Rhifau 5 a 7 Heol y Gadeirlan, Caerdydd

Mae’n debyg bod y rhain gyda’r tai cyntaf i gael eu codi ar Heol y Gadeirlan.  Cyn rhifo eiddo, adnabyddid hwy fel Leonida Villa (rhif 5) a Bryn Tawel Villa (rhif 7). Mae ffotograff, y tybir iddo gael ei dynno dŵr y cloc ar Gastell Caerdydd tua 1871, yn cynnwys adeilad sydd yn edrych yn debyg iawn i hwn, ond heb y ffenestr fae, a phrin iawn yw’r eiddo gerllaw.  Fodd bynnag mae ei hanes yn mynd nôl o leiaf degawd cyn hynny gan fod Bryn Tawel Villa yn ymddangos yng nghyfrifiad 1861, pan oedd Thomas Morgan, groser 53 oed wedi ymddeol a’i ferch Catherine, 24 oed, yn byw yno. Roeddent yn dal yno ym 1871 ond bu Thomas farw ym 1875 a Catherine ym mis Medi 1876. Erbyn 1881, roedd prif argraffydd 29 oed yn byw yno, William d Jones, gyda’i fam weddw, Elvena.  Does dim un o’r cyfrifiadau hyn yn crybwyll Leonida Villa – ac nid yw i’w ganfod yng nghyfeirlyfrau’r cyfnod chwaith.

rsz_d1093-2-21_to_44_022_7_cathedral_road

Mae teulu o’r enw Morgan yn ôl ym Mryn Tawel erbyn 1891, teulu Palmer Morgan – groser arall wedi ymddeol, ond ni wyddom a oedd yn perthyn i Thomas a Catherine.  Dyma’r dyddiad y mae Leonida Villa yn ymddangos am y tro cyntaf, gyda Charles Arkell, dilladwr, yn byw yno gyda’i wraig a’i deulu.  Yng nghyfrifiad 1901, cofnodwyd newidiadau pellach gyda Sarah A Davies yn rhif 7 (Bryn Tawel).  Er ei bod yn briod, ymddengys bod ei gŵr yn absennol ar ddiwrnod y cyfrifiad oherwydd mae hi wedi ei rhestru ar ei phen ei hun gyda rhywun yn gweini yn unig.  Yn rhif 5 (Leonida), erbyn hynny roedd Mary Ann Allgood yn byw yno.

Erbyn 1908, roedd James Chaddock, Dirprwy Uwch-arolygydd yn Swyddfa’r Post, yn rhif 7, a Mrs Mary Evans yn rhif 5. Derbyniodd ganiatâd adeiladu ym 1909 i estyn y porth ar flaen y tŷ sydd i’w weld yn glir yn y llun.   Arhosodd Mrs Evans yno tan o leiaf 1920 ond roedd Chaddock wedi gadael erbyn 1913, pan symudodd John Lyal Williams i rif 7, roedd yn athro ysgol elfennol a oedd yn gweithio yn Ysgol Gyngor Metal Street ac roedd hefyd yn weithgar gydag Undeb Rygbi Cymru.  Bu yno tan fu farw ym mis Tachwedd 1945. Daeth ei fab, John George Williams, a aned ym 1913, yn adarwr o fri a dreuliodd lawer o’i fywyd fel curadur yn Amgueddfa Genedlaethol Kenya yn Nairobi.

Mae Cyfeirlyfr Caerdydd ym 1955 yn rhestru Kenneth J.Williams yn rhif 7 ond erbyn 1964 roedd y tŷ wedi ei droi yn swyddfeydd cyfrifyddion ac asiantau tai.

Yng Nghyfeirlyfr Caerdydd 1932, mae David Rees Jones, meddyg teulu, yn rhif 5, lle y bu tan fu farw yntau ar 7 Ionawr 1971.

Tynnodd Mary Traynor lun yr adeilad ym 1980, ond ers hynny mae wedi ei ddymchwel a’i ddisodli gan floc o swyddfeydd modern o’r enw Carlyle House.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/22]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer toiled newydd mewn villa, Heol y Gadeirlan, 1876 [BC/S/1/603]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer newidiadau i dy, Heol y Gadeirlan, 1876 [BC/S/1/650]
  • Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau rheoli adeiladu, cynllun ar gyfer ystafell uwch ben porth, 5 Heol y Gadeirlan, 1909 [BC/S/1/17131]
  • Cyfrifiad 1871 – 1911
  • Cyfeirlyfrau amrywiol Caerdydd a De Cymru
  • The Medical Directory, 1967
  • Jones, Bryan, Canton (cyfres Images of Wales)
  • Mynegai y Cofrestrydd Cyffredinol i Genedigaethau a Phriodasau
  • Rhestrau Profiant Cenedlaethol Cymru a Lloegr, 1875, 1876, 1945, 1971 & 1978
  • Western Mail, 6 Tach 1945
  • http://www.independent.co.uk/news/obituaries/obituary-j-g-williams-1138759.html

Y Tu Mewn i’r Synagog Unedig, Heol y Gadeirlan, Caerdydd

Er bod Iddewon yn byw yng Nghaerdydd yn y 18fed ganrif, ni sefydlwyd cymuned Iddewig tan hanner cyntaf y 19eg ganrif.  Agorodd synagog parhaol cyntaf y dref yn East Terrace, sydd bellach yn ffurfio pen deheuol Ffordd Churchill, yn 1858. Yn y 1880au, ymwahanodd rhan o’r gynulleidfa o East Street gan sefydlu synagog ar wahân yn Edward Place, oddi ar Stryd Ogleddol Edward, lle mae Canolfan Capitol a Tŷ Churchill erbyn hyn.   Erbyn 1894, roedd cynulleidfa East Terrace yn rhy fawr ar gyfer ei hadeilad a phrynwyd safle yn Heol y Gadeirlan er mwyn adeiladu synagog newydd.  Roedd y lleoliad a ddewiswyd, yn adlewyrchu, yn rhannol, ffyniant cynyddol llawer o deuluoedd Iddewig, sydd bellach wedi symud o ardal y Dociau i Dreganna a Glan-yr-afon.

Agorwyd y synagog newydd ddydd Mercher 12 Mai 1897 ym mhresenoldeb Prif Rabbi’r Deyrnas Unedig, Dr Hermann Adler.  Wedi’i ddylunio gan y pensaer o Lundain, Delissa Joseph, gallai ddal 241 o ddynion ar y llawr daear a 158 o ferched yn yr oriel, gyda lle i ymestyn yn y dyfodol.

d1093-2- 019 Interior, United Synagogue, Cathedral Road_compressed

Yn 1941, cytunodd dwy gynulleidfa yng Nghaerdydd i uno fel Synagog Unedig Caerdydd.  Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, symudodd llawer o deuluoedd Iddewig i Ben-y-lan a Chyncoed, a arweiniodd at sefydlu synagog newydd oddi ar Tŷ Gwyn Road yn 1995 (cafodd hwn ei ail-leoli yng Ngerddi Cyncoed yn 2003). Parhaodd synagog Heol y Gadeirlan i weithredu tan 1989, pan gafodd ei gau.  Bellach wedi’i ail-enwi yn Temple Court, mae’r tu mewn wedi’i addasu i’w ddefnyddio fel swyddfeydd.

David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor [D1093/2/15]
  • Cofnodion a Phapurau Cymuned Iddewig Caerdydd, llyfryn coffa i ddathlu 60 mlynedd ers agor Synagog Heol y Gadeirlan, 1957 [DJR/5/16]
  • http://www.cardiffshul.org/history2.htm
  • Cardiff Times and South Wales Weekly News, 15 Mai 1897