Codwyd Merthyr House ym 1918 ar gornel James Street ac Evelyn Street, Caerdydd Roedd yr adeilad yn mynd am yn ôl cyn belled ag Adelaide Place a chynigiai wedd flaen o garreg Bath i’r tair stryd. Wedi ei ddylunio gan y pensaer lleol, Henry Budgen, fe’i hadeiladwyd gan y cwmni adnabyddus o Gaerdydd E. Turner & Sons Ltd. Mae llyfryn gan Turner yn cyfeirio ati fel ‘pen gorllewinol’ yr adeilad, sy’n awgrymu bod uchelgais wedi bod i’w hestyn dros y bloc cyfan gyda gwedd flaen ychwanegol iddi ar Adelaide Street, ond ymddengys na wireddwyd hyn. O’r dechrau’n deg, swyddfeydd oedd yn Merthyr House. Ymhlith ei denantiaid roedd rhai o gwmnïau glo a llongau amlycaf De Cymru.
Yn oriau mân y bore ar ddydd Sul 17 Mawrth 1946, cyneuodd tân ar ail lawr swyddfeydd cwmni llongau Reardon-Smith. Ymddengys i’r tân gydio’n syth. Llwyddodd ymladdwyr tân i achub y gofalwr a’i deulu a oedd wedi eu dal ar y llawr uchaf ac ni chollwyd bywyd ac ni wnaed difrod sylweddol i adeiladau gerllaw. Llwyddwyd i arbed rhan sylweddol o ochr ddeheuol yr adeilad ond dinistriwyd y rhan ogleddol (James Street). Yn ogystal â cholli eu swyddfeydd gweithredol, collodd sawl cwmni gofnodion yn nodi eu hanes fel cwmnïau.
Ychydig ddyddiau wedi’r digwyddiad, lleisiodd Sir James Wilson, Prif Gwnstabl Caerdydd, feirniadaeth am arafwch y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol yn ymateb, a hefyd y modd yr aethant ati i ymladd y tân. Penodwyd John Flowers KC gan yr Ysgrifennydd Cartref i ymholi i’r cwestiynau a godwyd gan Sir James, a chyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Fel mae’n digwydd, nid yn unig i Flowers fethu cyfiawnhau unrhyw un o’r cwynion, ond yn hytrach fe ganmolodd yn benodol y modd y bu i un swyddog tân fynd i’r afael â’r achub a fu ar drigolion y llawr uchaf.
Ym 1950, gwnaed cais gan y perchnogion, J Cory & Sons Ltd, i adnewyddu Merthyr House. Mae eu cynlluniau yn dangos yn glir fod pegwn James Street o’r adeilad wedi ei dynnu yn llwyr; gyda’r gwagle yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio. Mewn gwirionedd, ni ailadeiladwyd y rhan ogleddol, er i floc mynediad concrid braidd yn hyll gael ei ychwanegu, ar ryw bwynt, ar yr ochr yna i’r adeilad.
Ni lwyddodd Merthyr House i adfer y statws a fu ganddo cyn y tân fel un o brif adeiladau swyddfeydd Butetown. Yn gynnar yn y 60au, bu’n gartref i ddosbarthwr moduron; yn ddiweddarach bu’n gartref i Adran Waith Gwasg Prifysgol Cymru. Ac ar ryw bwynt, cafodd ei ail-fedyddio yn Imperial House. Wedi iddo gael ei esgeuluso am nifer o flynyddoedd, dymchwelwyd yr adeilad ac mae’r safle ar hyn o bryd yn wag.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor [D1093/2/31]
- Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer atgyweirio Merthyr House, James Street, 1950 [BC/S/1/39995]
- Flowers, John KC, Inquiry into the Fire at Merthyr House, James Street, Cardiff on the 17th March 1946 (Cmd. 6877)
- Superb Buildings erected by E. Turner & Sons Ltd (1929)
- Lee, Brian, Cardiff’s Vanished Docklands
- Lee, Brian & Butetown History and Arts Centre, Butetown and Cardiff Docks (cyfres Images of Wales)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- South Wales Echo, 18 Mawrth 1946; 21 Mawrth 1946; 3 Awst 1946