Roedd y 75ain derbynyn a gafwyd yn 1999 yn cynnwys tri llun; dau yn dangos aelodau Clwb Hoci Caerdydd, yn nhymhorau 1921-22 a 1922-23, mae’r llall yn dangos glasfyfyrwyr Coleg yr Iesu, Caergrawnt yn 1915.
Sefydlwyd Clwb Hoci Caerdydd yn 1896. Enw’r clwb oedd Clwb Hoci y Rhath bryd hynny. Ond newidiodd yr enw’n fuan, ac erbyn 1899 roedd ganddyn nhw dimau llwyddiannus yn chwarae yn erbyn cystadleuwyr lleol.
Mae’r chwaraewyr yn ein lluniau wedi’u henwi.
Y XI Cyntaf ar gyfer 1921-22 oedd: (Rhes Gefn chwith-dde) R. S. R. David, H. W. Brown, J. H. Bennett, F. T. Arnold, W. S. Courtis, K. R. D. Fawcett, B. S. Rees (Rhes Flaen chwith-dde) W. A. Phillips, G. M. Turnbull, G. M. Maine-Tucker, R. T. S. Hinde (Capt.), A. T. Harper, A. Edmunds
Yn 1922-23 roedd y XI Cyntaf yn cynnwys: (Rhes Gefn chwith-dde) Fred Thomas (Ref.), J. D. Morgan, L. R. Morgan, D. A. Duncan, C. V. Miller, R. Parry Jones, A. T. Harper (Rhes Flaen chwith-dde) R. S. R. David, Captain R. T. O. Cary, H. W. Browne (Capt.), R. T. S. Hinde, B. S. Rees
Tynnwyd y llun o lasfyfyrwyr Coleg yr Iesu yn 1915, yn ystod blynyddoedd cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n cynnwys:
(Rhes Gefn chwith-dde) J. Williams, H. C. Lee, A. Jackson, M. Solomans, A. J. Newling, C. T. Deshmulche (Rhes Flaen chwith-dde) J. K. Redgrave, A. Richardson, Rev. N. B. Nash, L. A. Pare, B. S. Lloyd, R. S. R. David, Rev. K. H. Gray
Os oes gennych unrhyw wybodaeth ar y myfyrwyr hyn, neu ar chwaraewyr Hoci Caerdydd, hoffen ni glywed gennych chi.