Mae rhandiroedd wedi bod mewn bodolaeth ers rhai cannoedd o flynyddoedd, o bosib mor bell yn ôl â chyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Ond dim ond yn ystod y 19eg ganrif y dechreuwyd eu defnyddio yn y ffordd yr ydym yn ei hadnabod heddiw. Yn y cyfnod hwnnw, roedd tir yn cael ei neilltuo ar gyfer teuluoedd tlawd yng nghefn gwlad fel y gallant dyfu bwyd. Roedd y rhain yn deuluoedd a oedd yn gweithio gan mwyaf. Yn yr ardaloedd trefol, fodd bynnag, defnyddiwyd rhandiroedd gan deuluoedd lled gyfoethog fel dull o ddianc rhag bywyd y ddinas. Ar ddiwedd y 1900au daeth y Ddeddf Tyddynnod a Rhandiroedd i rym, gan roi’r cyfrifoldeb dros ddarparu rhandiroedd yn nwylo awdurdodau lleol.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn amlwg na allai Prydain ddibynnu ar fewnforio bwyd o wledydd eraill mwyach, gan fod y llongau a oedd yn ei gludo yn aml yn darged i ffrwydron a daniwyd o longau a llongau tanfor yr Almaen. O ganlyniad i hyn, gwelwyd twf yn nifer y rhandiroedd wrth i awdurdodau lleol alluogi pobl i ddefnyddio tir diffaith i dyfu bwyd.
Roedd y Board of Agriculture a’r War Agriculutural Committee yn rhan o’r gwaith o helpu i sicrhau tir, er bod y penderfyniad terfynol yn nwylo’r cynghorau plwyf. Mor gynnar â mis Medi 1914, mae cofnodion plwyf yn dangos i’r Fwrdd Amaeth a Physgodfeydd annog preswylwyr Pencoed i amaethu gerddi a rhandiroedd (Cyngor Plwyf Pencoed, llyfr cofnodion, P131/1/2). Un o hoff opsiynau’r Bwrdd oedd defnyddio tir wrth ymyl ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer rhandiroedd. Yng ngorsaf drenau Llandaf, er enghraifft, defnyddiwyd tir wrth ymyl yr orsaf a gwesty’r orsaf (Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd, llyfr cofnodion, P6/64). Ond erbyn 1917 roedd yn amlwg nad oedd hyn yn ddigon. Ym Mhont-y-clun a Thalygarn, awgrymwyd y dylid defnyddio tir yr eglwys fel gerddi (Plwyf Pontyclun and Talygarn, llyfr cofnodion y festri, P205CW/33).
Un o’r problemau oedd yn wynebu awdurdodau lleol oedd nad oedd pawb oedd yn berchen ar dir y gellid ei amaethu yn fodlon ei roi i’w ddefnyddio fel rhandiroedd. Ym Mhlwyf y Castellnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, adroddodd cyngor y plwyf fod dyn o’r enw Mr Thomas wedi gwrthod ildio ei dir dro ar ôl tro, er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdodau lleol wedi dweud wrtho fod ganddynt yr hawl i brynu ei dir drwy orfod petai’n rhaid (Cyngor Plwyf Castellnewydd, llyfr cofnodion, P84/15).
Problem arall a ddaeth i’r wyneb oedd bod rhai mathau o dir yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Yn Llandudwg gwnaeth y cyngor plwyf hyn yn glir: ‘unless the allotments were allowed to be where the Surveyor had pegged out the ground that they would have nothing to do with them’ (Cyngor Plwyf Llandudwg, llyfr cofnodion, P88/2). Mae’n ymddangos bod prosesu ceisiadau i Gyngor Sir Morgannwg gan y cynghorau plwyf i ddefnyddio tir fel rhandiroedd yn cymryd amser. Mewn un achos, bu’n rhaid i blwyf Ynysawdre gysylltu ag Ystâd Dunraven i weld a allan nhw gynnig tir yn lle hynny (Cyngor Plwyf Ynysawdre, llyfr cofnodion, P129/2/3). Ond nid oedd yr Ystadau bob amser yn barod i’w tir gael ddefnyddio, fel y daeth yn amlwg i blwyf Trelales (Cyngor Plwyf Trelales, llyfr cofnodion, P81/7/1).
Roedd yr awdurdodau lleol yn ceisio helpu’r rheiny â rhandiroedd, gan roi cyngor ar amrywiaeth o faterion iddynt. Dywedodd cyngor plwyf Llanisien wrth eu garddwyr i roi ffrwythau a llysiau mewn potiau Kilner, gan y byddai hynny’n golygu na fyddai’n rhaid iddynt ddefnyddio siwgr i’w cadw (Plwyf Llanisien, cylchgrawn y plwyf, P55CW/61/31).
Yn Llancarfan gofynnodd y Pwyllgor Amaeth Rhyfel i gyngor y plwyf sicrhau bod tatws hadyd ar gael i ffermwyr rhandiroedd (Cyngor Plwyf Llancarfan, llyfr cofnodion, P36/11), er yn y Rhigos roedd Pwyllgor Amaeth Cyngor Sir Morgannwg wedi bod wrthi’n annog ffermwyr rhandiroedd i fuddsoddi yn eu tatws hadyd eu hunain (Cyngor Plwyf Rhigos, llyfr cofnodion, P241/2/1). Roedd y rhai oedd yn tyfu tatws yn cael eu hannog i’w chwistrellu i osgoi heintiau (Cyngor Plwyf Castellnewydd, llyfr cofnodion, P84/20).
Unwaith y daeth y rhyfel i ben, pylu wnaeth y diddordeb mewn rhandiroedd . Cafodd rhai tiroedd eu hadfer i’w cyflwr gwreiddiol, neu eu defnyddio at ddibenion eraill. Ond roedd un broblem eto i’w datrys. Roedd rhai o’r caeau a arferai gael eu defnyddio fel meysydd criced wedi cael eu troi’n rhandiroedd yn ystod y rhyfel, fel yr un yn St Fagan’s Road, Trelái (Cyngor Plwyf Llandaf, llyfr cofnodion, P53/30/5). Pan ddychwelodd y cricedwyr ar ôl y rhyfel i chwarae eto, roedd rhai o’u caeau chwarae wedi diflannu.
Roedd galw mawr am y caeau a oedd ar ôl, a oedd yn golygu bod dod o hyd i gae gwag i chwarae criced ynddo bron iawn yn amhosib (Plwyf y Rhath, cylchgrawn y plwyf, P57CW/72/10).
Andrew Booth, Cynorthwy-ydd Cofnodion Dros-dro