref a gosod carreg fedd newydd ym mynwent yr eglwys. Cymaint oedd y diddordeb yn Wil Hopcyn a’r “Ferch o Gefn Ydfa”, gorlifwyd y pentref gan filoedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru, a oedd yn awyddus i fod yn dyst i’r digwyddiad. Os edrychwch yn ofalus mae Miles wedi marcio dau o’r ffotograffau i nodi mai’r eglwys yw man gorffwys y Ferch, ac mae’n ddigon posibl eu bod wedi gwerthu’r ffotograffau i’r rhai a oedd wedi mynychu ym mis Mehefin 1928.

Tynnodd Edwin Miles luniau o lawer o drefi a phentrefi ar draws Morgannwg rhwng 1905 a 1929.  Mae’r ffotograffau o Eglwys Blwyf Llangynwyd, adnabyddir fel Sant Cynwyd, i’w gweld dan y cyfeirnod D261/M301-M306. Rydym yn bwriadu tynnu sylw at fwy o luniau o gasgliad Edwin Miles dros y misoedd nesaf. Gellir gweld y prif gasgliad yn Archifau Morgannwg neu ar-lein ar y catalog http://calmview.cardiff.gov.uk/ o dan gyfeirnod D261.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg